Llun o Google gan Pixnio. Dan drwydded Creative Commons.[/caption]
yn ôl, er eu bod yn dal i fod yn llai tebygol o fod mewn gwaith na dynion.
Pan gyhoeddwyd ffigurau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) am y tro cyntaf ar gyfer y cyfnod rhwng mis Mawrth a mis Mai 1992, roedd 58.9 y cant o fenywod 16-64 oed yng Nghymru mewn cyflogaeth, o’i gymharu â’r ffigur diweddaraf o 69.9 y cant yn y cyfnod rhwng mis Medi a mis Tachwedd 2016. Yn ystod yr un cyfnod, cynyddodd y ffigur cyfatebol ar gyfer dynion o 71.7 y cant i 75.1 y cant.
Mae Cyngor Busnes Menywod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi amcangyfrif y gallai sicrhau cydraddoldeb rhwng cyfraddau cyfranogiad economaidd menywod a dynion helpu i economi’r DU dyfu mwy na 10 y cant erbyn 2030.
Mae bron i dri chwarter o weithwyr rhan-amser yn fenywod.
Dengys ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol fod 286,000 o fenywod yn gweithio’n rhan-amser yng Nghymru, sy’n cyfateb i 73 y cant o’r holl weithwyr rhan-amser. Yn y flwyddyn hyd at fis Medi 2016, roedd gan 85 y cant o’r dynion a oedd mewn cyflogaeth swyddi amser llawn, ac roedd 15 y cant yn gweithio’n rhan-amser. Mewn cyferbyniad, roedd gan 57 y cant o fenywod mewn cyflogaeth swyddi amser llawn, tra roedd 43 y cant yn gweithio’n rhan-amser.
Canfu prosiect Menywod yn Ychwanegu Gwerth at yr Economi fod cydberthynas gref rhwng gwaith rhan-amser a galwedigaethau sydd yn bennaf yn cyflogi menywod, fel gwasanaethau personol, gwerthiant a gofal. Yng Nghymru, gwnaeth y prosiect ganfod bod o leiaf 40 y cant o’r swyddi hyn yn debygol o gael eu cynnig ar sail ran-amser, gan gyfyngu ar gyfleoedd i gael gwaith llawn amser.
Ar gyfartaledd, caiff menywod eu talu llai yr awr na dynion, ac maent yn fwy tebygol o gael eu talu’n llai na’r cyflog byw
Mae dwy ffordd gyffredin o gymharu gwahaniaethau mewn cyflog gweithwyr benywaidd a gwrywaidd – mae’r ddwy ffordd yn dangos bod menywod ar gyfartaledd yn cael eu talu llai yr awr na dynion yng Nghymru ac yn y DU.
- Mae’r prif fesur a ddefnyddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cymharu canolrif enillion menywod a dynion sy’n gweithio amser llawn, heb gynnwys taliadau goramser. Gan ddefnyddio’r mesur hwn, 7.5 y cant oedd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru yn 2016 ar gyfer gweithwyr llawn amser, sy’n is na ffigur y DU o 9.4 y cant.
- Dull arall a ddefnyddir i fesur y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yw edrych ar enillion canolrif yr awr heb gynnwys goramser ar gyfer yr holl fenywod a dynion sy’n gweithio, oherwydd bod hyn yn ystyried y ffaith bod menywod lawer yn fwy tebygol o weithio’n rhan-amser na dynion. Gan ddefnyddio’r mesur hwn, 15.7 y cant oedd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru yn 2016 ar gyfer yr holl weithwyr, sy’n is na ffigur y DU o 18.1 y cant.
Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru, Ystadegau’r sector blaenoriaeth 2016 (tabl 3.6)[/caption]
Mae menywod yn llai tebygol o ddechrau neu redeg busnes na dynion.
Canfu Arolwg o Fusnesau Bach 2015 gan Lywodraeth y DU fod 23 y cant o fusnesau bach a chanolig (BBaChau) yng Nghymru yn fusnesau a arweinir gan fenywod. Mae menywod hunangyflogedig yn cynrychioli 31 y cant o’r holl bobl hunangyflogedig yng Nghymru, ac mae dynion ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn hunangyflogedig na menywod. Yn y flwyddyn hyd at fis Medi 2016, roedd 63,600 o fenywod (9.4 y cant o fenywod sy’n gweithio) 16+ oed yng Nghymru yn hunangyflogedig, o’i gymharu â 138,400 o ddynion (18.6 y cant o ddynion sy’n gweithio).
Mae nifer o’r heriau sy’n wynebu menywod sy’n ceisio dechrau busnesau wedi’u nodi gan y Ffederasiwn Busnesau Bach, Chwarae Teg a’r Cyngor Busnes Menywod:
- Mynediad at gymorth busnes a chyllid: Cred y Ffederasiwn Busnesau Bach fod busnesau bach a arweinir gan fenywod yn llai tebygol o gael mynediad at gyllid na busnesau cyfatebol a arweinir gan ddynion. Ar gyfartaledd, mae menywod yn dechrau eu busnesau gyda thraean yn llai o gyfalaf.
- Hunanganfyddiad a sgiliau: Canfu’r Ffederasiwn Busnesau Bach a Chyngor Busnes Menywod fod menywod yn llai tebygol na dynion o feddwl bod ganddynt y sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddechrau busnes, a bod nifer o rwystrau posibl rhag ymdrin â hyn.
- Canfyddiadau a gwahaniaethu: Dywedodd 33 y cant o ymatebwyr i arolwg y Ffederasiwn Busnesau Bach eu bod wedi dioddef gwahaniaethu ar sail rhywedd.
Erthygl gan Gareth Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru