Ar 11 Ionawr, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei Chynllun Amgylchedd 25-mlynedd ('y Cynllun') hir-ddisgwyliedig. Mae'r Cynllun yn amlinellu deg nod ar gyfer gwella'r amgylchedd, gan ddefnyddio dull "cyfalaf naturiol": rhoi gwerth ar y nwyddau y mae byd natur yn eu darparu am ddim, fel cyflenwi dŵr glân a mannau gwyrdd. Bydd rhai o'r meysydd a gaiff eu cwmpasu yn effeithio ar y DU gyfan. Fodd bynnag, mae'r Cynllun yn ei gwneud yn glir ei fod yn berthnasol i Loegr yn unig ar gyfer meysydd sydd o dan gymhwysedd datganoledig. Yna, mae cwestiynau'n codi ynghylch effaith y Cynllun ar Gymru, yn enwedig yng ngoleuni Brexit, a sut mae strategaeth Llywodraeth Cymru yn cymharu.
Y ffactor Brexit
Un cwestiwn pwysig i Gymru yw sut y bydd cyfraith yr UE yn cael ei gweithredu ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r mater hwn yn arbennig o ddwys mewn meysydd polisi amgylcheddol ac amaethyddol lle mae cyfran fawr o'r ddeddfwriaeth yn deillio o'r UE. Er nad oes sicrwydd o hyd o ran gan bwy y bydd y pwerau, bydd gan randdeiliaid Cymru ddiddordeb mewn gweld cynnwys y Cynllun er mwyn deall cyfeiriad Llywodraeth y DU, yn enwedig gyda Biliau Amaethyddiaeth a Physgodfeydd y DU ar y gorwel.
Disgwylir y bydd fframweithiau rheoleiddio cyffredin y DU yn cael eu sefydlu mewn rhai meysydd, fel amaethyddiaeth, i gydymffurfio â gofynion cytundebau masnach yn y DU yn y dyfodol. Felly, gall deall taith Llywodraeth y DU helpu i ddangos sut y gallai'r fframweithiau hyn edrych.
Pynciau allweddol sy'n effeithio ar Gymru
Mae amaethyddiaeth yn faes arbennig o bwysig. Yng Nghymru mae'n gyfrifol am 80 y cant o'r arwynebedd tir ac yn cyflogi 58,300 o bobl. Mae'r Cynllun yn cadarnhau'r Papur Rheoli ar gyfer Bil Amaeth y DU a ddisgwylir yn ystod gwanwyn 2018. Mae'r Cynllun hefyd yn nodi'r hyn y gall y Bil hwnnw ei gynnwys:
Leaving the Common Agricultural Policy (CAP) means we can do much more for our environment. After a period of stability to ensure a smooth transition, we will move to a system of paying farmers public money for public goods. The principal public good we want to invest in is environmental enhancement.
Mae hyn yn awgrymu symud i ffwrdd o Golofn 1 y PAC, sy'n darparu taliad yn seiliedig ar faint o dir sy'n eiddo, tuag at ddull sy'n seiliedig ar ganlyniadau. Mae'r Cynllun hefyd yn amlinellu uchelgais Llywodraeth y DU i barhau â rheoliadau'r UE o ran gwahardd plaladdwyr neonicotinoid.
Mae pysgodfeydd yn faes pwysig arall a gynhwysir yn y Cynllun. Mae'n nodi mai'r egwyddor arweiniol ar gyfer cwotâu pysgota yn y dyfodol fydd "y cynnyrch cynaliadwy mwyaf". Ni wyddom beth yn union y mae hyn yn ei olygu cyn y Bil Pysgodfeydd sydd ar y gweill, ond disgwylir i unrhyw newidiadau i gwotâu pysgota ar gyfer y DU effeithio ar ddiwydiant pysgota Cymru.
Mewn man arall, mae'r Cynllun yn addo ymgynghoriad ar warchodwr amgylcheddol yn 2018. Mae datganiadau blaenorol y llywodraeth wedi nodi y gall y corff newydd hwn fod yn berthnasol i'r DU gyfan, er bod hwn yn bwnc i'w benderfynu o'r ymgynghoriad. Er nad yw'r union fanylion ynghylch sut y byddai'r corff gwarchod yn gweithredu yn hysbys, bydd angen iddo lenwi'r bwlch a gaiff ei adael gan rôl bresennol y Comisiwn Ewropeaidd a dwyn Llywodraeth y DU i gyfrif.
Deddfwriaeth Cymru yn arwain y ffordd?
Mae rhai o'r cynigion a amlinellir eisoes ar waith yng Nghymru, diolch i Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Bydd y cynllun yn sicrhau bod Lloegr yn gyfartal â Chymru a'r Alban trwy godi tâl o 5c am fagiau plastig ar gyfer pob manwerthwr. Mae'n addo lleihau'r gwastraff bwyd sy'n mynd i safleoedd tirlenwi, ond nid yw'n cyrraedd y mesurau yng Nghymru sy'n gorfodi pob awdurdod lleol i gasglu gwastraff bwyd. O ran coedwigiad, mae'r Cynllun yn addo 180,000 hectar newydd o goed erbyn 2042, o'i gymharu â 100,000 hectar y mae Llywodraeth Cymru yn anelu at eu plannu erbyn yr un flwyddyn.
Mewn cyferbyniad mae rhai meysydd lle mae'r Cynllun yn cyflwyno syniadau nad ydynt wedi eu cynnig ar gyfer Cymru eto. Mae'r rhain yn cynnwys egwyddor enillion amgylcheddol net ar gyfer cynllunio tai a seilwaith. Mae'r Cynllun hefyd yn cynnig dileu holl wastraff plastig y gellir ei osgoi erbyn 2042, yn ogystal â chyfateb i darged Llywodraeth Cymru ar gyfer dim gwastraff erbyn 2050. Mae'n bosibl y bydd rhai o gynigion Llywodraeth y DU yn cael eu gweithredu yng Nghymru maes o law, yn enwedig o ran gwastraff plastig gyda'r adolygiad Tuag at Ddyfodol Diwastraff ym mis Gorffennaf 2018.
Ymgynghorwyd â Llywodraeth Cymru ar y Cynllun ond nid yw wedi gwneud datganiad swyddogol. Siaradodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, ar y mater yn y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar 22 Tachwedd 2017:
Un o'r pethau a rannwyd gyda ni, er nad oedd llawer iawn o fanylion ynddo, oedd y cynllun amgylchedd 25 mlynedd y mae Llywodraeth y DU wedi'i gyflwyno, sy'n amlwg yn ymwneud â Lloegr yn bennaf, ond rydym wedi cael cais, fel gweinyddiaethau datganoledig, i gyflwyno ein barn.
Ymatebion rhanddeiliaid
Nododd Cadeirydd Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru a Lloegr, Meurig Raymond:
Michael Gove spoke about the importance of delivering benefits for the environment, something that farmers already advocate and perform highly on. Mr Gove was absolutely right to recognise the vital contribution that uplands farmers have in maintaining their iconic landscape.
Ymateb Ffederasiwn Bywyd Gwyllt y Byd (WWF) oedd:
The plan is a strong start, and it's good to see the government putting the environment firmly on the agenda. But, we need to see them going further and faster. If we wait until 2042 to end plastic waste, as the plan suggests, there will be more plastic than fish in the sea. We want to see a ban on single-use plastic by 2025, and more urgent action on dirty air, climate change and protecting our precious natural heritage.
O'r sylwadau hyn a sylwadau eraill, ymddengys bod y cynllun wedi'i groesawu i raddau, er bod grwpiau amgylcheddol wedi ei ystyried ychydig yn annigonol ar y cyfan. Mae rhanddeiliaid yn awyddus i weld y manylion yn cael eu cryfhau drwy'r ddeddfwriaeth sydd ar y gweill.
Mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Robert Abernethy gan Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC), a alluogodd i’r blog hwn gael ei gwblhau.
Erthygl gan Robert Abernethy a Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru