Mae’r Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) yn Fil Aelod a gyflwynwyd gan Mark Isherwood AS, yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil.
Nod y Bil yw hyrwyddo'r defnydd o Iaith Arwyddion Prydain (IAP) a sicrhau bod anghenion arwyddwyr IAP Byddar yn cael eu hystyried wrth ddylunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus.
Mae'r erthygl hon yn bwrw golwg ar rai o'r newidiadau allweddol a wnaed yn ystod trafodion Cyfnod 2 y Bil. Mae hefyd yn tynnu sylw at faterion a gododd yn ystod y drafodaeth a allai arwain at welliannau pellach yng Nghyfnod 3, sydd i’w gynnal yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 4 Mawrth.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am Fil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) ar ein tudalen adnoddau’r Bil, a’n herthygl am y ddadl Cyfnod 1.
Mae crynodeb IAP o'r Bil ar gael ar dudalen Bil y Senedd.
Sut newidiodd y Bil yng Nghyfnod 2?
Ymgynghoriad ag arwyddwyr IAP
Mae’r Bil yn cyflwyno gofynion cynllunio ac adrodd i Weinidogion Cymru a rhai cyrff cyhoeddus (gan gynnwys awdurdodau lleol a byrddau iechyd).
Yn ystod gwaith craffu Cyfnod 1, fe wnaeth Mark Isherwood AS ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol gydnabod y byddai ymgysylltu â'r gymuned arwyddo IAP yn allweddol i lwyddiant y Bil. Fodd bynnag, nododd rhanddeiliaid nad oedd unrhyw beth penodol yn y Bil a oedd yn gwneud ymgysylltu ag arwyddwyr IAP Byddar yn orfodol, nac unrhyw beth a oedd yn amlinellu fframwaith ar gyfer cyd-gynhyrchu.
Felly, cyflwynodd AS Mark Isherwood welliannau a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru a chyrff cyhoeddus rhestredig ymgynghori â chynrychiolwyr arwyddwyr IAP wrth ddatblygu'r strategaeth a'r canllawiau IAP cenedlaethol, cynlluniau IAP lleol, a'r adroddiad cynnydd cenedlaethol. Derbyniwyd y gwelliannau hyn.
Ehangu'r gweithlu dehonglwyr a chyfieithwyr
Yn ei adroddiad Cyfnod 1, dywedodd y Pwyllgor mai prinder dehonglwyr a chyfieithwyr IAP yw’r “bygythiad mwyaf i weithredu’r Bil hwn yn effeithiol”.
Roedd llawer o’r randdeiliaid a roddodd dystiolaeth i’r Pwyllgor wedi mynegi pryder y byddai’r Bil yn cynyddu’r galw am wasanaethau dehongli a chyfieithu, sydd wedi’u hymestyn eisoes. Argymhellodd y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i ehangu'r gweithlu, gan gynnwys gosod targedau blynyddol ar gyfer hyfforddi a recriwtio dehonglwyr IAP.
Cyflwynodd Mark Isherwood AS welliant i'r perwyl hwn, a gefnogwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol. Byddai'r gwelliant yn ei gwneud yn ofynnol i strategaeth IAP Llywodraeth Cymru gynnwys targedau i gynyddu neu gynnal nifer y dehonglwyr a chyfieithwyr IAP sydd ar gael i arfer swyddogaethau o dan y Bil. Derbyniwyd y gwelliant.
Estyn dyletswyddau i gyrff cyhoeddus eraill
Mae'r Bil yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol, byrddau iechyd a rhai cyrff eraill y GIG i ddatblygu cynlluniau IAP ac adrodd ar eu gweithrediad.
Er bod rhanddeiliaid yn tueddu i gytuno y dylid blaenoriaethu'r cyrff cyhoeddus hyn, roedd llawer hefyd yn dadlau y dylid ehangu'r rhestr. Tynnodd rhai ohonynt sylw at y rhwystrau y mae arwyddwyr IAP Byddar yn eu hwynebu wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ac addysg bellach, ac roeddent yn awgrymu y dylid estyn dyletswyddau i sefydliadau fel Trafnidiaeth Cymru neu Medr.
Argymhellodd adroddiad y Pwyllgor y dylai Gweinidogion Cymru ystyried a ddylid ehangu'r rhestr o gyrff cyhoeddus sydd â dyletswyddau o dan y Bil, a hynny fel rhan o ddatblygu adroddiadau cynnydd cenedlaethol fel sy'n ofynnol o dan Adran 7. Derbyniodd AS Mark Isherwood yr argymhelliad hwn, a chyflwynodd welliant yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud hynny. Derbyniwyd y gwelliant hwn.
Tynnodd AS Sioned Williams welliant yn ôl a fyddai wedi ychwanegu pum corff arall at y rhestr yn awtomatig bedair blynedd ar ôl i'r Bil gael Cydsyniad Brenhinol. Awgrymodd y gallai gwelliant Mark Isherwood baratoi'r ffordd i roi sicrwydd i arwyddwyr IAP Byddar y “bydd cwmpas y Bil yn tyfu, i adlewyrchu realiti eu bywydau nhw”, ac y gellid trafod hyn ymhellach yng Nghyfnod 3.
Gwelliannau eraill a dderbyniwyd
Derbyniodd y Pwyllgor welliannau eraill, gan gynnwys:
- ychwanegu diffiniad o IAP at ddibenion y dyletswyddau a nodir yn y Bil; ac
- ychwanegu gofyniad i gyhoeddi canllawiau sy’n cael eu dyroddi gan Weinidogion Cymru, ac iddynt gael eu dyroddi heb fod yn hwyrach na’r dyddiad y cyhoeddir y strategaeth IAP genedlaethol.
Beth i gadw golwg amdano yng Nghyfnod 3
Penodi’r cynghorydd IAP
Mae un o'r materion allweddol a drafodwyd gan y Pwyllgor yn ymwneud â phenodi cynghorydd IAP. Fel y mae’n sefyll, byddai'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol bod y person a benodir yn defnyddio IAP ac yn gallu cyfathrebu'n effeithiol ynddi.
Yn ystod gwaith craffu Cyfnod 1, clywodd y Pwyllgor gan lawer o randdeiliaid a oedd yn teimlo'n gryf y dylai'r person a benodir fod yn berson byddar ei hun, yn ogystal â bod yn arwyddwr IAP.
Cyflwynodd Sioned Williams AS welliant yn ei gwneud yn ofynnol i'r cynghorydd IAP fod yn berson byddar, gan ddadlau y byddai hyn yn sicrhau:
“…eu bod nid yn unig yn rhugl mewn BSL ond hefyd yn dod â phrofiad byw, gan eu galluogi i ddeall bywydau, rhwystredigaethau a dyheadau’r gymuned yn uniongyrchol a medru darparu arweinyddiaeth gredadwy a chyngor ymarferol.”
Mewn ymateb, dywedodd Mark Isherwood MS mai’r cyngor cyfreithiol a gafwyd gan y Senedd a Llywodraeth Cymru oedd y gallai'r ddarpariaeth hon fod y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, gan beri risg o her gyfreithiol a allai darfu ar hynt y Bil.
Fodd bynnag, dywedodd ei fod yn archwilio dichonoldeb cynnwys y term “profiad byw” fel gofyniad i’r cynghorydd IAP drwy welliant yng Nghyfnod 3. Cytunodd Sioned Williams AS i dynnu ei dau welliant yn ôl mewn perthynas â'r cynghorydd IAP, a hynny er mwyn rhoi cyfle i'r Aelod Cyfrifol archwilio hyn ymhellach.
Gwelliannau pellach i'w harchwilio
Cytunodd Mark Isherwood AS i weithio gydag Aelodau'r Pwyllgor ar nifer o faterion eraill, i archwilio a ellid cyflwyno gwelliannau pellach yng Nghyfnod 3. Roedd y rhain yn cynnwys:
- Gofyniad i'r strategaeth IAP genedlaethol gynnwys camau gweithredu i gasglu gwybodaeth am y defnydd o IAP; a
- Mesurau i ymgorffori egwyddorion cyd-gynhyrchu yn y Bil.
Ailddatganodd hefyd ei ymrwymiad i ddiweddaru'r Memorandwm Esboniadol ar gyfer y Bil i egluro prosesau cwyno a llwybrau i arwyddwyr IAP gael cymorth.
Y camau nesaf
Mae disgwyl cynnal trafodion Cyfnod 3 y Bil yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 4 Mawrth, lle bydd cyfle arall i’r Aelodau gyflwyno gwelliannau i’r Bil.
Gallwch wylio'r ddadl yn fyw ar Senedd.tv neu ddarllen y trawsgrifiad yn fuan wedyn.
Erthygl gan Gwennan Hardy, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru