Sut y bydd Brexit yn effeithio ar hedfan yng Nghymru a'r DU?

Cyhoeddwyd 24/07/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munud

Er bod cyfranogiad y DU yn sector hedfan yr UE yn gymhleth ac yn helaeth, mae'r pwnc wedi cael sylw cymharol brin yn y cyfryngau yn y drafodaeth ehangach ar Brexit. Mae'r blog hwn yn tynnu sylw at y materion allweddol, yr hyn sy'n digwydd yn y negodiadau a'r goblygiadau i Gymru a'r DU.

Llywodraethu hedfan yn yr UE a'i effaith ar y DU

Mae tair elfen allweddol i rôl yr UE ym maes llywodraethu hedfan: y farchnad sengl hedfan, cytundebau hedfan yr UE â gwledydd nad ydynt yn rhan o'r UE, a mentrau hedfan ledled yr UE ar ddiogelwch a rheoli traffig awyr.

Mae'r Ardal Hedfan Gyffredin Ewrop yn farchnad sengl ar gyfer hedfan. Mae'n galluogi cwmnïau hedfan mewn aelod-wladwriaeth i hedfan rhwng unrhyw ddau faes awyr yn Ardal Hedfan Gyffredin Ewrop. Mae Ardal Hedfan Gyffredin Ewrop yn cynnwys 28 gwlad yr UE, ynghyd â Norwy, Gwlad yr Iâ a gwledydd y Balcanau.

Yn ogystal, ar hyn o bryd, mae'r DU yn elwa ar gytundebau gwasanaeth awyr dwyochrog rhwng yr UE a gwledydd nad ydynt yn rhan o'r UE. Mae'r rhain yn cynnwys cytundebau gyda marchnadoedd allweddol megis y Cytundeb Trafnidiaeth Awyr rhwng yr UE ac UDA.

Yn olaf, mae'r DU yn rhan o nifer o fentrau hedfan Ewropeaidd megis Asiantaeth Diogelwch Hedfan Ewrop, sy'n datblygu ac yn monitro rheolau diogelwch ac amgylcheddol cyffredin, a'r system rheoli traffig awyr Awyr Sengl Ewropeaidd.

Mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi cyhoeddi cyfres o hysbysiadau i randdeiliaid, sy'n helpu i ddangos effaith bosibl senario dim bargen ar ddeddfwriaeth trafnidiaeth awyr a diogelwch hedfan. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Goblygiadau ar gyfer rheolau diogelwch hedfan (PDF 129KB): gan gynnwys dilysrwydd tystysgrifau diogelwch a gyhoeddir gan Asiantaeth Diogelwch Hedfan Ewrop ac awdurdodau'r DU, a'r effaith ar weithredwyr awyrennau'r DU ac awyrennau cofrestredig y DU;
  • Goblygiadau ar gyfer diogelwch hedfan (PDF 165KB): sy'n nodi y bydd rheolau a safonau diogelwch hedfan yr UE sy'n gymwys i drydydd gwledydd mewn perthynas â theithwyr, bagiau a nwyddau yn gymwys i deithiau sy'n cyrraedd yr UE o'r DU ar ôl ymadael oni ddeuir i gytundeb arall; a
  • Goblygiadau cyfreithiol (PDF 169KB): ar gyfer dilysrwydd trwyddedau gweithredu, gan fod rhaid i ddeiliaid trwyddedau'r UE, er enghraifft, gael eu prif le busnes mewn aelod-wladwriaeth o'r UE a chydymffurfio â rheolau perchnogaeth, a'r ffaith na fydd Cytundebau Trafnidiaeth Awyr yr UE yn cwmpasu'r DU mwyach.

O ran Cytundebau Trafnidiaeth Awyr, nododd tystiolaeth gan Gymdeithas Trafnidiaeth Awyr Prydain i Is-bwyllgor Materion Allanol UE Tŷ'r Arglwyddi:

Prior to the EU Single Aviation Market, the UK had bilateral Air Services Agreements with most, but not all, of the current EU and other members of the Single Aviation Market. It is questionable whether these old agreements would still be valid and they would be so out-dated that they simply not be fit for purpose.

Mae'r Gymdeithas Trafnidiaeth Awyr Ryngwladol wedi nodi, yn 2015, y cyfrannodd sector hedfan y DU £55 biliwn (3 y cant) at CMC y DU a chefnogi 945,000 o swyddi. Mae gwasanaethau rhwng dwy wlad o'r UE nad ydynt yn rhan o'r DU yn rhan fawr o fodelau busnes rhai cwmnïau hedfan yn y DU. Os bydd dim bargen, gall fod yn ofynnol i'r cwmnïau hedfan hyn adleoli eu pencadlys neu werthu cyfranddaliadau i wladolion yr UE. Yn ychwanegol, gallai gadael Asiantaeth Diogelwch Hedfan Ewrop gynyddu costau diwydiant awyrofod y DU, y gall fod rhaid iddo barhau i geisio ardystiad Asiantaeth Diogelwch Hedfan Ewrop.

Barn ac opsiynau rhanddeiliaid ar ôl Brexit

Ardal Hedfan Gyffredin Ewrop a chytundebau gwasanaeth awyr yn y dyfodol â'r UE

Yn ôl Awdurdod Hedfan Sifil y DU, mae pedwar opsiwn (PDF 160KB) ar gyfer cytundebau gwasanaeth awyr rhwng y DU a'r UE yn y dyfodol:

Mae cynrychiolwyr y diwydiant yn cytuno bod cadw aelodaeth yn Ardal Hedfan Gyffredin Ewrop a gwasanaethau awyr amlochrog yr UE yn hanfodol i'r sector.

Cytundebau gwasanaeth awyr â gwledydd nad ydynt yn rhan o'r UE

Yn ôl datganiad ar y cyd gan Lywodraeth y DU ac Airlines UK, mae Brexit yn gyfle i drafod cytundebau dwyochrog sy'n gwella cysylltiadau â Gogledd America. Ym mis Mawrth 2018, cyhoeddodd Airlines for America, prif gorff masnach hedfan UDA, y gellid disgwyl cytundebau rhwng y DU ac UDA erbyn diwedd y mis. Ym mis Gorffennaf 2018, ni chafwyd cytundebau eto, o bosibl oherwydd materion perchnogaeth/cenedligrwydd cwmnïau hedfan.

Asiantaeth Diogelwch Hedfan Ewrop

Nododd y Gymdeithas Awyrennol Frenhinol dri opsiwn ar gyfer trefniadau'r DU yn y dyfodol gydag Asiantaeth Diogelwch Hedfan Ewrop (PDF 7.65MB): aelodaeth lawn o Asiantaeth Diogelwch Hedfan Ewrop; cysylltiad ag Asiantaeth Diogelwch Hedfan Ewrop heb hawliau pleidleisio (fel y Swistir); neu ymadael ag Asiantaeth Diogelwch Hedfan Ewrop gyda phwerau rheoleiddiol wedi'u atgyfeirio yn ôl i'r Awdurdod Hedfan Sifil. Mae'r Gymdeithas Awyrennol Frenhinol yn argymell yr opsiwn cyntaf, ond mae'n debyg bod hyn wedi'i ddiystyru gan y Comisiwn Ewropeaidd. Trwyn awyren sydd wedi parcio ym maes awyr

Hedfan fel rhan o'r negodiadau

Ym Mawrth 2018, cytunodd y DU a'r UE y byddai telerau'r cytundeb gweithredu yn cynnwys mynediad parhaus at y farchnad hedfan tan ddiwedd 2020. Fodd bynnag, o fis Gorffennaf 2018, nid yw'r cytundeb hwn yn cynnwys Asiantaeth Diogelwch Hedfan Ewrop. Mae adroddiadau'r cyfryngau yn awgrymu bod yr UE yn atal trafodaethau rhwng Asiantaeth Diogelwch Hedfan Ewrop a'r Awdurdod Hedfan Sifil a bod yr Awdurdod Hedfan Sifil yn paratoi at senario dim bargen. Mae'r Gymdeithas Gweithgynhyrchwyr Hedfan Gyffredinol a Grŵp ADS (PDF 180KB) wedi dod i'r casgliad bod angen i Asiantaeth Diogelwch Hedfan Ewrop a'r Awdurdod Hedfan Sifil ddechrau trafodaethau cynllunio technegol ac wrth gefn ar frys ar wahân i'r negodiadau gwleidyddol.

Yn ei ganllawiau Brexit a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2018 (PDF 296KB), roedd y Cyngor Ewropeaidd yn rhagweld cytundebau trafnidiaeth awyr a diogelwch ar ôl Brexit, gan awgrymu'r canlynol:

...the aim should be to ensure continued connectivity between the UK and the EU … This could be achieved, inter alia, through an air transport agreement, combined with aviation safety and security agreements, as well as agreements on other modes of transport, while ensuring a strong level playing field in highly competitive sectors.

Mae sleidiau'r Comisiwn Ewropeaidd ar hedfan a'r fframwaith ar gyfer y berthynas â'r DU yn y dyfodol, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr, yn awgrymu bod yr UE yn rhagweld negodi Cytundeb Trafnidiaeth Awyr rhwng yr UE a'r DU a Chytundeb Diogelwch Hedfan Dwyochrog. Byddai'r rhain yn golygu y byddai rhywfaint o fynediad at y farchnad yn amodol ar waith cydgyfeirio neu gysoni rheoleiddiol. Fodd bynnag, mae'r sleidiau'n nodi nad yw aelodaeth y DU o Asiantaeth Diogelwch Hedfan Ewrop yn bosibl.

Mae fframwaith Llywodraeth y DU ar gyfer partneriaeth drafnidiaeth yn y dyfodol, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin, yn rhagweld cytundeb cynhwysfawr ar drafnidiaeth awyr, gan ddarparu parhad gwasanaethau a chyfleoedd, cefnogi twf ac arloesi yn y dyfodol. Byddai hyn yn cynnwys:

  • Mynediad at y farchnad: cynnal trefniadau ar gyfer gwasanaethau gweithredu cludwyr y DU a'r UE i diriogaeth y DU a'r UE, ac oddi mewn iddi;
  • Rheoli a Diogelwch Traffig Awyr: cynnwys cydweithrediad ar Reoli Traffig Awyr, gan gynnwys ar ddiogelwch ac i lunio safonau ac arferion rhyngwladol; a
  • Chyfranogiad Asiantaeth Diogelwch Hedfan Ewrop: lleihau beichiau rheoleiddiol a gwella diogelwch, gan gynnwys darparu arbenigedd technegol y DU. Byddai cyfranogiad Asiantaeth Diogelwch Hedfan Ewrop yn golygu y byddai'n rhaid i'r DU barchu cylch gorchwyl Llys Cyfiawnder Ewrop yn hynny o beth, a gwneud cyfraniad ariannol priodol.

Bydd cyfranogiad y DU yn Asiantaeth Diogelwch Hedfan Ewrop yn fater allweddol yn y negodiadau Brexit. Yn ôl yr Awdurdod Hedfan Sifil, mae'r DU a Ffrainc yn gwneud dwy ran o dair o'r gwaith o greu rheolau Asiantaeth Diogelwch Hedfan Ewrop, yn ogystal â 90 y cant o'i gweithgareddau allanol (PDF 160KB). Gallai gadael Asiantaeth Diogelwch Hedfan Ewrop achosi baich rheoleiddiol anferth wrth leihau effaith ehangach y DU ar ddiogelwch trafnidiaeth awyr.

Mae Papur Gwyn Gorffennaf 2018 Llywodraeth y DU ar y berthynas rhwng y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol yn cynnig:

an Air Transport Agreement which seeks to maintain reciprocal liberalised aviation access between and within the territory of the UK and the EU, alongside UK participation in EASA.

Yr effaith ar Gymru

Prynodd Llywodraeth Cymru Faes Awyr Caerdydd yn 2013 mewn cyfanswm buddsoddiad o £55.3 miliwn. Ers hynny, mae wedi gwneud rhagor o fuddsoddiadau, ac, ym mis Mawrth 2018, cyhoeddodd y bydd yn prynu £6 miliwn ychwanegol o gyfrannau. Ar hyn o bryd, mae rheolau cymorth gwladwriaethol yr UE yn cyfyngu ar gymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer Maes Awyr Caerdydd a'i gysylltiadau trafnidiaeth, er y gall Brexit gynnig cyfleoedd i ddiwygio'r trefniadau cymorth presennol. Lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar ei phrif gynllun arfaethedig ar gyfer Maes Awyr Caerdydd ar 18 Gorffennaf.

Ym mis Gorffennaf 2018, nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi datganiad ar hedfan ar ôl Brexit. Fodd bynnag, mewn sesiwn graffu gyda Phwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y Cynulliad, dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn credu ei bod yn bwysig i'r DU barhau i fod yn aelod o asiantaethau'r UE, gan gynnwys Asiantaeth Diogelwch Hedfan Ewrop.

Fodd bynnag, mae Maes Awyr Caerdydd wedi rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol (PDF 153KB) a bwysleisiodd bwysigrwydd hedfan i'r DU a Chymru, gan bennu blaenoriaethau allweddol a gofynion polisi ar gyfer perthynas Cymru yn y dyfodol â'r UE.

Heblaw am bwysigrwydd cyffredinol hedfan wrth hwyluso masnach a chyfnewid busnes, nododd Maes Awyr Caerdydd dair agwedd allweddol ar effaith economaidd hedfan yng Nghymru:

  • Diwydiant awyrofod: Yn ôl Maes Awyr Caerdydd, trosiant diwydiant awyrofod Cymru yw £5 biliwn ac mae'n rhoi cyfrif am fwy na 23,000 o swyddi. Mae'r rhan fwyaf o'r diwydiant yn ardal fenter Caerdydd a Sain Tathan ac ym Mrychdyn (gogledd Cymru). Mae pryderon y gall cwmnïau awyrofod fynd â'r gwaith cynhyrchu yn ôl i gyfandir Ewrop (darllenwch ein herthygl blog am bryderon Brexit Airbus);
  • Effaith economaidd Maes Awyr Caerdydd: Mae Maes Awyr Caerdydd yn amcangyfrif mai ei gyfraniad at yr economi leol yw £102 miliwn o werth ychwanegol crynswth a 4,350 o swyddi. Llai o alw oherwydd bod defnyddwyr yn colli hyder mewn teithio awyr ar ôl Brexit yw un o brif bryderon y maes awyr, gyda theithio hamdden yn cynnwys 87 y cant o'i holl draffig;
  • Twristiaeth: Mae'r maes awyr yn ganolfan hanfodol ar gyfer twristiaeth yng Nghymru. Mae chwarter teithwyr Maes Awyr Caerdydd yn ymwelwyr â Chymru, ac amcangyfrifir eu bod yn ychwanegu gwerth £50 miliwn y flwyddyn at economi Cymru.

Mae negeseuon allweddol a gofynion polisi'r maes awyr yn cynnwys:

  • Blaenoriaethu hedfan yn y negodiadau Brexit neu ddod i gytundeb "sooner or separate";
  • Cyfnod pontio di-dor rhwng y trefniadau hedfan presennol a'r trefniadau ar ôl Brexit;
  • Cyfranogiad parhaus yn Ardal Hedfan Gyffredin Ewrop, yng nghytundebau gwasanaeth awyr yr UE yn y presennol a'r dyfodol ac ym mentrau diogelwch yr UE, gan gynnwys cyfranogiad yn Asiantaeth Diogelwch Hedfan Ewrop â hawliau pleidleisio; ac
  • Ymdrechion parhaus yn genedlaethol ac yn yr UE i symleiddio'r broses reoleiddio.

Mae gofynion polisi eraill yn cynnwys egluro statws gwladolion yr AEE nad ydynt yn wladolion y DU, ond sy'n byw yn y DU, gan gynnal sianel basbort bresennol y DU/yr AEE/y Swistir a rheoliadau bagiau'r UE, ac adolygu Toll Teithwyr Awyr, teithio di-doll a chysylltedd rhanbarthol.

Mae diweddariad blynyddol mis Ionawr 2018 gan Faes Awyr Caerdydd yn tynnu sylw at gynnydd o 50 y cant yn nifer y teithwyr ers 2013, ac yn amlinellu cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol. O gofio maint y buddsoddiad cyhoeddus a rôl economaidd y maes awyr, ni fydd Llywodraeth Cymru na'r maes awyr am weld y cynlluniau hyn mewn perygl oherwydd Brexit. Bydd popeth yn y fantol i'r maes awyr, yr economi a theithwyr.


Erthygl gan Jessica Laimann, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Jessica Laimann gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, a’i galluogodd i gwblhau’r Papur Ymchwil hwn.