Llun o Stryd y Taf, Pontypridd

Llun o Stryd y Taf, Pontypridd

Tatŵs, tybaco, toiledau a mwy: y wybodaeth ddiweddaraf am Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017

Cyhoeddwyd 20/05/2024   |   Amser darllen munudau

Cafodd Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 Gydsyniad Brenhinol ar 3 Gorffennaf 2017. Nod y Ddeddf yw mynd i’r afael â nifer o bryderon iechyd cyhoeddus penodol. Mae’n cynnwys darpariaethau sy’n ymwneud â’r canlynol:

Graphic highlighting the different elements of the Public Health (Wales) Act 2017: gordewdra, tybaco a chynhyrchion nicotin, ymarferwyr a busnesau sy’n cynnal triniaethau arbennig (aciwbigo, tyllu’r corff, electrolysis, a thatŵio), rhoi twll mewn rhan bersonol o'r corff, asesiadau o’r effaith ar iechyd, gwasanaethau fferyllol, toiledau sydd ar gael i’r cyhoedd eu defnyddio,

Mae rhai rhannau o’r Ddeddf mewn grym, ond mae eraill ar wahanol gamau o’u datblygiad. Yn yr erthygl hon, rydym yn nodi’r cynnydd a wnaed i roi gwahanol elfennau’r Ddeddf ar waith.

Rhan 2 Gordewdra

Mae Rhan 2 o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ac adolygu strategaeth genedlaethol ar atal gordewdra a lleihau lefelau gordewdra.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach ym mis Hydref 2019.

I gyd-fynd â’r strategaeth, cyhoeddwyd y cynlluniau a ganlyn:

Cafodd 'asesiad gwerthusadwyedd' ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2022, a oedd yn edrych ar sut y gellid gwerthuso'r strategaeth a'r data angenrheidiol.

Rhagor o wybodaeth:

Mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cynnal ymchwiliad i atal iechyd gwael - gordewdra. Mae ei alwad am dystiolaeth yn cau ym mis Mehefin 2024.

Rhan 3 Tybaco a chynhyrchion nicotin

Mae Pennod 1 yn ailddatgan cyfyngiadau ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus a gweithleoedd caeedig a sylweddol gaeedig, ac mae’n ymestyn y gofynion di-fwg i leoliadau pellach yng Nghymru. Mae'n cynnwys darpariaeth i ymestyn y cyfyngiadau ar ysmygu i adeiladau neu gerbydau ychwanegol, pan ystyrir bod hyn yn 'debygol o gyfrannu at hybu iechyd pobl Cymru'.

Daeth Rheoliadau Mangreoedd a Cherbydau Di-fwg (Cymru) 2020 i rym ar 1 Mawrth 2021. Maent yn disodli rheoliadau blaenorol ac yn ailddatgan y gwaharddiad presennol ar ysmygu. Gwnaethant hefyd ymestyn y gwaharddiad i dir ysbystai, tir ysgolion, meysydd chwarae cyhoeddus, a lleoliadau gofal plant awyr agored.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau ar y newidiadau i ddeddfwriaeth ddi-fwg i gefnogi’r gweithredu.

Rhagor o wybodaeth:

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth ar reoli tybaco - Cymru ddi-fwg – ym mis Gorffennaf 2022, gan nodi ei huchelgais i Gymru fod yn ddi-fwg erbyn 2030.

Cyhoeddwyd cynllun cyflawni ar reoli tybaco 2022 i 2024 i gyd-fynd â hyn.

Mae Pennod 2 yn sefydlu cofrestr genedlaethol o fanwerthwyr tybaco a chynhyrchion nicotin. Bydd yn drosedd i fanwerthwyr werthu cynhyrchion tybaco/nicotin o fangre (gan gynnwys unedau symudol) yng Nghymru os nad ydynt ar y gofrestr genedlaethol.

Mae Pennod 3 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i ychwanegu at y troseddau sy’n cyfrannu at Orchymyn Mangre o dan Gyfyngiad yng Nghymru. (Mae Gorchymyn Mangre o dan Gyfyngiad yn gwahardd y busnes a phob un o'i staff rhag gwerthu unrhyw gynhyrchion tybaco o'r safle dan sylw i unrhyw berson, am gyfnod o hyd at flwyddyn).

Mae Pennod 4 yn gwahardd rhoi tybaco a/neu gynhyrchion nicotin i unigolyn o dan 18 oed. Mae hyn yn ymwneud â sefyllfaoedd lle mae gyrrwr cerbyd sy'n danfon nwyddau, er enghraifft, yn rhoi cynhyrchion tybaco neu nicotin i rywun nad yw yng nghwmni oedolyn, gan wybod ei fod o dan 18 oed.

Nid yw penodau 2, 3, a 4 wedi cael eu deddfu eto. Mae Bil Tybaco a Fêps ar ei hynt drwy Senedd y DU ar hyn o bryd. Nod y Bil yw diweddaru a chryfhau nifer o feysydd deddfwriaeth a rheoliadau presennol sy'n ymwneud â thybaco a fêps. Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried ymhle y gall fod angen cryfhau ychwanegol ar ôl i’r Bil gwblhau ei daith.

Rhan 4 Triniaethau arbennig

Mae'r Ddeddf yn creu cynllun trwyddedu gorfodol ar gyfer ymarferwyr a busnesau sy'n rhoi triniaethau arbennig yng Nghymru. Y pedair triniaeth a bennir yn y Ddeddf yw aciwbigo, tyllu’r corff, electrolysis a thatŵio. Bydd yn drosedd i ymarferydd gynnal unrhyw un o'r triniaethau arbennig hyn heb drwydded, neu gyflawni unrhyw driniaethau o safle neu gerbyd nad yw wedi'i gymeradwyo. Ceir darpariaeth i ychwanegu at y rhestr o driniaethau arbennig (neu i dynnu triniaethau oddi arni) trwy reoliadau, i ystyried arferion newydd a newidiadau mewn tueddiadau, ac unrhyw dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg o risg i iechyd y cyhoedd.

Yn 2023, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar egwyddorion cynllun trwyddedu gorfodol, a dywedodd ei bod yn bwriadu cychwyn y rhan hon o'r Ddeddf a gweithredu'r cynllun trwyddedu drwy wneud rheoliadau.

Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar y rheoliadau drafft a'r canllawiau statudol ar gyfer trwyddedu gorfodol ar gyfer triniaethau arbennig yng ngwanwyn 2024.

Rhan 5 Rhoi twll mewn rhan bersonol o'r corff

Mae’r Ddeddf yn gwahardd y weithred o roi twll mewn rhan bersonol o gorff unigolyn sydd o dan 18 oed yng Nghymru, mewn unrhyw leoliad. Bydd hefyd yn drosedd i wneud trefniadau i gyflawni triniaeth o'r fath ar unigolyn o dan 18 oed. Mae 'rhoi twll mewn rhan bersonol o'r corff' yn cynnwys tyllu'r tethi, y fron, yr organau rhywiol, y ffolennau, neu'r tafod.

Daeth Rhan 5 o’r Ddeddf (Rhoi Twll mewn Rhan Bersonol o’r Corff) i rym ar 1 Chwefror 2018.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau i fusnesau ac ymarferwyr, gan gyhoeddi canllawiau i swyddogion gorfodi mewn awdurdodau lleol ar wahân.

Daeth Rheoliadau Gwrthrychau Rhagnodedig ar gyfer Rhoi Twll mewn Rhan Bersonol o’r Corff (Cymru) 2019 i rym ar 1 Awst 2019. Maent yn diffinio 'gwrthrychau' a ddefnyddir i roi twll mewn rhan bersonol o'r corff ac yn ehangu cwmpas y ddeddfwriaeth bresennol a oedd yn ymdrin â gemwaith yn unig.

Rhan 6 Asesiadau o’r effaith ar iechyd

Mae'r Ddeddf yn rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gynnal asesiadau o’r effaith ar iechyd mewn amgylchiadau penodol. (Disgrifir asesiadau o’r effaith ar iechyd yn ddull systematig o ystyried iechyd fel rhan o brosesau gwneud penderfyniadau a chynllunio).

Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar reoliadau drafft ar asesiadau o’r effaith ar iechyd yn ystod gaeaf 2023-24.

Rhan 7: Gwasanaethau fferyllol

O dan y Ddeddf, bydd yn ofynnol i fyrddau iechyd gynnal a chyhoeddi 'asesiadau o anghenion fferyllol' ar gyfer eu hardaloedd. Mae'r Ddeddf yn diwygio'r prawf 'rheoli mynediad' cyfredol fel bod penderfyniadau ynglŷn â cheisiadau i ymuno â rhestr fferyllol bwrdd iechyd yn seiliedig ar a yw'r cais yn diwallu'r anghenion a nodir yn yr asesiad o anghenion fferyllol lleol.

Daeth Rhannau 1 i 4 a 9 i 11 o'r Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020 i rym ar 1 Hydref 2020. Daeth Rhannau 5 i 8 i rym ar 1 Hydref 2021.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau i fyrddau iechyd ar eu dyletswyddau parthed asesu anghenion fferyllol.

Rhan 8 Darpariaeth toiledau

O dan y Ddeddf, mae’n ofynnol i bob awdurdod lleol yng Nghymru baratoi a chyhoeddi strategaeth toiledau lleol. Rhaid i’w strategaethau gynnwys asesiad o angen ei gymuned am doiledau (gan gynnwys cyfleusterau newid babanod a chyfleusterau Changing Places ar gyfer pobl anabl), a rhaid iddynt nodi sut y mae'r awdurdod lleol yn bwriadu diwallu'r angen hwn.

Rhaid i awdurdodau lleol ymgynghori ar eu strategaethau drafft. Rhaid i Lywodraeth Cymru gyflwyno canllawiau i awdurdodau lleol ynghylch paratoi, adolygu a chyhoeddi strategaethau. Nid yw'r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu na chynnal toiledau cyhoeddus, ac nid yw'n ei gwneud yn ofynnol, yn benodol, i awdurdodau lleol weithredu eu strategaethau toiledau.

O 31 Mai 2018, roedd gan awdurdodau lleol flwyddyn i asesu angen eu cymuned am doiledau a rhoi strategaeth ar waith.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau statudol ar gyfer awdurdodau lleol ym mis Awst 2018.

Cyhoeddir strategaethau toiledau lleol ar wefannau awdurdodau lleol.

Rhagor o wybodaeth:

Mae map toiledau cenedlaethol ar gael ar MapDataCymru. Mae hyn yn cynnwys toiledau a nodir gan awdurdodau lleol fel rhai sydd ar gael i'r cyhoedd eu defnyddio. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau i awdurdodau lleol ar sut i gyflwyno data ar leoliadau toiledau.


Erthygl gan Philippa Watkins, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru