Targedau bioamrywiaeth ac egwyddorion amgylcheddol

Cyhoeddwyd 19/05/2025

Mae disgwyl i Fil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant, a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) (y Bil) gael ei gyflwyno i'r Senedd yr haf hwn. Disgwylir iddo:

  • gyflwyno fframwaith i ddiogelu ac adfer natur, gan gynnwys targedau bioamrywiaeth;
  • cyflwyno egwyddorion amgylcheddol cyffredinol i fod yn sail i benderfyniadau polisi a wneir yn y dyfodol; a
  • sefydlu corff llywodraethiant amgylcheddol parhaol i sicrhau bod awdurdodau cyhoeddus yn cadw at gyfreithiau amgylcheddol.

Mae'r papur briffio hwn yn ystyried targedau bioamrywiaeth statudol a'r fframwaith bioamrywiaeth newydd arfaethedig, yn ogystal ag egwyddorion amgylcheddol, cyn i’r Bil gael ei gyflwyno. Mae'n trafod yr hyn yr ydym yn ei wybod hyd yn hyn yn sgil y cynigion ym Mhapur Gwyn y Bil, ac mae’n cynnig dadansoddiad sy’n cymharu’r sefyllfa ar draws gwledydd eraill y DU er mwyn dysgu gwersi ganddynt ar y materion hyn.

Mae sefydlu corff llywodraethiant amgylcheddol, sef trydedd elfen y Bil, yn cael ei drafod mewn papur briffio ar wahân gan Ymchwil y Senedd.

Erthygl gan Dr Matthew Sutton a Dr Katy Orford, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru