Cynhelir ystyriaeth Cyfnod 3 o'r Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru), Bil Comisiwn y Cynulliad, yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 13 Tachwedd 2019.
Darparodd y Bil, fel y'i cyflwynwyd, ar gyfer newid enw'r Cynulliad, gostwng yr oedran pleidleisio ar gyfer etholiadau'r Cynulliad i 16 a gwneud newidiadau eraill i drefniadau etholiadol a mewnol y Cynulliad. Cyhoeddodd Ymchwil y Senedd Grynodeb o'r Bil ym mis Gorffennaf 2019.
Cafodd y Bil ei ystyried a'i ddiwygio gan Bwyllgor o’r Cynulliad Cyfan yn ystod trafodion Cyfnod 2 ar 9 Hydref. Mae'r Bil, fel y'i diwygiwyd, wedi'i gyhoeddi ar wefan y Cynulliad..
Y newidiadau allweddol a wnaed ar ôl Cyfnod 2
Newid enw'r Cynulliad
Darparodd y Bil, fel y'i cyflwynwyd, y dylid newid enw'r Cynulliad i'r enw uniaith “Senedd”. Yn ystod trafodion Cyfnod 2, pleidleisiodd yr Aelodau o blaid gwelliant Carwyn Jones AC yn cynnig yr enwau dwyieithog “Senedd Cymru” neu “Welsh Parliament” yn hytrach na “Senedd”.
Gwnaed rhagor o welliannau i'r enwau, y teitlau a’r disgrifiadau sy'n gysylltiedig â'r Cynulliad ar ôl Cyfnod 2. Mae rhai o'r gwelliannau hyn wedi arwain at anghysondebau yn y Bil. Mae Rhan 2 o’r Bil yn darparu bod yr Aelodau i’w galw’n “Aelodau’r Senedd” neu’n “Members of the Senedd”, ond mae gwelliant arall a dderbyniwyd yn darparu ar gyfer y teitl “Members of Senedd Cymru”. Mae hyn yn golygu bod dau deitl Saesneg gwahanol ar gyfer Aelodau'r Cynulliad yn y Bil fel y'i diwygiwyd.
Estyn yr etholfraint
Yn wreiddiol, gwnaeth y Bil newidiadau i’r gyfraith etholiadol i alluogi pobl 16 a 17 oed i bleidleisio yn etholiadau’r Cynulliad. Derbyniwyd y gwelliannau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru hefyd i alluogi dinasyddion tramor cymwys i bleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad. Yn ôl y Memorandwm Esboniadol diwygiedig (PDF 251KB):
Mae dinesydd tramor cymwys yn rhywun nad yw'n ddinesydd Iwerddon, y Gymanwlad na'r UE (ar y sail bod personau o'r fath eisoes wedi'u hetholfreinio) ac sy'n berson nad oes angen caniatâd yr awdurdodau mewnfudo arno er mwyn dod i mewn i'r Deyrnas Unedig ac aros yno (y cyfeirir ato'n gyffredin fel “caniatâd i ddod i mewn neu aros”) neu fod angen caniatâd o'r fath arno ac y’i rhoddwyd iddo.
Mae rhoi’r hawl i ddinasyddion tramor cymwys bleidleisio yn etholiadau’r Cynulliad yn gyson â chynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer estyn yr etholfraint ar gyfer etholiadau llywodraeth leol.
Craffu ar y Comisiwn Etholiadol
Yn wreiddiol, gosododd y Bil ddyletswydd ar y Senedd i ystyried a ddylai'r Comisiwn Etholiadol gael ei gyllido gan y Cynulliad am ei waith mewn perthynas ag etholiadau a refferenda datganoledig Cymru, ac a ddylai fod yn atebol i'r Cynulliad am y gwaith hwnnw. Fodd bynnag, ni nododd y Bil sut y dylid cyflawni hyn. Yn lle hynny, darparodd y gallai'r Cynulliad wneud darpariaeth i'r perwyl hwn yn ei Reolau Sefydlog.
Yn ystod sesiwn dystiolaeth gyda'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar 11 Mawrth, dywedodd y Llywydd ei bod yn tybio y byddai'r adran hon o'r Bil yn cael ei diwygio ar ôl Cyfnod 2 i roi mwy o eglurder ar y trefniadau atebolrwydd a goruchwylio ar gyfer y Comisiwn Etholiadol.
Cyn Cyfnod 2, daeth y Llywydd a'r Cwnsler Cyffredinol i gytundeb a chyflwyno gwelliannau mewn perthynas â manylion o ran sut y dylid ariannu'r Comisiwn Etholiadol ac i ba gorff o’r Cynulliad y dylai fod yn atebol.
Mae'r gwelliannau a gyflwynwyd, a dderbyniwyd gan yr Aelodau, yn darparu y bydd pwyllgor Cynulliad, dan gadeiryddiaeth y Llywydd neu'r Dirprwy Lywydd, yn craffu ar y Comisiwn Etholiadol.
Anghymwysiadau rhag sefyll etholiad a bod yn Aelod
Yn wreiddiol, gwnaeth y Bil newidiadau i'r rheolau ynghylch anghymhwyso rhag bod yn Aelod Cynulliad. Roedd y rhain yn cynnwys gwahaniaethu rhwng:
- amgylchiadau sy'n anghymhwyso rhywun rhag sefyll etholiadau i'r Cynulliad; a
- swyddi sy'n anghymhwyso rhywun rhag bod yn Aelod o'r Cynulliad, ond nid rhag bod yn ymgeisydd.
Er enghraifft, yn wreiddiol, anghymhwysodd y Bil aelodau unrhyw ddeddfwrfa arall rhag sefyll etholiad, ac eithrio Aelodau o Dŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi a gaiff sefyll etholiad ond na chânt wasanaethu yn y ddeddfwrfa arall os cânt eu hethol.
Ar ôl Cyfnod 2, gwnaed nifer o welliannau i'r rhan hon o'r Bil. Roedd y rhain yn cynnwys:
- anghymhwyso aelodau awdurdod lleol rhag gwasanaethu yn y Cynulliad ond nid rhag sefyll etholiad, gan olygu y byddai'n rhaid iddynt ymddiswyddo fel aelodau awdurdod lleol pe byddent yn cael eu hethol i'r Cynulliad;
- gwrthdroi'r darpariaethau yn y Bil gwreiddiol drwy ganiatáu i weision sifil, aelodau o'r lluoedd arfog, aelodau o'r heddlu a staff Comisiwn y Cynulliad sefyll mewn etholiad Cynulliad;
- caniatáu i ddinasyddion tramor sefyll etholiad i'r Cynulliad;
- caniatáu i Aelodau o Senedd yr Alban, Cynulliad Gogledd Iwerddon a Senedd Ewrop sefyll etholiad i'r Cynulliad a chaniatáu iddynt hefyd wasanaethu yn y Cynulliad a'r ddeddfwrfa arall ar yr un pryd. Ar y llaw arall, byddai'n rhaid i Aelodau o Dŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi ymddiswyddo pe byddent yn cael eu hethol i'r Cynulliad.
Argymhellion Comisiwn y Gyfraith
Yn wreiddiol, diwygiodd y Bil Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i alluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau i roi effaith i newidiadau i’r gyfraith etholiadol a argymhellwyd gan Gomisiwn y Gyfraith yng Nghymru a Lloegr.
Argymhellodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn ei adroddiad Cyfnod 1 ar y Bil y dylid diwygio’r Bil i ddileu’r ddarpariaeth hon ar ôl clywed pryderon gan dystion am ehangder y pŵer hwn a rhybuddion yn erbyn is-ddeddfwriaeth i wneud newidiadau polisi sylweddol.
Cyflwynodd y Llywydd welliannau i'r perwyl hwn yng Nghyfnod 2, ac fe’u dderbyniwyd.
Y cam nesaf i'r Bil
Mae Cyfnod 3 yn rhoi cyfle arall i'r Cynulliad wneud gwelliannau i'r Bil. Gellir gweld rhestr o welliannau a gyflwynwyd gan Aelodau ar dudalen y Bil.
Yna, gofynnir i'r Cynulliad bleidleisio ar 27 Tachwedd ynghylch pasio testun terfynol y Bil. O dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, bydd y Bil yn ei gwneud yn ofynnol i 'uwch-fwyafrif' o 40 Aelod bleidleisio o blaid cyn y gall ddod yn gyfraith oherwydd ei fod yn ymwneud â phynciau gwarchodedig (h.y. enw'r Cynulliad a phwy gaiff bleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad).
Erthygl gan Manon George,, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru