Taro'r Tant – Dadl yn y Cynulliad ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar wasanaethau cerddoriaeth

Cyhoeddwyd 22/10/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Ar 24 Hydref, bydd Aelodau'r Cynulliad yn cynnal dadl ynghylch adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar ei ymchwiliad i ariannu addysg cerddoriaeth a gwella mynediad ati, sef Taro'r Tant [PDF 1,478KB].

Yn ystod haf 2016, gofynnodd y Pwyllgor i'r cyhoedd benderfynu ar flaenoriaethau'r Pwyllgor. Addysg cerddoriaeth a ddaeth flaenaf yn y bleidlais.

Pa fath o addysg cerddoriaeth?

Er bod cerddoriaeth yn bwnc ar gwricwlwm cenedlaethol Cymru ar hyn o bryd, roedd ymchwiliad y Pwyllgor yn canolbwyntio ar addysg cerddoriaeth anstatudol y tu allan i'r ysgol. Mae hyn yn ategu cerddoriaeth yn y cwricwlwm ac mae'n aml - ond dim bob amser - yn cael ei ddarparu gan wasanaethau cerddoriaeth awdurdod lleol.

Mae gwasanaethau cerddoriaeth awdurdod lleol yn cynnig cyfleoedd i ddisgyblion ddysgu i chwarae offeryn, perfformio, canu a chyfansoddi. Disgyblion sy'n cael gwasanaethau cerddoriaeth mewn ysgolion yw lefel gyntaf y system byramid, ac mae disgyblion yn mynd ymlaen i fod yn rhan o ensemblau lleol a rhanbarthol hyd at y chwe ensemble ieuenctid cenedlaethol. Roed yr ymchwiliad yn ystyried yr holl ddarpariaeth cerddoriaeth drwy'r holl byramid.

Cafwyd pryderon ynghylch gwasanaethau cerddoriaeth awdurdodau lleol ers sawl blwyddyn yng Nghymru (ac mewn rhannau eraill o'r DU hefyd). Mae gostyngiadau mewn gwariant cyhoeddus a chyfyngiadau ar gyllidebau awdurdodau lleol wedi golygu bod gwasanaethau cerddoriaeth anstatudol wedi wynebu pwysau cynyddol. Cafodd hyn ei gydnabod ym mis Ionawr 2015 pan sefydlodd y Gweinidog Addysg ar y pryd, Huw Lewis, Grŵp Gorchwyl a Gorffen [PDF 539KB] i ystyried rôl gwasanaethau cerddoriaeth awdurdodau lleol yn awr ac yn y dyfodol. Er gwaethaf gwaith y grŵp, fel y mae canlyniad y bleidlais yn ei awgrymu, roedd pryderon yn dal i fod.

Beth wnaeth y Pwyllgor ddarganfod

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gref ynghylch pwysigrwydd addysg cerddoriaeth a'r effaith gadarnhaol ehangach y mae'n ei chael ar ddysgu disgyblion, gan ei fod yn gofyn am ddisgyblaeth a dyfalbarhad. Ond mae'n bosibl y caiff y cyfleoedd hyn eu hamddifadu i nifer o ddisgyblion.

Cafwyd dwy brif thema o'r dystiolaeth: cydraddoldeb darpariaeth a chydraddoldeb mynediad. Clywodd y Pwyllgor fod darpariaeth cerddoriaeth yn amrywio'n fawr ar draws Cymru. Mae pwysau cynyddol ar gyllidebau awdurdodau lleol wedi golygu bod rhaid gwneud penderfyniadau anodd, ac mae rhai awdurdodau lleol wedi blaenoriaethu cyllid ar gyfer gwasanaethau statudol. Yn wir, fe wnaeth rhai awdurdodau lleol roi'r gorau i ariannu eu gwasanaethau cerddoriaeth, fel y gwnaed yn Sir Ddinbych lle sefydlwyd menter gydweithredol i lenwi'r bwlch.

Mewn rhai ardaloedd, mae cost addysg cerddoriaeth yn cael ei ysgwyddo gan y rhieni. Mae hyn y golygu nad yw mynediad at addysg cerddoriaeth bellach yn gyfartal i bawb.

Clywodd y Pwyllgor fod gwasanaethau cerddoriaeth awdurdodau lleol yn sylfeini i'r ensemblau cenedlaethol, a byddai'n anorfod y câi unrhyw ddirywiad mewn darpariaeth leol effaith andwyol ar yr ensemblau hynny. Roedd y Pwyllgor yn credu ei bod yn gwbl annerbyniol i'r ensemblau cenedlaethol ddod yn gilfachau o fraint, sy'n gwahardd disgyblion tlotach.

Dywedodd rhai, megis Owain Arwel Hughes, fod toriadau i wasanaethau cerddoriaeth ysgolion yn achosi argyfwng yn addysg cerddoriaeth Cymru. Fodd bynnag, nid pawb oedd yn cytuno â hyn - yn hytrach roedd rhai yn ystyried ei bod yn bosibl y daw'n argyfwng mewn amser. Nid oedd Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yn credu ei bod yn gywir disgrifio'r sefyllfa i fod yn argyfwng, ond roedd yn cydnabod bod trefniadau ariannu yn anodd i wasanaethau cerddoriaeth.

Corff cenedlaethol a chynllun cenedlaethol

Gwnaeth y Pwyllgor gyfanswm o 16 argymhelliad. Dau o'r prif argymhellion oedd y dylai Llywodraeth Cymru drosglwyddo cyfrifoldeb am ddarparu gwasanaethau cerddoriaeth i gorff cenedlaethol hyd braich gyda strwythur ranbarthol i'r ddarpariaeth, ac y dylai Llywodraeth Cymru baratoi Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Cerddoriaeth.

Mae'r Pwyllgor yn credu mai corff cenedlaethol yw'r ffordd orau o sicrhau bod pob disgybl yng Nghymru yn cael y cyfle cyfartal y maent yn ei haeddu gan gynnig ateb i nifer o'r problemau a ganfuwyd gan y Pwyllgor.

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth fod angen arweiniad strategol ar lefel genedlaethol a fyddai'n darparu strategaeth a gweledigaeth glir ar gyfer gwasanaethau cerddoriaeth. Nod hyn fyddai mynd i'r afael â'r lefelau presennol o anghysondeb.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru [PDF234KB] saith o argymhellion y Pwyllgor a derbyniodd dri argymhelliad mewn egwyddor. Argymhelliad mwyaf sylweddol y Pwyllgor oedd y dylid cael corff cenedlaethol sy'n gyfrifol am addysg cerddoriaeth, a derbyniwyd yr argymhelliad hwn mewn egwyddor yn amodol ar ganlyniad yr astudiaeth dichonoldeb i nodi ac asesu'r opsiynau ar gyfer darpariaeth cerddoriaeth yng Nghymru. Gallai'r astudiaeth dichonoldeb hefyd gynnwys creu cynllun cenedlaethol ar gyfer addysg cerddoriaeth.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru wrthod chwech o argymhellion y Pwyllgor, ond roedd rhai o'r rhain yn amodol ar greu cynllun cenedlaethol.


Erthygl gan Sian Hughes, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru