Sut wnaeth Cymru berfformio yn PISA 2018?

Cyhoeddwyd 04/12/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munud

Ddoe, cyhoeddwyd canlyniadau’r Rhaglen Asesu Myfyrwyr Rhyngwladol (PISA) ar gyfer 2018. Maent yn dangos, o ran sgoriau Cymru:

  • Eu bod wedi gwella ers 2015 mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth (gweler Tabl 1), er nad yw’r cynnydd yn ystadegol arwyddocaol.
  • Eu bod yn uwch mewn darllen a mathemateg ers i Gymru gymryd rhan gyntaf yn 2006 ond yn is mewn gwyddoniaeth (gweler Tabl 1).
  • Yn parhau ymhlith yr isaf yng ngwledydd y DU (gweler Tabl 2), ond erbyn hyn nid oes gwahaniaeth ystadegol arwyddocaol rhwng Cymru a’r Alban a Gogledd Iwerddon mewn mathemateg a gwyddoniaeth.
  • Nad oes gwahaniaeth ystadegol arwyddocaol rhyngddynt a chyfartaledd yr OECD mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth (mae cyfartaledd yr OECD wedi gostwng ers 2015 ym mhob un o'r tri maes).

Tabl 1: Sgoriau cymedrig Cymru yn PISA ers 2006

Dyma dabl yn dangos canlyniadau PISA Cymru rhwng 2006 a 2018 Ffynhonnell: Y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Addysg, Cyflawniad Disgyblion 15 mlwydd oed yng Nghymru: Adroddiad Cenedlaethol PISA 2018 (2019)

Tabl 2: Sgoriau cymedrig gwledydd y DU yn PISA 2018

Dyma dabl yn dangos canlyniadau PISA gwledydd y DU ar gyfer 2018. Ffynhonnell: Y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Addysg, Cyflawniad Disgyblion 15 mlwydd oed yng Nghymru: Adroddiad Cenedlaethol PISA 2018 (2019)

Mae'r wybodaeth yn Nhablau 1 a 2 hefyd i'w gweld yn yr ffeithlun isod.

Dyma ffeithlun yn dangos y canlyniadau PISA. Ffynhonnell: Y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Addysg, Cyflawniad Disgyblion 15 mlwydd oed yng Nghymru: Adroddiad Cenedlaethol PISA 2018 (2019)

Mae'r adroddiad swyddogol ar ganlyniadau Cymru, a luniwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Addysg (NFER), yn cyflwyno gwybodaeth a dadansoddiad pellach ynghylch ystod o agweddau ar PISA, gan gynnwys sgoriau'r disgyblion sy'n cyflawni uchaf ac isaf, y bwlch rhwng y rhain o’i gymharu â gwledydd eraill, ffactorau economaidd-gymdeithasol a ffactorau o ran y rhywiau. Mae’r prif bwyntiau yn cynnwys:

  • Cyflawnwyr uchaf: Roedd cyfran y disgyblion a wnaeth y profion PISA a gyflawnodd Lefelau 5 a 6 (y ddwy lefel uchaf) wedi cynyddu ers 2015 ym mhob un o'r tri maes. Roedd y cynnydd yn ystadegol arwyddocaol mewn darllen (o 3% i 7%) a mathemateg (o 4% i 7%).
  • Amddifadedd: Gostyngodd y bwlch rhwng disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a disgyblion nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim o 41 pwynt yn 2015 i 34 pwynt yn 2018. Mae’r NFER yn nodi bod y bwlch hwn yng Nghymru yn gymharol isel o gymharu â gwledydd eraill, a bod “disgyblion yng Nghymru yn gallu goresgyn anfanteision eu cefndir yn gymharol dda.”
  • Y rhywiau: Mewn darllen, perfformiodd merched Cymru yn well na’r bechgyn, fel ym mhob gwlad arall a gymerodd ran. Roedd y gwahaniaeth hwn yn ystadegol arwyddocaol. Perfformiodd bechgyn Cymru ychydig yn well na’r merched mewn mathemateg, ond perfformiodd merched yn well na bechgyn mewn gwyddoniaeth (sefyllfa wahanol i’r un yn 2015) er nad oedd y gwahaniaethau rhwng y rhywiau yn ystadegol arwyddocaol.
  • Llesiant: Mae’r NFER yn nodi bod disgyblion Cymru ychydig yn llai bodlon yn gyffredinol ar eu bywydau na disgyblion ar draws yr OECD. Roeddent “yn fwy tebygol o deimlo'n ddiflas ac yn bryderus” na disgyblion ar draws yr OECD ac “yn llai tebygol o deimlo'n falch, yn llawen ac yn siriol.”

Beth yw PISA?

Mae PISA yn gwerthuso systemau addysg gwledydd yn seiliedig ar berfformiad sampl o bobl ifanc 15 oed ar draws tri phrif maes: darllen, mathemateg a gwyddoniaeth. Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) sy’n rhedeg y rhaglen, a hynny bob tair blynedd. Darllen oedd y prif faes yn PISA 2018, a olygai bod cwestiynau ychwanegol a mwy o ddadansoddiad o’r canlyniadau.

I gael rhagor o wybodaeth am PISA, yr OECD a dylanwad y ddau ar bolisi Llywodraeth Cymru, gweler yr erthygl a gyhoeddwyd gennym fis diwethaf.

Beth yw targed Llywodraeth Cymru?

Targed Llywodraeth Cymru yw bod Cymru yn sicrhau 500 pwynt ym mhob un o’r tri maes, sef darllen, mathemateg a gwyddoniaeth, erbyn PISA 2021. Mae sgoriau 2018 17, 13 a 12 o bwyntiau’n brin o darged 2021 yn y tri maes hyn. Er mwyn rhoi graddfa'r gwelliant sydd ei angen ar Gymru i gyrraedd ei tharged o 500 pwynt yn ei gyd-destun, mae ei pherfformiad wedi gwella 6, 9 a 3 phwynt mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth yn y drefn honno ers 2015.

Cafodd targed blaenorol (cymharol) a osodwyd ym mis Chwefror 2011, sef i Gymru fod ymhlith yr 20 gwlad PISA uchaf erbyn 2015, ei newid i fod yn darged o 500 pwynt (absoliwt) yn 2014.

Faint o ddisgyblion a wnaeth y profion PISA yn 2018?

Gwnaeth 3,165 o ddisgyblion mewn 107 o ysgolion ledled Cymru y profion PISA 2018 rhwng diwedd mis Hydref a chanol mis Rhagfyr 2018 yn ystod proses gyfrifiadurol ddwyawr. Mae tua 30,000 o ddisgyblion ym mlwyddyn 11 a 187 o ysgolion uwchradd yng Nghymru.

Roedd mwyafrif y disgyblion a wnaeth y profion ym mlwyddyn 11, ond roedd rhai ohonynt ym mlwyddyn 10; roedd pob un ohonynt yn 15 oed. Mae adroddiad yr NFER yn cynnwys rhagor o wybodaeth am y trefniadau samplu (gweler tudalennau 206-210).

Beth fu'r ymateb i hyn?

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddatganiad i'r wasg ar yr un pryd â’r canlyniadau, lle disgrifiodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, hwy fel rhai “cadarnhaol, ond nid perffaith”. Dywedodd:

Rydym wedi dal i fyny, ac yn dal i wella ym mhob maes. Fel cenedl, rhaid i ni ymdrechu'n galed i gadw'r momentwm hwn.

Hefyd, gwnaeth y Gweinidog ddatganiad ac atebodd gwestiynau yn y Cyfarfod Llawn ar 3 Rhagfyr 2019. Roedd hi a’r Prif Weinidog ill dau yn cydnabod bod angen gwelliant pellach yn enwedig ym mherfformiad bechgyn o ran darllen. Roedd y cwestiynau gan Aelodau Cynulliad eraill yn canolbwyntio, ymhlith pethau eraill, ar y targod 500 pwynt ar gyfer 2021, y ffaith bod sgoriau Cymru yn dal ymhlith yr isaf yn y DU, dysgwyr mwy abl a thalentog, llesiant disgyblion, a diwygio’r cwricwlwm.

Mae polisïau gwella ysgolion Llywodraeth Cymru wedi'u nodi yn ei chynllun gweithredu, Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl 2017-21. Mae ein herthyglau blaenorol yn amlinellu’r cefndir i feysydd allweddol diwygio’r cwricwlwm ac atebolrwydd ysgolion.

Y tu hwnt i’r Senedd, dyma ymateb gan rai rhanddeiliaid:

  • Ar ei chyfrif trydar, dywedodd Comisiynydd Plant Cymru ei bod yn galonogol gweld cynnydd, ond mai dim ond un dull o fesur yw PISA, a bod angen i blant allu cyrraedd eu llawn botensial mewn ffordd sy’n cefnogi pob un o’u hawliau gan gynnwys iechyd meddwl, llesiant, diogelwch a thegwch.
  • Dywedodd yr undeb athrawon, NASUWT, nad yw’n briodol defnyddio canlyniadau PISA i rancio gwledydd neu awdurdodaethau, a bod hynny’n tynnu sylw oddi ar y materion difrifol, gan gyfeirio at lwyth gwaith athrawon a thanariannu.
  • Dywedodd undeb arall, UCAC, fod “y penawdau’n gymharol galonogol” ond rhybuddiodd fod “angen gwneud defnydd doeth” o ganlyniadau PISA a bod “yn rhaid mynd y tu hwnt i’r penawdau.”
  • Dywedodd ASCL, sy’n cynrychioli arweinwyr ysgolion a cholegau, mai dim ond un ffordd o fesur y system addysg yw PISA ac nad oes modd iddo ddweud y stori lawn am ein hysgolion.

Ffyrdd eraill o fesur cynnydd

Nid PISA yw'r unig ffordd o werthuso sut mae system addysg Cymru yn perfformio.

Mae gwybodaeth am ganlyniadau TGAU 2019 i’w gweld yn ein herthygl ym mis Awst a datganiad ystadegol Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd heddiw. Ac mae Prif Arolygydd Estyn yn cyhoeddi adroddiad blynyddol am yr hyn y mae'r arolygiaeth wedi sylwi arno yn ystod y flwyddyn. Bydd adroddiad y Prif Arolygydd ar gyfer 2018/19, sydd i’w gyhoeddi yn gynnar yn 2020, yn rhoi sylw i 'gyflwr y genedl', gan ystyried canlyniadau PISA 2018.

Bydd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad yn trafod gwella ysgolion a chodi safonau gyda'r consortia rhanbarthol a'r Gweinidog yn y Flwyddyn Newydd.


Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru