Ar 22 Hydref 2025, bydd y Cyfarfod Llawn yn trafod adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol sef Codi tâl am arddangosfeydd.
Yn dilyn gostyngiadau i ddiwylliant yng Nghyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25, dywedodd Dawn Bowden AS, y Gweinidog Diwylliant ar y pryd fod rhoi diwedd ar fynediad am ddim i Amgueddfa Cymru – sydd wedi bod yn bolisi’r llywodraeth ers 2001 – o dan ystyriaeth. Er i hynny gael ei ddiystyru wedi hynny, cafwyd degawd o doriadau a oedd yn golygu bod cyllid ar gyfer diwylliant yng Nghymru ymhlith yr isaf yn Ewrop.
Penderfynodd Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd ymchwilio i'r polisi mynediad am ddim, ochr yn ochr ag effaith codi tâl am fynediad i arddangosfeydd.
Cyllid ar gyfer diwylliant ymhlith yr isaf yn Ewrop
Yn 2024-25 torrodd Llywodraeth Cymru gyllid refeniw ar gyfer diwylliant a chwaraeon 7.7% o'i gymharu â dyraniadau 2023-24, mewn cyllideb lle aeth cyllid i iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Gwelwyd cynnydd o 6.3% mewn dyraniadau cyllid cyfalaf, ond mae eu gwerth yn llai na hanner gwerth y dyraniadau refeniw.
Golyga hyn fod Llywodraeth Cymru, yn ôl ei chyfrifiadau ei hun, wedi lleihau cyllidebau refeniw yn y meysydd hyn tua 17% mewn termau real dros gyfnod o ddegawd. Dros yr un cyfnod, mae cyllidebau cyfalaf (sydd yn llai na hanner maint y cyllidebau refeniw) bron wedi treblu o ran maint.
Yn dilyn y gostyngiadau termau real helaeth hyn, mae lefelau cyllid cyhoeddus ar gyfer diwylliant yng Nghymru ymhlith yr isaf yn Ewrop. Mae gwaith dadansoddi gan Ymchwil y Senedd yn cymharu gwariant cyhoeddus ar ddiwylliant a chwaraeon â’r hyn a welir mewn 24 o wledydd Ewrop (gan gynnwys y DU gyfan) y mae data ar gael ar eu cyfer.
Ffynhonnell: Gwaith dadansoddi Ymchwil y Senedd ar ddata gan Lywodraeth Cymru, StatsCymru a’r OECD
Y gwariant cyfartalog ar wasanaethau diwylliant yn y gwledydd hyn yw £223.85 y pen. Yng Nghymru, y ffigwr cyfatebol yw £73.27 y pen, sef 33% o’r ffigwr cyfartalog ar gyfer y gwledydd dan sylw. Golyga hyn fod Cymru yn y safle olaf ond un o blith y 25 gwlad ar y rhestr.
Cynyddodd Llywodraeth Cymru gyllid ar gyfer diwylliant yng Nghyllideb 2025-26, er, yn fras, mai dim ond gwrthdroad oedd hyn o'r gostyngiadau yng Nghyllideb 2024-25.
Mae gwariant refeniw dyddiol (hynny yw, ac eithrio gwariant nad yw’n arian parod) ar gyfer cyrff diwylliant a threftadaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru wedi cynyddu 2.1% rhwng 2023-24 a Chyllideb Atodol Mehefin 2025-26. Mae hyn yn llai na chwyddiant, a oedd yn tua 4% rhwng 2023 a 2025.
Disgrifiodd Amgueddfa Cymru ostyngiadau 2024-25 fel y “toriadau mwyaf i gyllideb Amgueddfa Cymru erioed”. Ymatebodd drwy ddiswyddo 144 (neu un o bob chwech) o’i staff a lleihau oriau agor y gaeaf.
“Bydd angen i gyrff diwylliannol archwilio ffynonellau incwm eraill”
Ym mis Mehefin 2024, dywedodd Dawn Bowden AS, y Dirprwy Weinidog Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth ar y pryd, wrth y Pwyllgor Diwylliant fod codi tâl am fynediad i Amgueddfa Cymru dan ystyriaeth oherwydd y sefyllfa ddifrifol ynglŷn â'r gyllideb. Pwysleisiodd y canlynol:
“I'm not saying that that's where we will end up, but it would not be responsible of me to rule that out at this stage or to suggest to the museum that they shouldn't be exploring that.”
Gwrthododd Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Diwylliant dilynol, y dylid codi tâl am fynediad. Ond dywedodd Llywodraeth Cymru “bydd angen i gyrff diwylliant archwilio ffynonellau incwm eraill” i ymdopi â phwysau chwyddiant.
Mae mynediad am ddim wedi cynyddu nifer yr ymwelwyr, ond mae angen cyllid digonol
Mae mynediad i amgueddfeydd cenedlaethol ledled y DU wedi bod am ddim ers 2001, pan wnaeth amgueddfeydd gael gwared ar ffioedd yn gyfnewid am gyllid gan lywodraethau.
Yn ôl Nia Elias yn Amgueddfa Cymru “pan wnaethom ni fynd yn ddi-dâl fe wnaeth y niferoedd ddyblu”. Ond, gwnaed y pwynt nad yw mynediad am ddim, ynddo'i hun, yn arwain at bresenoldeb economaidd-gymdeithasol cyfartal mewn amgueddfeydd, gan Dr Mark O'Neil, cyn bennaeth Amgueddfeydd Glasgow.
Dywedodd ef wrth y Pwyllgor: “the primary predictor of museum visiting isn't income, and charging isn't the most significant barrier. The greatest predictor of museum visiting is the prior level of education.”
Cefnogodd y Pwyllgor fynediad am ddim, ond roedd yn teimlo nad oedd Llywodraeth Cymru wedi cyflawni ei chyfrifoldeb i ariannu Amgueddfa Cymru yn ddigonol ar gyfer ei darpariaeth. Dywedodd, “mae'n dditiad o'r lefelau ariannu hanesyddol isel hyn bod Dirprwy Weinidog blaenorol y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi dweud wrth y Pwyllgor hwn fod codi tâl am fynediad yn opsiwn dan ystyriaeth”. Galwodd am i fynediad am ddim aros yn bolisi Llywodraeth Cymru, ynghyd â “chyllid digonol” i Amgueddfa Cymru hwyluso hyn.
“Ychydig iawn o sioeau dros dro sy’n gwneud elw llwyr”
Yn y pen draw, gwrthododd Llywodraeth Cymru gael gwared ar fynediad am ddim. Ond a all codi tâl am arddangosfeydd unigol helpu amgueddfeydd i lenwi'r bylchau a achosir gan ostyngiad mewn cyllid gan y llywodraeth mewn termau real?
Roedd “Trysorau: Anturiaethau Archaeolegol” yn arddangosfa y codwyd tâl amdani a gynhaliwyd gan yr Amgueddfa yn 2016. Ar ôl i’r incwm (£116,000, gan gynnwys £45,000 o grant gan Lywodraeth Cymru) gael ei dynnu o gostau gweithredu (£301,000), fe gostiodd £185,000 i’r Amgueddfa ei chynnal. Roedd hyn yn llai na'r gost a ragwelwyd, gan ddangos mai bwriad yr Amgueddfa oedd codi tâl i sybsideiddio cost yr arddangosfa, nid gwneud elw.
Fel y nododd Adolygiad Thurley 2017 o Amgueddfa Cymru, “ychydig iawn o sioeau dros dro sy’n gwneud elw llwyr”. Daeth y Pwyllgor i’r Casgliad y “dylai Llywodraeth Cymru fod yn wyliadwrus rhag cyfeirio at arddangosfeydd fel ateb i’r problemau a achosir yn sgil tangyllido Amgueddfa Cymru gan Lywodraeth Cymru”.
O dan y ddaear: a fydd y cyhoedd yn cael yr hyn y mae’r cyhoedd ei eisiau?
Mae Amgueddfa Lofaol Cymru ym Mlaenafon, Torfaen, yn rhan o Amgueddfa Cymru. Mae'r safle'n cynnig teithiau o dan y ddaear dan arweiniad cyn-lowyr a phrentisiaid, gan ganiatáu i ymwelwyr archwilio siafftiau gwreiddiol y mwyngloddiau a gweld y peiriannau a'r offer a ddefnyddir i echdynnu glo.
Yn 2024, cynhaliodd Amgueddfa Cymru gynllun peilot i godi tâl am y teithiau tanddaearol. Roedd hynny’n dilyn argymhelliad yn yr Adolygiad wedi'i Deilwra yn 2023 o’r Amgueddfa, ei fod wedi cynyddu ei incwm masnachol, gan gynnwys “arddangosfeydd arbennig a'r elfennau sy'n ymwneud â ‘phrofiad ymwelwyr’ megis mynd o dan y ddaear yn Big Pit”.
Trafododd Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru y treial codi tâl gyda'r Pwyllgor ym mis Rhagfyr 2024. Dywedodd: “the feedback on the underground tour charging at Big Pit is very positive. Ninety-eight per cent of the people who responded […] said they would be happy to pay that or pay more.”
Ond roedd y Pwyllgor o’r farn y dylai penderfyniad i godi tâl am y teithiau tanddaearol gael ei lywio gan egwyddorion, nid data. Roedd yn teimlo bod y teithiau hyn yn rhoi “cipolwg amhrisiadwy ar rôl ganolog cloddio glo yn hanes Cymru”, ac “ni ddylai pobl orfod talu i gael y mewnwelediad hwn i'w gorffennol eu hunain.” Gwrthododd Llywodraeth Cymru argymhelliad y Pwyllgor y dylai “ei gwneud yn glir bod egwyddor mynediad am ddim i safleoedd yr amgueddfeydd cenedlaethol yn ymestyn i'r daith o dan y ddaear yn Big Pit”.
Mae’r Llywodraeth wedi pwysleisio bod annibyniaeth Amgueddfa Cymru yn golygu na all Gweinidogion bennu'r polisi codi tâl yn Big Pit. Ac eto mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cyfeirio at ei “ymrwymiad parhaus i'r polisi hwn” o fynediad am ddim a’i bod yn darparu dros 80% o gyllid yr Amgueddfa, y mae'n ei wario yn ôl llythyr cylch gorchwyl gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r Amgueddfa yn sefydliad annibynnol. Ond mae'r annibyniaeth hon wedi'i chyfyngu gan y cyfeiriad polisi, ynghyd â'r rhan fwyaf o'i gyllid, a gaiff gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd y Pwyllgor “nid yw Llywodraeth Cymru wedi ariannu diwylliant mewn ffordd sy'n cydnabod ei werth cynhenid i'r genedl eto”. A fydd hyn yn newid mewn Cyllideb Ddrafft – a fydd yn cael ei chyhoeddi ar 3 Tachwedd – y mae Llywodraeth Cymru wedi dweud mai dim ond cyllideb y flwyddyn gyfredol fydd hi, wedi’i chynyddu yn unol â chwyddiant?
Erthygl gan Robin Wilkinson, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru.