Teithio llesol

Cyhoeddwyd 31/03/2022   |   Amser darllen munud

Heddiw, fe fydd cynhadledd flynyddol Llywodraeth Cymru ar deithio llesol yn dychwelyd, wedi’i darparu ar y cyd â Sustrans. Fodd bynnag, beth yn union yw teithio llesol a pham fod hynny’n bwysig yng Nghymru?

Mae gwella a hyrwyddo llwybrau a chyfleusterau teithio llesol wedi’i ymgorffori yn y gyfraith yng Nghymru ers 2013. Mae Deddf Teithio Llesol Cymru 2013 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau priffyrdd Cymru i wneud gwelliannau blynyddol. Mae ein papur briffio newydd yn ystyried beth yw’r dyletswyddau hynny; sut mae teithio llesol wedi’i wreiddio yn y broses o lunio polisïau yng Nghymru, lefelau cyllid Lywodraeth Cymru ar gyfer teithio llesol ers i’r Ddeddf ddod i rym a faint o bobl sy’n teithio’n llesol yng Nghymru mewn gwirionedd. At hynny, mae’n bwrw golwg ar enghreifftiau o sut y gellir gwella cyfraddau teithio llesol, o ymyriadau o ran seilwaith i derfynau cyflymder ar gyfer gyrwyr.


Erthygl gan Rhiannon Hardiman, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru