Wrth brynu tŷ, a fyddech chi’n disgwyl gorfod cynnal a chadw'r ffordd y tu allan eich hun? Onid y cyngor a ddylai wneud y gwaith hwnnw? Yn gyffredinol, dyna sy'n wir, ond mae rhai perchnogion eiddo yn canfod mai nhw sy’n gyfrifol am y ffordd sy'n gwasanaethu eu heiddo, er ei bod yn briffordd gyhoeddus.
Mae hynny oherwydd eu bod yn byw ar 'ffordd sydd heb ei mabwysiadu'.
Fel y mae adroddiadau yn y cyfryngau a bagiau post yr Aelodau wedi ei ddangos, gall hyn achosi cryn galedi i drigolion. Canfu adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru fod yr effaith yn mynd y tu hwnt i gostau cynnal a chadw neu ffioedd reoli. Y pryder mwyaf oedd sbwriel, gan gynnwys tipio anghyfreithlon, fermin, casglu biniau ac ati, ac fe dynnwyd sylw hefyd at iechyd a diogelwch preswylwyr sy’n agored i niwed yn ogystal â mynediad i gerbydau'r gwasanaethau brys.
Beth yw 'ffordd sydd heb ei mabwysiadu'?
Mae ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu yn perthyn i dri chategori:
- ffyrdd preifat sydd hefyd yn briffyrdd cyhoeddus;
- ffyrdd preifat y mae gan y cyhoedd fynediad iddynt ond nad ydynt, neu nad ydynt eto, yn briffyrdd; a
- ffyrdd preifat nad ydynt yn briffyrdd neu sy'n destun mynediad cyhoeddus.
Yma rydym yn sôn yn bennaf am briffyrdd cyhoeddus sydd heb eu mabwysiadu, sef y ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu sy'n achosi'r caledi mwyaf.
Priffyrdd yw ffyrdd, llwybrau ac ati y mae rhwydd hynt i’r cyhoedd eu defnyddio, heb fod angen cael caniatâd. Yn y rhan fwyaf o achosion, caiff y ffyrdd hyn eu cynnal a'u cadw'n gyhoeddus a'u gwella gan yr awdurdod lleol neu Lywodraeth Cymru fel 'awdurdod priffyrdd' statudol. Gelwir y rhain yn briffyrdd sydd i’w cynnal a’u cadw ar draul y cyhoedd.
Mae'n ofynnol bod gan awdurdodau lleol restr o briffyrdd o’r fath yn eu hardal sydd ar gael i'w gwirio.
Fodd bynnag, mae lleiafrif sylweddol o berchnogion eiddo yn canfod nad yw eu ffordd yn cael ei chynnal a’i chadw ar draul y cyhoedd. Nhw sy’n gyfrifol am y ffyrdd hyn sydd heb eu mabwysiadu fel perchnogion yr eiddo sy’n wynebu'r ffordd – cyfeirir atynt fel ‘ffryntwyr’, neu ‘frontagers’ yn Saesneg, yn Neddf Priffyrdd 1980 (Deddf 1980).
Am flynyddoedd lawer, nid oedd gennym ddata cywir am ffyrdd heb eu mabwysiadu. Yn ôl arolwg gan yr Adran Drafnidiaeth ym 1972, sydd wedi cael ei ddyfynnu'n aml ers hynny, nodwyd bod tua 40,000 o ffyrdd heb eu mabwysiadu yng Nghymru a Lloegr, sef tua 4,000 o filltiroedd o ffordd. Fodd bynnag, mae amcangyfrifon Llywodraeth Cymru yn awgrymu bod y nifer yn llawer uwch erbyn hyn.
Faint o ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu a pha fath o ffyrdd ydyn nhw?
Yn 2018 sefydlodd Llywodraeth Cymru dasglu i ystyried y mater. Canfu ei adroddiad terfynol fod ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu yn perthyn i chwe phrif gategori:
- ffyrdd ar ystadau tai;
- ffyrdd bach nad ydynt yn gwasanaethu aelwydydd yn benodol;
- lonydd cefn trefol;
- ffyrdd ar ystadau a reolir yn breifat;
- safleoedd diwydiannol/ datblygu busnes; a
- datblygiadau o hen gabanau .
Er mwyn deall maint y broblem yng Nghymru, comisiynodd y tasglu ymarfer mapio gan Geoplace. Canfu’r ymarfer gyfanswm o 25,374 cilometr o ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu yng Nghymru, ac roedd 5,557 cilometr o’r ffyrdd hynny’n gwasanaethu dau eiddo neu fwy, a 2,617 cilometr yn gwasanaethu pum eiddo neu fwy.
Hyd y ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu yng Nghymru yn ôl ardal a nifer yr eiddo a wasanaethir
Ffynhonnell: Adroddiad terfynol tasglu Llywodraeth Cymru
Beth yw'r sefyllfa gyfreithiol?
Mae'r sefyllfa gyfreithiol ar ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu yn gymhleth.
Mae'r gyfraith o ran addasu strydoedd preifat wedi'i nodi i raddau helaeth yn Rhan XI o Ddeddf 1980. I grynhoi, mae Rhan XI yn caniatáu (ond nid yw'n ei gwneud yn ofynnol) i awdurdod lleol wneud gwaith i wella safon y ffordd fel y gellir ei mabwysiadu. Yna bydd naill ai'n adennill costau’r gwaith hwnnw o’r ffryntwyr, gan ddefnyddio'r Cod Gwaith Stryd Preifat, a/neu ddefnyddio arian a dalwyd ymlaen llaw gan ddatblygwr o dan y Cod Taliadau Ymlaen Llaw.
Gall awdurdodau lleol ei gwneud yn ofynnol i ffryntwyr wneud gwaith atgyweirio brys ar ffordd sydd heb ei mabwysiadu os yw’n ofynnol er mwyn osgoi perygl i draffig mewn stryd breifat (adran 230). Os na wneir hyn, gall yr awdurdod lleol ymgymryd â'r gwaith a dyrannu’r costau'n rhwng y ffryntwyr.
Mae Deddf 1980 yn caniatáu i ffryntwyr ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod lleol fabwysiadu'r ffordd, ond eto, dim ond ar ôl iddynt sicrhau bod safon y ffordd yn ddigon da iddi gael ei mabwysiadu. Yn yr un modd, gall yr awdurdod lleol benderfynu mabwysiadu ffordd ar ôl iddi gael ei haddasu.
Mae nifer sylweddol o ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu yn ffyrdd ar ystadau, yn aml o ganlyniad i ddatblygiadau newydd lle nad yw ffordd yr ystâd wedi'i mabwysiadu. Mae Deddf 1980 yn darparu ar gyfer hyn drwy'r Cod Taliadau Ymlaen Llaw, sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddatblygwr roi cyllid i’r awdurdod lleol i dalu am y gost o addasu’r ffordd.
Mae Deddf 1980 hefyd yn darparu ar gyfer cytundebau adran 38 rhwng datblygwr ac awdurdod lleol y bydd y ffordd yn cael ei hadeiladu i safon y gellir ei mabwysiadu, ac yna caiff ei mabwysiadu.
Gall nifer o faterion effeithio ar ba mor effeithiol yw'r darpariaethau hyn, gan gynnwys pryd y mae’r awdurdod lleol yn cyhoeddi hysbysiad o dan y Cod Taliadau Ymlaen llaw, yn ogystal â ffactorau fel datodiad y datblygwr.
Mae crynodeb cynhwysfawr o'r gyfraith wedi'i atodi i Adroddiad cychwynnol tasglu Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yn 2019. Mae Llyfrgell Tŷ'r Cyffredin hefyd wedi cyhoeddi papur briffio ymchwil manwl ar y mater.
Beth mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud am hyn?
Gwnaed nifer o argymhellion yn adroddiad cychwynnol ac adroddiad terfynol y tasglu, gan gynnwys:
- datblygu cronfa ddata i ddarparu cofnod cynhwysfawr o ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu yng Nghymru;
- paratoi a monitro canllaw arfer da ar gyfer awdurdodau lleol ac adeiladwyr cartrefi;
- sefydlu is-grŵp i ddatblygu safonau cyffredin o ran priffyrdd;
- arolwg o awdurdodau lleol yn gofyn iddynt nodi materion blaenoriaeth o ran ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu; ac
- ystyried cynllun peilot cymorth ariannol i fynd i'r afael â ffyrdd â blaenoriaeth.
Yn ei ddatganiad ym mis Hydref 2020 derbyniwyd yr holl argymhellion gan y Gweinidog ar y pryd.
Yn y bôn, o ran arian cyhoeddus i addasu a mabwysiadu'r ffyrdd hyn, daeth yr adroddiad i'r casgliad a ganlyn:
...argymhelliad sy’n dod i’r amlwg yw bod Llywodraeth Cymru mewn egwyddor yn neilltuo cyllid i fynd i’r afael â’r ffyrdd gwaethaf heb eu mabwysiadu ledled Cymru, a bod Awdurdodau Priffyrdd yn darparu manylion o ran sut y byddent yn defnyddio unrhyw gyllid ac yn cyfleu buddion buddsoddiad o’r fath.
Ac eto, canfu hefyd fod y gost yn ei gwneud hi’n amhosibl mabwysiadu’r holl ffyrdd:
Mae’r isadeiledd ffyrdd heb ei fabwysiadu yn helaeth, ac mae’n annirnadwy ystyried gwelliannau i bob adran unigol. Fodd bynnag, yn seiliedig ar y gost o £600 / metr llinellol, yna bydd buddsoddiad o £10 miliwn yn gwella oddeutu 16 cilomedr o ffordd.
Felly dim siec wag, ond cynigiwyd rhywfaint o obaith i ffryntwyr, ac yn ei ddatganiad, ymrwymodd y Gweinidog ar y pryd i dreialu cymorth ariannol.
Er na wnaed datganiad yn cyhoeddi'r cynllun peilot hwn – oherwydd etholiad y Senedd fwy na thebyg – gofynnodd Ymchwil y Senedd am wybodaeth gan Lywodraeth Cymru. Dangosodd yr ymateb fod cyfanswm o £1.4 miliwn wedi'i ddyrannu i chwe awdurdod lleol.
Cynlluniau peilot Llywodraeth Cymru ar gyfer ffyrdd heb eu mabwysiadu a’r cyllid a ddyrannwyd
Awdurdod lleol |
Lleoliad / disgrifiad |
Cyfanswm y dyraniad (2021-22) |
Pen-y-bont ar Ogwr |
Drenewydd yn Notais, Porthcawl |
£339,000 |
Caerffili |
Pontlotyn a Threcelyn |
£187,000 |
Merthyr Tudful |
Hilltop Close |
£28,000 |
Rhondda Cynon Taf |
Aberdâr |
£274,000 |
Torfaen |
Pontnewydd Cwmbrân |
£294,000 |
Ceredigion |
Bryn Hafod Aberteifi |
£90,300 |
Conwy |
Sandy Cove Cinmel |
£188,000 |
Ffynhonnell: Ymateb Llywodraeth Cymru i gais Ymchwil y Senedd
Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru wrth Ymchwil y Senedd ym mis Mai eleni fod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wrthi'n llunio adroddiad cynhwysfawr ar y cynlluniau peilot, yn nodi'r hyn a oedd wedi gweithio, meysydd i'w gwella ac argymhellion i’r Gweinidogion. Bydd llawer o berchnogion eiddo sy'n gyfrifol am gynnal a chadw eu ffyrdd yn gobeithio y bydd hyn yn cynnig llwybr allan o'u hanawsterau.
Erthygl gan Andrew Minnis, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru