System Fudd-daliadau Cymru – beth ydyw, a beth yw’r datblygiadau diweddaraf?

Cyhoeddwyd 24/01/2025   |   Amser darllen munudau

Yn ogystal â chyllid o system nawdd cymdeithasol Llywodraeth y DU, mae Llywodraeth Cymru yn darparu amrywiaeth o gymorth a all fod yn werth hyd at £4,000 y flwyddyn ar gyfer cartrefi incwm isel. Cyfeirir at hyn weithiau fel System Fudd-daliadau Cymru.

Mae ein herthygl yn egluro beth yw System Fudd-daliadau Cymru. Rydym hefyd yn nodi’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i geisio creu dull gweithredu mwy “cydlynol a thosturiol” o ran ei gweinyddu.

Beth yw System fudd-daliadau Cymru?

Mae Sefydliad Bevan yn disgrifio 'budd-daliadau Cymru' fel cymorth ariannol prawf modd a ddarperir gan gyrff datganoledig neu awdurdodau lleol. Mae prif Fudd-daliadau Cymru, a nodwyd gan Lywodraeth Cymru, yn cynnwys Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, y Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA), Cinio Ysgol Am Ddim, a'r Grant Hanfodion Ysgolion.

Ers nifer o flynyddoedd mae Sefydliad Bevan wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu’r cynlluniau hyn yn System Fudd-daliadau Cymru sy’n darparu system gydlynol a di-dor o gymorth sy’n helpu i godi pobl allan o dlodi. Mae hyn wedi cael ei gefnogi gan sefydliadau cymdeithas sifil eraill a phwyllgorau'r Senedd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu system fwy “cydlynol a thosturiol”, ac wedi sefydlu Grŵp Llywio Symleiddio Budd-daliadau Cymru i ddatblygu’r gwaith hwn. Mae’r Grŵp hwn yn dweud bod yr holl daliadau, grantiau a budd-daliadau a ddatganolwyd i Lywodraeth Cymru yn feysydd ffocws posibl ar gyfer ei waith, er efallai na fydd rhai (e.e. Benthyciadau Cyllid Myfyrwyr) mor addas ag eraill.

Mae Sefydliad Bevan yn poeni nad yw pobl yn ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael drwy System Fudd-daliadau Cymru. Mewn arolwg a gynhaliwyd gan YouGov ar ran Sefydliad Bevan ym mis Gorffennaf 2023, er bod dros hanner y bobl yn ymwybodol o brydau ysgol am ddim a Chynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, roedd llai nag 20% yn ymwybodol o’r Grant Hanfodion Ysgolion a’r cymorth sydd ar gael gyda chostau iechyd. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgyrch Hawlio'r hyn sy'n ddyledus i chi i helpu pobl i hawlio cymorth gan Lywodraeth Cymru a’r budd-daliadau nawdd cymdeithasol y mae ganddynt hawl iddynt.

Beth y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud hyd yma i ddatblygu System Fudd-daliadau Cymru?

Ym mis Ionawr 2024, cytunodd Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a’r 22 awdurdod lleol ar Siarter Budd-daliadau Cymru. Yn ei rhagair i’r Siarter, dywedodd Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol:

Bu sawl ymgais i geisio cydlynu system fudd-daliadau Cymru yn y gorffennol. Fodd bynnag, mae'r rhain wedi tueddu i fod yn dameidiog ac yn ddarniog heb unrhyw arweiniad strategol.

Mae’r Siarter yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i gynyddu ymwybyddiaeth a’r nifer sy’n manteisio ar fudd-daliadau Cymru, i ddatblygu cymunedau sy’n wydn yn ariannol, i wella canlyniadau i blant a phobl ifanc o gartrefi incwm isel, ac i leihau’r angen am gymorth brys fel banciau bwyd.

Fodd bynnag, mae’r ddarpariaeth yn ddim ond megis dechrau. Yr wythnos diwethaf cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fap trywydd yn nodi’r camau y bydd yn eu cymryd i ddatblygu cam un o’i gwaith yn y maes hwn erbyn mis Ebrill 2026, er bod disgwyl, yn wreiddiol, i hyn ddigwydd fis Medi diwethaf. Nod y map trywydd yw sicrhau “y gall pobl hawlio eu hawl i ostyngiad yn y dreth gyngor, prydau ysgol am ddim a'r grant hanfodion ysgol ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru erbyn mis Ebrill 2026”. Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £500,000 yn ychwanegol i gefnogi'r gwaith hwn, ac wedi canolbwyntio ar y grantiau hyn wrth i'w meini prawf cymhwystra alinio, ac mae'n dweud bod arfer da yn bodoli eisoes mewn rhai awdurdodau lleol y gellir adeiladu arno.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud, “rwy’n credu ein bod yn gweithio'n gyflym, ond rydym yn gweithio ar y cyflymder y gall yr awdurdodau lleol ei reoli”. Fodd bynnag, rhoddodd Dr Victoria Winckler o Sefydliad Bevan sylwadau yn ddiweddar ei bod yn croesawu’r siarter fel mecanwaith ar gyfer cael cefnogaeth y 22 awdurdod lleol, ond mai eu profiad hwy o’r gweithgorau amrywiol maen nhw’n cymryd rhan ynddynt yw bod awdurdodau lleol yn wahanol i’w gilydd o ran eu dulliau gweithredu, ac mae’r broses felly’n mynd ar gyflymder yr arafaf ohonynt. 

Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu darparu system “gydlynol a thosturiol”?

Yng ngham un o'i gwaith i symleiddio System Fudd-daliadau Cymru, dywed Llywodraeth Cymru y bydd yn gweithio gyda phartneriaid i:

  • Greu system symlach a mwy cyson ar gyfer Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, prydau ysgol am ddim a’r Grant Hanfodion Ysgolion drwy fapio deddfwriaeth, polisïau a phrosesau perthnasol.
  • Mynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n atal pobl rhag manteisio ar y budd-daliadau, drwy ddefnyddio iaith fwy hygyrch a deall sut y gellir addasu'r prosesau ar gyfer hawlio grantiau.
  • Datblygu cynllun gweithredu tegwch a chynhwysiant i gyrraedd grwpiau ymylol, a dull o gyrraedd cynulleidfaoedd targed a hyrwyddo System Fudd-daliadau Cymru.
  • Deall gofynion a rhwystrau rhannu data, a llunio canllawiau ar y rhain ar gyfer awdurdodau lleol.

O ganlyniad i’r gwaith hwn, mae’r Llywodraeth yn rhagweld mai dim ond unwaith y bydd yn rhaid i bobl ledled Cymru wneud cais a darparu gwybodaeth ategol ar gyfer y tri grant erbyn mis Ebrill 2026.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi y bydd yn dyrannu £550,000 i gefnogi cynllun peilot lle mae’r cwmni dadansoddi data, sef Policy in Practice, yn gweithio gydag o leiaf 11 o awdurdodau lleol i adnabod pobl nad ydynt efallai’n ymwybodol o’r cymorth y gallant ei gael, a chysylltu â hwy. Dywed Policy in Practice y bydd hyn yn helpu i fynd i'r afael â'r gwerth £2 biliwn o nawdd cymdeithasol a budd-daliadau Cymru yr amcangyfrifir nad yw pobl yng Nghymru yn ei hawlio bob blwyddyn.

Mae'r Grŵp llywio symleiddio budd-daliadau Cymru wedi sefydlu ffrydiau gwaith ar nifer o feysydd mewn cysylltiad â System Budd-daliadau Cymru yn ei chyfanrwydd. Mae'r rhain yn cynnwys data a dylunio; cymhwystra; monitro, gwerthuso ac ymchwil; cyfathrebu strategol; a dysgu a datblygu.

Wrth i'r gwaith fynd rhagddo, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd yn diweddaru y map trywydd i gynnwys camau gweithredu ar gyfer camau dilynol y gwaith o symleiddio System Fudd-daliadau Cymru, ac y bydd yn ystyried gwersi a ddysgwyd o ganlyniad i gam un.

Pa gamau pellach sydd eu hangen i symud y gwaith hwn yn ei flaen?

Mae Policy in Practice wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu porth ceisiadau canolog ar gyfer budd-daliadau Cymru, ynghyd â datblygu prosesau i awtomeiddio cymhwystra a cheisiadau ar sail data sy’n bod eisoes. Mae ei adroddiad yn awgrymu y byddai porth canolog yn rhoi mynediad rhwydd at gymorth i ddinasyddion Cymru, ac y byddai’n debygol o gynyddu’n sylweddol nifer y bobl sy’n manteisio ar fudd-daliadau Cymru.

Nid diwygio System Fudd-daliadau Cymru yw'r unig fater y mae sefydliadau wedi'i nodi, fodd bynnag. Mae trothwyon cymhwystra a gwerth arian parod rhai o fudd-daliadau Cymru wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf, er enghraifft y Lwfans Cynhaliaeth Addysg (EMA) a gynyddodd o £30 i £40 yr wythnos ym mis Ebrill 2023. Mae Sefydliad Bevan, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y rhain yn cael eu hadolygu bob blwyddyn, fodd bynnag, er mwyn ystyried chwyddiant, fel y mae Cyngor ar Bopeth Cymru wedi galw amdano hefyd. Dywed Sefydliad Bevan, heb gynnydd o’r fath, fod taliadau’n cynnig llai a llai i bobl bob flwyddyn, a bod hyn yn tanseilio eu heffeithiolrwydd fel rhwyd ddiogelwch.

Beth nesaf?

Mae Llywodraeth Cymru a sefydliadau partner wedi nodi sut y maent yn bwriadu dechrau datblygu System Fudd-daliadau Cymru sy’n fwy “cydlynol a thosturiol”. Os yw hyn yn gweithio fel y cynlluniwyd, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn credu y bydd yn arwain at ragor o arian ym mhocedi pobl, ac arian i gymunedau lleol. Dros y misoedd nesaf byddwn yn dechrau gweld sut mae'r gwaith hwn yn dod ymlaen, a pha effaith y gallai ei chael.


Erthygl gan Gareth Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru