Promenâd Llandudno

Promenâd Llandudno

Sut newidiodd y Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) yng Nghyfnod 2?

Cyhoeddwyd 06/03/2026

Ar y cyfan, mae’r Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru):

  • yn ailddatgan a moderneiddio swyddogaethau Gweinidogion Cymru o ran hybu twristiaeth yng Nghymru, ac ar yr un pryd yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ystyried yr effaith gymdeithasol y gallai twristiaeth ei chael ynghyd â'r effaith y gallai ei chael ar yr amgylchedd a'r Gymraeg;
  • rheoleiddio darpariaeth llety ymwelwyr yng Nghymru drwy gyflwyno cyfundrefn drwyddedu sy’n canolbwyntio ar lety hunangynhwysol, hunanarlwyo i ddechrau, ac yn ceisio sicrhau bod safon y llety hwnnw’n cyd-fynd yn agosach â safonau cyfatebol sydd eisoes yn gymwys i’r sector rhentu preifat;
  • gwneud safon mewn perthynas â ffitrwydd llety ymwelwyr yn ofyniad contractiol;
  • sefydlu cyfeiriadur o lety ymwelwyr at ddiben darparu gwybodaeth i'r cyhoedd; ac
  • yn creu cod o gyfraith yng Nghymru ar dwristiaeth, gan ymgorffori darpariaethau’r Bil ei hun a darpariaethau Deddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025. Bydd is-ddeddfwriaeth a wneir maes o law o dan y Bil neu’r Ddeddf honno hefyd yn ffurfio rhan o’r cod.

Cynhaliodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig drafodion Cyfnod 2 ar 5 Chwefror. Mae'r erthygl hon yn crynhoi'r hyn a ddigwyddodd yng Nghyfnod 2 a sut y diwygiwyd y Bil.

I ddarllen mwy am gefndir y Bil, gallwch weld ein tudalen adnoddau ar y Bil a'n herthygl ar y ddadl yng Nghyfnod 1.

Sut newidiodd y Bil yng Nghyfnod 2?

Cyfnod ymgynghori gofynnol

Mae'r diffiniad o lety ymwelwyr rheoleiddiedig yn y Bil yn canolbwyntio i ddechrau ar lety hunangynhwysol, hunanarlwyo ac mae adran 5 o'r Bil yn darparu i Weinidogion Cymru ychwanegu “unrhyw ddisgrifiad arall o lety ymwelwyr” drwy reoliadau. Yn ei adroddiad Cyfnod 1, nododd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y bydd yr hyblygrwydd hwn yn allweddol wrth ymateb i'r data a gynhyrchir gan y gofrestr llety ymwelwyr sydd ar ddod. Fodd bynnag, argymhellodd y Pwyllgor y dylai unrhyw reoliadau o dan adran 5 fod yn ddarostyngedig i gyfnod craffu gofynnol.

Mewn ymateb i argymhelliad y Pwyllgor, cyflwynodd Llywodraeth Cymru welliant yng Nghyfnod 2 i osod cyfnod ymgynghori o 12 wythnos o leiaf ar gyfer unrhyw gynigion i wneud rheoliadau i ehangu'r diffiniad o lety ymwelwyr rheoleiddiedig. Derbyniwyd y gwelliant.

Hyfforddiant ar gyfer darparwyr llety ymwelwyr

Mae Adran 16 o’r Bil yn darparu y gall Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, osod gofyniad ar ddarparwyr llety ymwelwyr i gwblhau hyfforddiant. Byddai'r hyfforddiant yn cwmpasu'r gofyniad i fangre fod yn ffit i fod yn llety ymwelwyr, yn cynnwys unrhyw god ymarfer a gyhoeddir o dan adran 3 ac unrhyw faterion eraill sy'n gysylltiedig â rheoleiddio llety ymwelwyr. Yn dilyn y pryderon a fynegwyd gan randdeiliaid yng Nghyfnod 1, nododd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ei fod yn bwysig i Lywodraeth Cymru “sicrhau nad yw unrhyw ofyniad i gwblhau hyfforddiant yn mynd yn faich ar ddarparwyr”.

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru welliant yn ymdrin â sut y bydd gofyniad hyfforddi'r cynllun trwyddedu yn gweithredu. Yn benodol, mae'n nodi bod rhaid gwneud rheoliadau i nodi pa ddarparwyr llety ymwelwyr sydd angen cwblhau'r hyfforddiant. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg fod y gwelliant yn caniatáu ar gyfer cyflawni ymdeimlad cymesur o hyfforddiant, a bydd hyfforddiant yn cael ei raddnodi yn ôl y profiad sydd gan bobl eisoes o redeg busnes llwyddiannus. Mae'r gwelliant hefyd yn egluro y gallai hyfforddiant “naill ai gael ei ddarparu gan Weinidogion Cymru yn uniongyrchol neu gan rywun sydd wedi'i awdurdodi i wneud hynny ar eu rhan, ac y gellir codi ffioedd am yr hyfforddiant” yn y ddau senario.

Niwsans

Cyflwynodd Luke Fletcher AS welliannau a oedd yn ceisio darparu amddiffyniadau rhesymol i gymunedau lle mae llety ymwelwyr yn bresennol. Mae'r gwelliannau, a gafodd eu derbyn, yn ychwanegu amod trwydded a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr llety gymryd camau rhesymol i atal ymddygiad a allai achosi niwsans neu annifyrrwch i gymdogion.

Cefnogodd Ysgrifennydd y Cabinet y gwelliannau a dywedodd:

This issue was extensively discussed when I was in front of this committee during Stage 1 proceedings, particularly by our colleague Jenny Rathbone, and I know how significant this issue can be for people who live near short-term lets. I believe that the approach taken in these amendments strikes a proportionate balance. It sets the expectation that accommodation providers will take reasonable steps to avoid a nuisance, such as contractual terms for visitors about anti-social behaviour and informing guests what is expected of them, but the amendments do not make providers responsible for behaviour that is beyond their control.

Cychwyn

Argymhellodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, os nad yw darpariaethau'r Bil wedi dod i rym erbyn diwedd tymor nesaf y Senedd, yna ni ddylid gallu cychwyn darpariaethau’r Bil. Mewn ymateb, cyflwynodd Llywodraeth Cymru welliant i ddod â’r darpariaethau sy'n weddill yn y Bil i rym ar y dydd Llun cyntaf ym mis Mawrth 2030, os nad ydynt eisoes wedi'u cychwyn erbyn y dyddiad hwnnw. Esboniodd Ysgrifennydd y Cabinet ei fod yn cytuno nad yw’n iawn i unrhyw Fil gael ei adael ar y llyfr statud heb y pŵer i’w gychwyn, neu i Lywodraeth yn y dyfodol allu rhwystro ewyllys y Senedd hon drwy aros tan y terfyn amser i gychwyn y Bil.

Mae'r gwelliant, a gafodd ei dderbyn, hefyd yn cynnwys pŵer i ohirio'r dyddiad cychwyn am gyfnod nad yw’n hwy na dwy flynedd o’r dyddiad hwn, er mwyn rhoi hyblygrwydd i Lywodraeth Cymru ddelio ag unrhyw faterion munud olaf wrth gyflwyno'r cynllun trwyddedu.

Adolygu'r gweithrediad

Mae Memorandwm Esboniadol y Bil yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal “adolygiad ôl-weithredu” o weithrediad y cynllun trwyddedu. Roedd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn pryderu na fyddai “ymrwymiad a wneir gan Lywodraeth Cymru yn cael ei anrhydeddu gan weinyddiaeth yn y dyfodol” ac argymhellodd y dylid cynnwys y gofyniad i gynnal adolygiad ar wyneb y Bil. Cyflwynodd Llywodraeth Cymru welliant i'r perwyl hwn, a gafodd ei dderbyn.

Y camau nesaf

Bydd trafodion Cyfnod 3 yn cael eu cynnal yn y Cyfarfod Llawn ar 10 Mawrth, gan roi cyfle arall i Aelodau ddiwygio'r Bil.

Gallwch wylio'r trafodion yn fyw ar Senedd.tv a bydd trawsgrifiad ar gael tua 24 awr yn ddiweddarach.

Erthygl gan Ben Stokes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru