Tegwch wrth roi meddyginiaethau

Cyhoeddwyd 18/05/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

18 Mai 2016 Erthygl gan Philippa Watkins, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Daw’r erthygl hon o ‘Materion o Bwys i’r Pumed Cynulliad’, a gyhoeddwyd ar 12 Mai 2016.

A oes loteri cod post yn bodoli wrth ariannu cyffuriau'r GIG, ynteu a yw'r prosesau cywir gennym i sicrhau bod cleifion yng Nghymru yn cael y triniaethau mwyaf effeithiol mewn ffordd deg?

Bydd y cyfryngau yn aml yn rhoi sylw i achosion lle bydd cleifion yn methu â chael meddyginiaethau penodol drwy'r GIG. Bydd gwleidyddion hefyd yn clywed am etholwyr sydd wedi cael anhawster yn cael y driniaeth fwyaf addas iddynt yn eu barn hwy a'u meddygon. Mae'n fater emosiynol ac anodd. Gyda chyllideb gyfyngedig a galw cynyddol am wasanaethau, mae GIG Cymru o dan bwysau cynyddol i ddangos ei fod yn blaenoriaethu'n effeithiol ac yn sicrhau gwerth am arian. Mae cleifion yng Nghymru, serch hynny, am gael eglurder a sicrwydd ynghylch triniaethau ac, yn fwy na dim, am deimlo nad ydynt yn rhan o loteri cod post. Arfarnu meddyginiaethau Cyn y gellir defnyddio meddyginiaethau newydd i drin cleifion y GIG fel mater o drefn, mae’n rhaid mynd drwy broses arfarnu i benderfynu a yw'r budd i gleifion yn cyfiawnhau'r gost. [caption id="attachment_779" align="alignright" width="256"]Llun: Dan drwydded Creative Commons. Llun: Dan drwydded Creative Commons.[/caption] Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn cynghori'r GIG ar effeithiolrwydd clinigol ac effeithiolrwydd cost meddyginiaethau sydd newydd gael eu trwyddedu. Mae sail statudol i'r cyngor hwn yng Nghymru a Lloegr, gyda rhwymedigaeth gyfreithiol ar fyrddau iechyd Cymru i ariannu meddyginiaethau sydd wedi'u cymeradwyo gan NICE. Mae gan Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) gyfrifoldeb i arfarnu meddyginiaethau newydd nad ydynt ar raglen waith NICE. Mae gofyniad cyfreithiol ar fyrddau iechyd yng Nghymru i ariannu meddyginiaethau a gymeradwywyd gan AWMSG hefyd. Cronfa Cyffuriau Canser Yn Lloegr, mae'r Gronfa Cyffuriau Canser yn ariannu'n rheolaidd nifer o feddyginiaethau canser nad ydynt ar gael drwy'r GIG. Drwy gydol y Pedwerydd Cynulliad, roedd Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu'r galw am gronfa debyg. Ei dadl oedd bod cronfa o’r fath yn gwahaniaethu yn erbyn cyflyrau iechyd eraill, ac nad yw'r gronfa wedi bod yn well i gleifion yn Lloegr nag yng Nghymru wrth gynnig meddyginiaethau newydd a chost-effeithiol. Yn 2013, dywedodd y Prif Weinidog:
... rydym yn gwybod nawr nad yw’r gronfa cyffuriau canser yn ddim mwy na thwyll. Byddaf yn egluro pam rwy’n dweud hynny. O’r rhai sy’n gwneud cais am gyllid i’r gronfa cyffuriau canser, mae mwy na 70% yn cael eu gwrthod. O ran y gronfa gyfatebol yng Nghymru, y ceisiadau cyllido cleifion unigol, sy’n agored i bobl â phob cyflwr, nid yn unig y rhai sy’n dioddef o ganser, derbynnir mwy na hanner y ceisiadau.
Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol (IPFR) Os nad yw meddyginiaeth arbennig wedi cael ei chymeradwyo gan NICE neu AWMSG at ddefnydd cyffredinol yn y GIG yng Nghymru, gall clinigydd anfon Cais Cyllido Claf Unigol at fwrdd iechyd. Caiff y ceisiadau hyn eu hystyried ar sail pa mor ‘eithriadol’ yw’r achos. Cyhoeddwyd polisi Cymru gyfan ar gyfer hyn yn 2011, gyda'r nod o sicrhau dull cyson o benderfynu ar y ceisiadau. Mae’r broses hon wedi cael ei beirniadu’n gyson. Clywodd ymchwiliad canser Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Pedwerydd Cynulliad yn 2014 ei bod yn bosibl bod paneli’r byrddau iechyd yn ymdrin â cheisiadau mewn ffyrdd gwahanol, ac argymhellodd y Pwyllgor fod panel cenedlaethol yn cael ei sefydlu er mwyn sicrhau cysondeb a thegwch ledled Cymru. Comisiynodd Llywodraeth Cymru adolygiad (a gyhoeddwyd yn 2014) a wnaeth nifer o argymhellion i gryfhau'r broses, ond ni wnaeth yr adolygiad hwn argymell creu panel ar gyfer Cymru gyfan. Newidiadau i'r Gronfa Cyffuriau Canser Bydd model newydd ar gyfer y Gronfa Cyffuriau Canser yn cael ei gyflwyno yn Lloegr ym mis Gorffennaf 2016. Bydd y gronfa bellach yn dod o dan gylch gwaith NICE, a dylai hyn sicrhau bod cleifion yn cael cyffuriau newydd yn gynt a bod mwy o sicrwydd am ba driniaethau sydd ar gael. Mae NICE a GIG Lloegr wedi cadarnhau mai cyfrifoldeb y gwledydd datganoledig fydd penderfynu sut y maent am ymateb i drefniadau newydd y Gronfa Cyffuriau Canser. Nid yw'n glir eto sut y gallai'r newidiadau effeithio ar Gymru. Bydd NICE yn arfarnu llawer mwy o gyffuriau, a hynny yn gynharach yn y broses. Gallai hyn effeithio ar raglen waith AWMSG, neu ar gyllideb meddyginiaethau GIG Cymru, ac ystyried bod yn rhaid i fyrddau iechyd ariannu meddyginiaethau a gymeradwywyd gan NICE. Yn Lloegr, o dan y model newydd, os gwneir argymhelliad drafft i’r GIG i gomisiynu cyffuriau fel mater o drefn, neu i’w defnyddio drwy’r Gronfa Cyffuriau Canser, yna bydd y cyffuriau hynny ar gael ar unwaith i gleifion, gan eu hariannu dros dro drwy'r Gronfa Cyffuriau Canser. Mae Cancer Research UK yn galw am eglurder ynghylch beth fydd goblygiadau'r newidiadau i gleifion yn y gwledydd datganoledig lle nad oes unrhyw ddull tebyg ar gael ar hyn o bryd i ariannu’r meddyginiaethau hyn dros dro. Mae Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan wedi sefydlu un dull posibl o ariannu rhai triniaethau newydd yng Nghymru. Bydd y broses 'Cymru'n Un' yn caniatáu comisiynu meddyginiaethau interim ar gyfer carfannau penodol o gleifion, cyn belled â bod cynhyrchwyr y meddyginiaethau hynny yn cytuno i gymryd rhan mewn arfarniad dilynol gan AWMSG neu NICE. Rhagwelir, fodd bynnag, na fydd y broses hon yn cael ei defnyddio'n aml. Waeth beth fo'r newidiadau yn Lloegr, bydd cleifion a rhanddeiliaid eraill am deimlo'n hyderus bod y system i arfarnu ac ariannu meddyginiaethau yng Nghymru yn gadarn ac yn dryloyw, ac yn sicrhau bod triniaethau effeithiol ar gael yng Nghymru mewn ffordd deg. Ffynonellau Allweddol View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg