Ym mis Medi 2020, gwnaeth perchennog tafarn y Roath Park yng Nghaerdydd, gais i’r awdurdod cynllunio lleol i ddymchwel yr adeilad. Dechreuodd grwpiau lleol a chynrychiolwyr etholedig ymgyrchu i warchod yr adeilad hanesyddol hwn, a dywedodd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd, ei fod yn siomedig ac yn rhwystredig nad oedd dim sail gan yr awdurdod i atal dymchweliad. Roedd yn ymddangos bod pobl leol yn gwerthfawrogi’r dafarn Fictoraidd hon mewn modd nad oedd ei pherchnogion yn ei gwerthfawrogi, ac nid oedd y system gynllunio’n darparu’r arfau i’w cefnogi. Beth y gall pobl ei wneud pan fo adeiladau lleol sy’n bwysig iddynt dan fygythiad?
Gwarchod adeiladau ac ardaloedd o “ddiddordeb pensaernïol a hanesyddol arbennig”
Llwybr cyffredin i ymgyrchwyr sy'n ceisio gwarchod hen adeiladau yw ceisio cael cydnabyddiaeth i'w gwerth hanesyddol drwy eu rhestru neu eu cynnwys mewn ardal gadwraeth. Ond mae'r systemau hyn yn canolbwyntio ar adeiladwaith yr adeiladau neu ddiddordeb hanesyddol, nid ar eu gwerth i'r gymuned leol.
Mae dyletswydd gyfreithiol ar Lywodraeth Cymru i gadw rhestr o adeiladau sy’n bodloni ei meini prawf cyhoeddedig, sef bod o “ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig”. Pan gânt eu rhestru, gwarchodir yr adeiladau hyn yn well dan y system gynllunio: dim ond mewn amgylchiadau eithriadol a phan fetho popeth arall y dylid cymeradwyo cais i ddymchwel adeilad rhestredig.
Pan fydd awdurdodau lleol yn teimlo bod ardal gyfan o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, gallant ei dynodi’n ardal gadwraeth. Mae hyn hefyd yn cyfyngu ar ddymchweliad. Yn gyffredinol, dylai awdurdodau lleol ffafrio cadw adeilad mewn ardal gadwraeth pan fo’n gwneud cyfraniad cadarnhaol i’r ardal, hyd yn oed os nad yw wedi’i restru. Pan na fo'n gwneud cyfraniad cadarnhaol, ni ddylid rhoi caniatâd i’w ddymchwel fel arfer heb gynlluniau derbyniol ar gyfer ailddefnyddio'r safle.
Ond yn aml nid yw adeiladau y mae’r gymuned yn eu gwerthfawrogi’n bodloni'r safon uchel i’w rhestru neu eu cynnwys mewn ardal gadwraeth. Yng Nghaerdydd, mae ymgyrchwyr wedi ceisio dynodiadau ar gyfer Gwesty'r Vulcan – tafarn Fictoraidd – a Cilgant Guildford – teras Fictoraidd – i atal eu dymchweliad. Roedd y ddwy’n aflwyddiannus. Ac ym Mhorthmadog, dymchwelwyd sinema art deco y Coliseum ar ôl i Cadw wrthod cais i'w rhestru.
Gall awdurdodau lleol ddatblygu rhestrau lleol o adeiladau nad ydynt yn bodloni'r meini prawf rhestru cenedlaethol. Ond nid yw hyn yn cyflwyno gofyniad am ganiatâd cynllunio llawn – er enghraifft ar i’w dymchwel.
Yn dilyn y methiant i warchod Gwesty’r Vulcan yn 2010, roedd Pwyllgor Deisebau’r Senedd yn teimlo bod y fframwaith cyfreithiol a pholisi presennol ar gyfer gwarchod asedau cymunedol yn annigonol, ac yn galw am reolau newydd “i ddiogelu adeiladau sy’n bwysig am resymau cymdeithasol a diwylliannol”.
Yn gyffredinol, gall adeilad nad yw'n rhestredig neu sydd mewn ardal gadwraeth gael ei ddymchwel heb yr angen am ganiatâd cynllunio, drwy Hawliau Datblygu a Ganiateir fel y’u gelwir. Mae’n bosibl i awdurdod lleol ddileu’r hawliau hyn drwy “gyfarwyddyd Erthygl 4”, sy’n golygu y byddai angen caniatâd cynllunio llawn ar gyfer dymchweliad.
Yn Lloegr, cafodd hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer dymchwel tafarnau eu tynnu’n ôl yn 2017. Mae’r grŵp defnyddwyr Ymgyrch dros Gwrw Go Iawn yn pwyso i’r un newidiadau yn y gyfraith gael eu gwneud yng Nghymru
Perchnogaeth gymunedol: hawliau ychwanegol i gymunedau yn Lloegr a’r Alban
Un ffordd o achub adeilad yw atal ei berchnogion rhag ei ddymchwel. Un arall yw ei roi ym mherchnogaeth y bobl sydd am ei achub.
Rhwng 2001 a 2020, collodd Cymru tua chwarter ei thafarnau, yn debyg i’r DU gyfan. Mae cymunedau sy'n gyndyn i’w tafarnau lleol gau wedi ymateb drwy eu prynu, yn aml drwy gynigion cyfranddaliadau cymunedol.
Yn haf 2021, cododd ymgyrch £458,400 i ailagor Ty'n Llan yng Ngwynedd. Mae lleoliadau cerddoriaeth, y mae nifer fawr ohonynt wedi cau, hefyd wedi defnyddio cynigion cyfranddaliadau cymunedol i osgoi cau, megis Le Public Space yng Nghasnewydd.
Ond yn Lloegr a'r Alban, mae gan gymunedau sydd am brynu adeiladau sydd o bwys iddynt sefyllfa ffafriol o’i chymharu â sefyllfa cynigwyr preifat, o ganlyniad i ddeddfwriaeth nad yw ar gael eto yng Nghymru.
Mae Rhan 5, Pennod 3 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau dosbarth ac unedol yn Lloegr gadw rhestr o asedau o werth cymunedol, a all fod yn dir neu’n adeiladau, a enwebir gan grwpiau cymunedol lleol neu gynghorau plwyf. Pan ddaw’r asedau hyn ar werth neu pan fyddant yn newid perchnogaeth, mae’r Ddeddf yn rhoi’r amser i grwpiau cymunedol lleol ddatblygu cais a chodi’r arian i gynnig am yr ased pan ddaw ar y farchnad agored. Nid ydynt yn atal perchennog rhag dymchwel adeilad. Gelwir y darpariaethau hyn yn hawl cymuned i wneud cais. Mae’r darpariaethau hyn yn ymestyn i Gymru a Lloegr, ond nid yw Llywodraeth Cymru wedi eu cychwyn mewn perthynas â Chymru.
Roedd yr Alban yn gynharach wedi cyflwyno hawl cymuned i brynu yn Neddf Diwygio Tir (Yr Alban) 2003. Caniateir i rai dosbarthiadau o gyrff cymunedol gofrestru buddiant mewn darn o dir neu eiddo. Pe bai'r perchennog yn penderfynu gwerthu'r ased hwn, y corff cymunedol sy'n cael y cynnig cyntaf i’w brynu. Os na fydd y partïon yn cytuno ar bris, gall prisiwr annibynnol bennu hyn.
Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ym mis Mai 2015 ar gychwyn darpariaethau’r Ddeddf Lleoliaeth neu gyflwyno cynllun amgen yng Nghymru, neu beidio â gwneud y naill na’r llall. Nododd Datganiad Ysgrifenedig ym mis Rhagfyr 2015 gefnogaeth dros ryw fath o gynllun o’r ymgynghoriad. Yna mynegodd Llywodraeth Cymru gefnogaeth ofalus i gychwyn darpariaethau Deddf Lleoliaeth 2011 yn dilyn etholiad y Senedd yn 2016. Nid yw hyn wedi digwydd eto.
Mae rhaglen Llywodraeth Cymru, sef Trosglwyddo Asedau Cymunedol yn cynnig rhai cyfleoedd i gymunedau gymryd dros hen asedau’r sector cyhoeddus. Ac, er nad oes ganddynt hawliau statudol ychwanegol, gall cymunedau yng Nghymru wneud cais am y Gronfa Benthyciadau Asedau Cymunedol gwerth £5 miliwn ar gyfer cyllid benthyciad i ddod ag eiddo i berchnogaeth gymunedol. Mae cyllid hefyd ar gael ar gyfer uwchraddio cyfleusterau cymunedol drwy'r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol.
Rhai o’r cymunedau “sydd wedi’u grymuso leiaf o holl ynysoedd Prydain”
Dywedodd adroddiad diweddar a gyhoeddodd y felin drafod y Sefydliad Materion Cymreig (IWA) ei bod yn ymddangos bod cymunedau yng Nghymru “ymhlith y rhai sydd wedi’u grymuso leiaf o holl ynysoedd Prydain”. Mae’n ymddangos bod y grymuso cymunedol cyfyngedig a ganfuwyd “yn cael ei gyrru o’r brig i’r bôn”. Mae wedi galw am Fesur Grymuso Cymunedau i sefydlu cofrestr o asedau cymunedol, a rhoi’r cynnig statudol cyntaf i gymunedau pan gynigir gwerthu neu drosglwyddo’r asedau hyn, yn ogystal â chymorth arall megis cyllid ychwanegol i gymunedau.
Gan ymateb i ddadl ddiweddar ar asedau cymunedol, dywedodd Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, ei fod yn “awyddus iawn i geisio consensws trawsbleidiol ar yr elfennau” o adroddiad y Sefydliad Materion Cymreig gan fod “hwn yn faes lle y ceir llawer o gytundeb”.
Ym mis Tachwedd 2021 adroddwyd y gallai tafarn y Roath Park osgoi cael ei dymchwel pe bai’r perchennog yn cael cynnig oedd yn gwneud synnwyr ariannol da. Gellid ei hachub i’r gymuned eto, ond heblaw am bosibilrwydd cyllid grant ar gyfer grŵp cymunedol â buddiant, mater i’r perchennog presennol a’r farchnad rydd fydd hyn i raddau helaeth.
Erthygl gan Robin Wilkinson, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru