Sut mae’r wasgfa costau byw yn effeithio ar wresogi, bwyta a thai yng Nghymru?

Cyhoeddwyd 10/03/2022   |   Amser darllen munud

Eleni, mae aelwydydd yn wynebu'r gostyngiad mwyaf mewn incwm gwario ers canol yr 1970au o bosibl, yn ôl y Resolution Foundation. Mae’r cynnydd mewn prisiau ynni, y cynnydd mewn trethi a’r gostyngiad mewn cyflogau gwirioneddol yn golygu bod 2022 yn debygol o fod yn 'flwyddyn y wasgfa'. Mae Banc Lloegr yn rhagweld y bydd chwyddiant yn cyrraedd uchafbwynt o dros 7 y cant ym mis Ebrill, ac mae’r Resolution Foundation yn dweud y gallai’r cynnydd mewn prisiau ynni o ganlyniad i'r gwrthdaro yn Wcráin ei wthio'n uwch.

Mae ein herthygl yn amlinellu achosion y pwysau presennol, pwy sy’n cael eu heffeithio fwyaf, a pha gymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Beth sy'n achosi'r wasgfa costau byw?

Mae’r data diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod chwyddiant yn 5.5 y cant ym mis Ionawr. Y prif ffactorau y tu ôl i hyn yw prisiau ynni a chostau tanwydd, ac mae’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi rhagweld y bydd chwyddiant yn effeithio fwyaf ar yr aelwydydd tlotaf yn ystod y misoedd nesaf.

Bu cynnydd aruthrol ym mhrisiau ynni yn ystod y misoedd diwethaf; yn y DU ac yn fyd-eang. Wrth i'r economi fyd-eang ailgychwyn ar ôl y cyfyngiadau symud yn sgil y pandemig, mae stociau cyfyngedig o nwy naturiol, a chyfyngiadau cyflenwi wedi achosi i brisiau godi, ac mae’r DU yn agored i hyn gan ei bod yn mewnforio mwy o nwy naturiol nag y mae’n ei allforio. Mae'r gwrthdaro yn Wcráin hefyd yn debygol o effeithio ar brisiau ynni. Y mis diwethaf, cyhoeddodd Ofgem y byddai’r cap ar bris ynni yn cynyddu 54 y cant o 1 Ebrill ymlaen ar gyfer tariffau diofyn a safonol (nid cytundebau cyfnod penodol).

Mae cyflogau gwirioneddol yn disgyn oherwydd cynnydd mewn chwyddiant, ac mae Banc Lloegr yn disgwyl iddynt barhau i ddisgyn drwy gydol 2022 cyn i'r darlun ddechrau gwella y flwyddyn nesaf. Mae’r Resolution Foundation yn tynnu sylw at y ffaith mai hon fyddai’r drydedd gwasgfa ar gyflogau gwirioneddol mewn degawd.

Pwy fydd yn cael eu taro waethaf gan bwysau costau byw?

Mae amcangyfrifon gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol yn dangos mai’r aelwydydd tlotaf yng Nghymru sy'n debygol o gael eu taro waethaf. Mae’r aelwydydd hyn yn gwario dros chwarter eu hincwm ar ynni a bwyd, mwy na dwywaith cymaint â’r aelwydydd cyfoethocaf. Bydd aelwydydd sy’n cael budd-daliadau hefyd yn cael codiad sy’n llai na'r swm y byddai ei angen arnynt i dalu’r prisiau cynyddol.

Ffigur 1: Canran yr incwm aelwydydd a wariwyd ar ynni a bwyd, gan aelwydydd â’r 10 y cant uchaf ac isaf o incwm

Aelwydydd y ddegradd incwm isaf – Gogledd-ddwyrain Lloegr 26.2 y cant; Gogledd-orllewin Lloegr 25.4 y cant; Swydd Efrog a'r Humber 23.4 y cant; Dwyrain Canolbarth Lloegr 24.5 y cant; Gorllewin Canolbarth Lloegr 25.9 y cant; Dwyrain Lloegr 23.6 y cant; De-orllewin Lloegr 23.0 y cant; Llundain 21.0 y cant, De-ddwyrain Lloegr 21.6 y cant; Cymru 26.2 y cant; Yr Alban 26.0 y cant; Gogledd Iwerddon 29.2 y cant. Aelwydydd y ddegradd incwm uchaf - Gogledd-ddwyrain Lloegr 11.6 y cant; Gogledd-orllewin Lloegr 11.4 y cant; Swydd Efrog a Humber 10.3 y cant; Dwyrain Canolbarth Lloegr 11.1 y cant; Gorllewin Canolbarth Lloegr 11.8 y cant; Dwyrain Lloegr 10.7 y cant; De-orllewin Lloegr 10.4 y cant; Llundain 9.6 y cant, De-ddwyrain Lloegr 9.7 y cant; Cymru 11.8 y cant; Yr Alban 11.6 y cant; Gogledd Iwerddon 13.4 y cant.

Ffynhonnell: Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, Powering Down, Not Levelling Up

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod pobl anabl a phlant o rai cymunedau lleiafrifoedd ethnig yn debygol o gael eu heffeithio'n anghymesur gan bwysau costau byw.

Mae aelwydydd yn cael eu hystyried yn rhai sy’n “byw mewn tlodi tanwydd” gan Lywodraeth Cymru os oes gofyn iddynt wario mwy na 10 y cant o’u hincwm ar “drefn wresogi ddigonol”. Amcangyfrifwyd bod 155,000 o aelwydydd yng Nghymru yn byw mewn tlodi tanwydd yn 2018, a bod 144,504 arall mewn perygl o hynny. Dengys data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol o fis Mawrth 2021 fod costau ynni blynyddol ar eu huchaf mewn rhannau gwledig o Gymru.

Ffigur 2: Bil ynni blynyddol canolrifol ar gyfer y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2021, fesul awdurdod lleol yng Nghymru (£)

Ceredigion £1,092; Gwynedd £1,016; Sir Gaerfyrddin £958; Powys £953; Ynys Môn £918; Sir Benfro £896; Sir Ddinbych £895; Conwy £841; Blaenau Gwent £839; Rhondda Cynon Taf £831; Sir y Fflint £806; Castell-nedd Port Talbot £805; Sir Fynwy £804; Merthyr Tudful £782; Caerffili £772; Pen-y-bont ar Ogwr £763; Bro Morgannwg £750; Abertawe £749; Wrecsam £738; Torfaen £727; Casnewydd £682; Caerdydd £677.

Ffynhonnell: Swyddfa Ystadegau Gwladol, Effeithlonrwydd ynni Tai, Cymru a Lloegr, ardaloedd awdurdodau lleol

Mae dadansoddiad gan Sefydliad Bevan yn dangos bod llawer o aelwydydd eisoes yn gwario llai ar wresogi, bwyta a dillad, ac nad oes gan bron i 40 y cant o aelwydydd Cymru ddigon o arian ar gyfer unrhyw beth y tu hwnt i’r hanfodion.

Ffigur 3: Canran yr aelwydydd yng Nghymru sy’n gwario llai ar eitemau hanfodol, Mai-Tachwedd 2021

Gwresogi, trydan a/neu ddŵr 33 y cant; Dillad i oedolion 32 y cant; Bwyd i oedolion 26 y cant; Costau cludiant 21 y cant.

Ffynhonnell: Sefydliad Bevan, A snapshot of poverty in Winter 2021

Sut y mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cefnogi aelwydydd sydd â chostau ynni uwch?

Yn dilyn y cyhoeddiad am y cap ar bris ynni, amlinellodd Llywodraeth y DU Ad-daliad Biliau Ynni o £200 i liniaru’r cynnydd mewn prisiau. Bydd cyflenwyr ynni yn cymhwyso hyn i filiau cwsmeriaid trydan domestig o fis Hydref ymlaen, a bydd yr ad-daliad yn cael ei adennill yn awtomatig mewn pum rhandaliad o £40 o 2023 ymlaen. Mynegodd National Energy Action a Chyngor ar Bopeth Cymru bryder na fyddai’r cymorth hwn yn ddigonol i aelwydydd incwm isel.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi amlinellu cymorth i aelwydydd, gan gynnwys:

Mae wedi cyhoeddi dadansoddiad o'r mesurau hyn sy’n awgrymu y bydd yr 20 y cant tlotaf o aelwydydd yn cael bron deirgwaith cymaint o gymorth â’r 20 y cant cyfoethocaf. Mae'r dadansoddiad hefyd yn dangos bod taliadau’r Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf a’r Gronfa Cymorth Dewisol yn gwneud y pecyn yn fwy blaengar na’r ad-daliad treth gyngor.

Croesawodd Sefydliad Bevan lawer o’r cyhoeddiadau, ond dywedodd y gallai’r ad-daliad treth gyngor fod wedi’i dargedu’n well tuag at y rhai â’r angen mwyaf.

Pa effaith y mae’r cynnydd mewn prisiau bwyd yn ei chael, a sut y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio lliniaru hyn?

Bydd y cynnydd mewn costau byw yn cael yr effaith fwyaf ar ddiogelu cyflenwad bwyd aelwydydd incwm isel. Mae Ymddiriedolaeth Trussell wedi gweld arwyddion o gyflymu’r angen am fanciau bwyd tua diwedd y llynedd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu cyllid i ymestyn y ddarpariaeth Prydau Ysgol am Ddim dros wyliau ysgol, a bydd yn dechrau gweithredu ei ymrwymiad ar gyfer prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd ym mis Medi, gan ddarparu hyn i ddisgyblion iau yn gyntaf. Mae hefyd wedi dyrannu bron i £3 miliwn i gefnogi mynediad at fwyd a mynd i'r afael â thlodi bwyd.

Mae gwaith yn mynd rhagddo hefyd i edrych ar y system fwyd yn ei chyfanrwydd, gan gynnwys fforddiadwyedd bwyd iach o ansawdd da. Mae Peter Fox AS wrthi'n datblygu bil bwyd i’w gyflwyno i’r Senedd, sy’n cynnwys mynd i’r afael â thlodi bwyd fel un o’i amcanion polisi.

Beth am gostau tai?

Mae llawer ohonom hefyd yn wynebu cynnydd mewn costau tai. Mae perchnogion tai sydd â morgais amrywiol neu forgais wedi’i dracio wedi teimlo effaith Banc Lloegr yn codi cyfraddau llog. Mae darpar brynwyr tai wedi gweld y prisiau tai uchaf erioed, i fyny 13 y cant yn y flwyddyn hyd at fis Rhagfyr 2021, a chytundebau morgais drutach.

Er bod data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos cynnydd blynyddol cymharol fach mewn rhenti preifat, mae’r porth eiddo Zoopla wedi dweud bod rhenti yng Nghymru wedi codi 9.8 y cant yn ystod y flwyddyn hyd at fis Rhagfyr 2021. Mae tenantiaid landlordiaid cymdeithasol hefyd yn wynebu cynnydd mewn rhenti, gyda chynnydd o hyd at 3.1 y cant.

Gan fod cyllid llawer o bobl wedi cael ei effeithio gan y pandemig a chynnydd mewn chwyddiant, mae Sefydliad Bevan wedi galw am ymestyn cynlluniau sydd wedi’u targedu i helpu pobl gyda chostau tai.

Beth sydd nesaf?

Mae pwysau costau byw yn debygol o daro aelwydydd galetaf am genhedlaeth o leiaf, a bron i hanner canrif o bosibl. Er bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi mesurau cymorth, efallai y bydd angen cymorth ychwanegol, yn enwedig ar gyfer yr aelwydydd tlotaf.

Mae’r wasgfa costau byw yn parhau i lywio gwaith y Senedd. Mae ei Phwyllgorau wedi ystyried materion yn ymwneud â chostau byw wrth graffu ar gyllideb Llywodraeth Cymru, ac yn ystod gwaith ymchwilio. Bydd y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn holi’r Prif Weinidog am y pwysau presennol ddiwedd y mis, ac mae Pwyllgorau eraill yn cynllunio gwaith yn y maes hwn yn y dyfodol mewn ymateb i’r heriau y bydd llawer o aelwydydd yn eu hwynebu.


Erthygl gan Gareth Thomas, Jonathan Baxter, Chloe Corbyn ac Elfyn Henderson, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru