- Mae busnesau bach sydd â gwerth ardrethol o hyd at £6,000 yn cael 100% o ostyngiad ac nid ydynt yn talu trethi busnes o gwbl; ac
- Mae busnesau bach sydd â gwerth ardrethol rhwng £6,001 a £12,000 yn cael gostyngiad sy'n cael ei ostwng yn raddol; gyda chanran y gostyngiad ar drethi a ddyfarnwyd yn gostwng 1% am bob £60 o werth trethiannol dros £6,000.
Sut mae trethi busnes yn gweithio yng Nghymru?
Cyhoeddwyd 06/07/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munud
06 Gorffennaf 2016
Erthygl gan Gareth Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg
Trethi busnes, a elwir weithiau yn drethi annomestig, yw un o brif ffynonellau cyllid llywodraeth leol, ac maent wedi cael eu datganoli'n llawn i Gymru ers 1 Ebrill 2015. Mae'r blog hwn yn ateb rhai o'r cwestiynau mwyaf cyffredin y mae'r Gwasanaeth Ymchwil yn derbyn amdanynt.
Mae swm y trethi busnes y mae'n rhaid eu talu ar eiddo annomestig yn cael ei gyfrifo yn y ffordd ganlynol yng Nghymru.
Gwerth ardrethol eiddo yw amcangyfrif o faint o rent y gallai ei ddenu y flwyddyn ar y farchnad agored ar bwynt penodol mewn amser. Caiff hwn ei luosi gan y 'geiniog yn y bunt' o'r gwerth ardrethol a delir mewn trethi busnes, a elwir yn lluosydd, i gyfrifo'r rhwymedigaeth trethi busnes ar gyfer yr eiddo. Yna mae unrhyw ostyngiadau y mae'r eiddo yn gymwys ar eu cyfer yn cael eu tynnu o'r rhwymedigaeth yn y bil trethi busnes terfynol.
Yng Nghymru, mae trethi busnes yn cael eu casglu gan awdurdodau lleol a'u talu i mewn i 'gronfa' genedlaethol a weinyddir gan Lywodraeth Cymru. Yna cânt eu hailddosbarthu i awdurdodau lleol a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru fel rhan o'r setliad llywodraeth leol blynyddol a setliad yr heddlu.
Pwy sy'n gwneud beth?
Mae'r Asiantaeth Swyddfa Brisio (VOA), corff Llywodraeth y DU, yn asesu gwerth ardrethol pob eiddo annomestig yng Nghymru a Lloegr. Dyma hefyd yw'r pwynt cyswllt cyntaf os yw busnes yn credu bod ei fil yn anghywir oherwydd bod y gwerth ardrethol yn anghywir.
Mae Llywodraeth Cymru yn gosod y lluosydd trethi busnes bob blwyddyn ariannol, ac yn penderfynu polisi trethi busnes cenedlaethol gan gynnwys pennu gostyngiadau. Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol sy'n gyfrifol am bolisi a gweinyddu trethi busnes.
Mae awdurdodau lleol yn casglu trethi busnes o fewn eu hardal, a hefyd yn gallu dyfarnu gostyngiadau disgresiynol ar gyfer busnesau o fewn eu hawdurdod.
Pa help sydd ar gael ar gyfer busnesau bach i leihau eu biliau trethi busnes?
Mae cynllun gostyngiadau trethi i fusnesau bach presennol Llywodraeth Cymru yn rhoi gostyngiad i fusnesau bach sy'n gymwys yn y modd canlynol tan fis Mawrth 2017: