Nod y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) yw darparu'r sail gyfreithiol angenrheidiol ar gyfer cynllun Llywodraeth Cymru i wneud digartrefedd yn beth prin a byrhoedlog nad yw’n ailddigwydd.
Mae'n ehangu’r diffiniad o bwy all gael mynediad at wasanaethau digartrefedd, yn hwyluso camau ataliol cynharach ac yn rhoi cyfrifoldebau i gyrff cyhoeddus penodol am ymdrin â digartrefedd.
Cynhaliodd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y trafodion Cyfnod 2 ar 11 Rhagfyr 2025. Mae'r erthygl hon yn crynhoi'r hyn a ddigwyddodd yn ystod Cyfnod 2 a sut y cafodd y Bil ei ddiwygio. Mae hefyd yn tynnu sylw at rai meysydd a allai ddod i’r amlwg yn ystod Cyfnod 3.
Mae rhagor o wybodaeth gefndirol am y Bil ar gael ar ein tudalen adnoddau Biliau a'r erthygl ar y ddadl Cyfnod 1.
Sut newidiodd y Bil yn ystod Cyfnod 2?
Personau cymhwysol ar gyfer tai cymdeithasol
Un newid mawr yw dileu adran 35, drwy welliant a gyflwynwyd gan Siân Gwenllian AS.
Roedd yr adran hon yn cynnig rhoi i awdurdodau tai lleol y disgresiwn i benderfynu pa ddosbarthiadau o bobl sy'n “bersonau cymhwysol” neu nad ydynt yn bersonau cymhwysol i gael tai cymdeithasol yn eu hardal.
Bwriad hyn oedd rheoli nifer y bobl ar restrau aros drwy ganiatáu i awdurdodau lleol dynnu ymgeiswyr “nad oes angen tai arnynt” oddi ar y rhestr aros. Fodd bynnag, yn ystod Cyfnod 1, rhybuddiodd tystion, gan gynnwys Shelter Cymru a Sefydliad Bevan, y gallai hyn greu anghysondeb ac arwain at wahaniaethu yn erbyn rhai grwpiau.
Yn ôl yr adroddiad Cyfnod 1 gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai:
Rydym yn bryderus iawn y bydd darparu'r pŵer disgresiynol hwn yn ein symud i ffwrdd o'r syniad cyffredinol y gall unrhyw un wneud cais am dai cymdeithasol.
Yn ystod Cyfnod 2, dywedodd Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, er ei bod hi’n teimlo bod y Bil fel y’i cyflwynwyd yn cynnwys digon o fesurau diogelu, ei bod hi’n barod i wrando ar y pryderon a fynegwyd, a’i bod hi felly’n cefnogi’r gwelliant perthnasol. Cytunwyd ar adran 35 newydd.
Adolygu effeithiau
Newid arall yw cyflwyno dyletswyddau ar Weinidogion Cymru i adolygu gweithrediad ac effeithiau'r Ddeddf cyn adrodd arnynt.
Cafodd y gwelliannau hyn eu cyflwyno gan yr Ysgrifennydd Cabinet mewn ymateb i argymhellion gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, a oedd ill dau wedi pwysleisio pwysigrwydd monitro ac adrodd.
Mae'r gwelliannau'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu gweithrediad ac effaith y Ddeddf, a chyhoeddi adroddiad o fewn pedair blynedd i'r Ddeddf ddod i rym yn llawn. Maent hefyd yn cyflwyno gofyniad treigl ar gyfer cyhoeddi adroddiadau cynnydd, gydag adroddiad yn ofynnol erbyn 31 Rhagfyr 2028, adroddiad ychwanegol erbyn 31 Rhagfyr 2029, ac adroddiadau eraill bob dwy flynedd nes bod y Ddeddf wedi’i chychwyn yn llawn.
Cafodd y gwelliannau hyn eu cytuno. Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet:
This rolling approach provides the Senedd with a rigorous mechanism by which to scrutinise commencement and ensure efficient implementation of the legislation.
Y ddyletswydd “gofyn a gweithredu”
Mae'r Bil yn cynnig ymestyn dyletswyddau cyfreithiol i gyrff cyhoeddus penodedig “ofyn a gweithredu”, gan fynd ati i nodi pobl sy'n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref a'u cyfeirio at gymorth.
Er bod y Bil yn nodi rhestr hir o gyrff cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd hon, mynegodd llawer o dystion bryderon yn ystod Cyfnod 1 nad yw rhai cyrff cyhoeddus wedi'u cynnwys ar y rhestr, er gwaethaf y ffaith eu bod mewn sefyllfa dda i nodi’r risg o ddigartrefedd.
Cyflwynodd Joel James AS welliannau i gynnwys gofal iechyd sylfaenol a gwasanaethau addysg. Er ei bod yn cydymdeimlo â nod y gwelliannau hyn, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet:
this is not the right approach in meeting our policy intention, or it does not align with broader sector agreements.
Gwrthodwyd y gwelliannau. Tynnodd Siân Gwenllian AS ei gwelliant i gynnwys heddluoedd yng Nghymru yn ôl.
Cyflwynodd yr Ysgrifennydd Cabinet welliannau i ymateb i bryderon a fynegwyd gan Lywodraeth y DU. Mae'r rhain yn mireinio'r geiriad sy'n galluogi Gweinidogion Cymru i osod y ddyletswydd i "ofyn a gweithredu" ar awdurdodau ychwanegol a gedwir yn ôl. Maent hefyd yn addasu'r ddyletswydd ar Ganolfannau Byd Gwaith i sicrhau ei bod yn cyd-fynd â'r ddyletswydd gyfatebol yn y ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i Loegr. Cafodd y gwelliannau hyn eu cytuno.
Cydweithio rhwng landlordiaid cymdeithasol ac awdurdodau lleol
Mae adran 33 yn cyflwyno dyletswydd ar landlordiaid cymdeithasol i gydymffurfio â chais gan awdurdod lleol i gynnig llety addas i ymgeisydd, oni bai bod rheswm da dros beidio â gwneud hynny. Roedd y Bil fel y’i cyflwynwyd yn rhoi pŵer disgresiynol i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau ar y mater hwn.
Ar ôl iddi addo i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad y byddai'r pŵer hwn yn cael ei droi'n ddyletswydd, cyflwynodd yr Ysgrifennydd Cabinet welliannau i'r perwyl hwnnw, a chafodd y gwelliannau hyn eu cytuno. Cafodd gwelliannau eraill, a oedd yn cynnig gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol i rannu gwybodaeth am ymgeiswyr gyda landlordiaid cymdeithasol, eu gwrthod.
Cofrestrau Tai Cyffredin
Mae'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol gadw Cofrestr Tai Cyffredin, rhywbeth y mae pob awdurdod yng Nghymru namyn tri eisoes yn ei wneud. Dywedodd sawl tyst yn ystod Cyfnod 1, gan gynnwys y bargyfreithiwr Crash Wigley a chynrychiolydd Tai Cymunedol Cymru, nad oedd y Bil yn caniatáu'r hyblygrwydd sy’n angenrheidiol er mwyn i rai dyraniadau ddigwydd y tu hwnt i’r Gofrestr Tai Cyffredin, er enghraifft ar gyfer tai rhent preifat neu dai rhent canolradd. Cytunodd yr Ysgrifennydd Cabinet i gyflwyno gwelliannau yn ystod Cyfnod 2 i unioni hyn. Cafodd y gwelliannau hynny eu cytuno.
Dyletswydd i helpu i gadw llety
Mae adran 18 o'r Bil yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu cefnogaeth i ymgeiswyr y maent eisoes wedi'u cynorthwyo i ddod o hyd i lety, os ydynt o'r farn y gallai'r ymgeiswyr hynny wynebu risg o fod yn ddigartref dro ar ôl tro heb i’r gwasanaethau cymorth hynny fod yn eu lle.
Mae'r Bil yn dod â'r ddyletswydd hon i ben ar ôl 12 mis o ddarparu’r cymorth perthnasol. Yn ystod Cyfnod 1, galwodd rhai tystion, gan gynnwys yr Athro Suzanne Fitzpatrick a'r corff ymbarél ar gyfer darparwyr cymorth, sef Cymorth Cymru, am fwy o hyblygrwydd ar gyfer ymgeiswyr y gallai fod angen cymorth arnynt am gyfnod hirach.
Cyflwynwyd gwelliannau i gyflawni'r nod hwn gan Joel James AS, Siân Gwenllian AS a’r Ysgrifennydd Cabinet. Dywedodd Jayne Bryant AS fod Llywodraeth Cymru yn ffafrio ei datrysiad ei hun, sef rhoi pŵer i awdurdodau lleol ddarparu cefnogaeth ar ôl i'r ddyletswydd ddod i ben, er iddi ychwanegu: "I remain open to further discussions with partners during Stage 3 to assess whether anything else might be possible". Cafodd dau o welliannau’r Ysgrifennydd Cabinet eu cytuno.
Beth allai ddigwydd yn ystod Cyfnod 3?
Cytunodd yr Ysgrifennydd Cabinet i gynnal trafodaethau pellach ag Aelodau ar rai gwelliannau eraill nas cytunwyd arnynt neu a dynnwyd yn ôl, gan gynnwys:
- Gofyniad i gyhoeddi data ar Gofrestrau Tai Cyffredin, i wella'r darlun o ran data ar restrau aros ar gyfer tai cymdeithasol
- Eglurhad nad yw’r dyletswyddau “gofyn a gweithredu” yn ymyrryd â hawliau corff cyhoeddus i adennill meddiant o lety
- Gofyniad i gyhoeddi canllawiau ar warantwyr rhent, yn unol â’r uchelgais polisi a nodwyd yn y Papur Gwyn ar ddigonolrwydd tai a rhenti teg, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2024.
Y camau nesaf
Caiff y trafodion Cyfnod 3 eu cynnal yn y Cyfarfod Llawn. Bydd hyn yn gyfle arall i’r Aelodau ddiwygio’r Bil. Caiff y dyddiad ei gyhoeddi yn ei dro.
Erthygl gan Jennie Bibbings, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru