Llun o Brif Weinidog Vaughan Gething ac Aelodau eraill o'r Senedd yn y Cyfarfod Llawn.

Llun o Brif Weinidog Vaughan Gething ac Aelodau eraill o'r Senedd yn y Cyfarfod Llawn.

Sut mae enwebu Prif Weinidog newydd?

Cyhoeddwyd 01/08/2024   |   Amser darllen munudau

Dylai fod gan Gymru Brif Weinidog newydd o fewn y dyddiau nesaf.

Yn dilyn penderfyniad Vaughan Gething i ymddiswyddo fel arweinydd Llafur Cymru a Phrif Weinidog Cymru, dim ond un enw gafodd ei gynnig ar gyfer rôl arweinydd nesaf Llafur Cymru – Eluned Morgan AS.

O ganlyniad, bydd y Senedd bellach yn cael ei hadalw ar 6 Awst i enwebu Prif Weinidog newydd.

Mae’r erthygl hon yn edrych ar y broses ar gyfer enwebu Prif Weinidog newydd a’r hyn allai ddigwydd yn sgil y bleidlais honno.

Sut mae enwebu Prif Weinidog newydd?

Pan fydd Vaughan Gething AS yn ymddiswyddo’n ffurfiol, bydd yn ofynnol i’r Senedd enwebu Prif Weinidog newydd.

Cynhelir yr enwebiad mewn cyfarfod o’r Senedd lle mae’r Llywydd yn gofyn i’r Aelodau am enwebiadau. Gall unrhyw Aelod o'r Senedd gynnig unrhyw Aelod arall i fod yn Brif Weinidog.

Os mai un Aelod yn unig sy’n cael ei gynnig, rhaid i’r Llywydd ddatgan mai’r person hwnnw yw’r enwebai ar gyfer Prif Weinidog Cymru.

Os cynigir mwy nag un Aelod, bydd y Llywydd yn galw’r gofrestr o’r holl Aelodau (ac eithrio’r Llywydd a’r Dirprwy Lywydd) yn nhrefn yr wyddor.

Os caiff dau Aelod eu cynnig, yr un sydd â’r nifer fwyaf o bleidleisiau fydd yr enwebai. Yn achos pleidlais gyfartal, rhaid i bleidlais arall gael ei chynnal, ond nid oes rhaid i hynny ddigwydd ar unwaith. Digwyddodd hyn unwaith o'r blaen, ym mis Mai 2016, pan gafodd Carwyn Jones a Leanne Wood 29 pleidlais yr un.

Mewn gornest rhwng mwy na dau ymgeisydd, os na chaiff neb fwy o bleidleisiau na chyfanswm y pleidleisiau a fwriwyd dros bob un o’r ymgeiswyr eraill, caiff yr Aelod sydd â’r nifer leiaf o bleidleisiau ei wahardd. Yna caiff rhagor o bleidleisiau eu cynnal nes i un ymgeisydd gael mwy o bleidleisiau na chyfanswm nifer y pleidleisiau a fwriwyd dros yr holl ymgeiswyr eraill.

Ar ôl i’r Senedd benderfynu ar enwebai, bydd y Llywydd yn argymell i’r Brenin benodi’r person hwnnw’n Brif Weinidog Cymru.

Ar ôl i’r Prif Weinidog newydd gael ei benodi, bydd yn dechrau ffurfio Cabinet newydd.

Beth fydd yn digwydd os na chaiff neb ei enwebu?

Pan fydd Prif Weinidog yn ymddiswyddo, mae gan y Senedd 28 diwrnod i benodi olynydd.

Gallai’r terfyn amser hwn ddod yn bwysig os bydd y Senedd yn methu ag enwebu Aelod i fod yn Brif Weinidog. Er enghraifft, gallai hyn ddigwydd os bydd y bleidlais yn gyfartal ac nid oes ffordd o ddatrys y sefyllfa. Ar hyn o bryd, mae gan Lafur Cymru union hanner y seddi yn y Senedd, sy’n golygu y byddai pleidlais gyfartal yn bosibl pe bai pob Aelod arall yn cefnogi ymgeisydd gwahanol.

Os na fydd y Senedd yn enwebu Prif Weinidog o fewn 28 diwrnod, caiff y Senedd ei diddymu a chynhelir etholiad.

A allai hynny effeithio ar newidiadau i’r Senedd?

Mae newidiadau sylweddol i fod i ddigwydd ar gyfer yr etholiad nesaf yn 2026 o ran maint y Senedd a’r ffordd mae’r Aelodau’n cael eu hethol.

Byddai etholiad a fyddai’n digwydd am na fedrwyd enwebu Prif Weinidog yn cael ei gynnal o dan y system etholiadol bresennol, gyda 60 Aelod o’r Senedd yn cael eu hethol.

Fodd bynnag, byddai etholiad y Senedd yn 2026 yn dal i gael ei gynnal, gyda’r holl newidiadau arfaethedig yn digwydd bryd hynny.

A all Aelod o Dŷ’r Arglwyddi ddod yn Brif Weinidog?

Yn dilyn ei hethol yn arweinydd Llafur Cymru, disgwylir i Eluned Morgan AS gael ei henwebu gan ei grŵp plaid i fod yn Brif Weinidog.

Mae Eluned Morgan (y Farwnes Morgan o Drelái) wedi bod yn Aelod o Dŷ’r Arglwyddi ers 2011, ond ni fyddai hyn yn ei hatal rhag dod yn Brif Weinidog.

Mae Aelodau o Dŷ'r Arglwyddi wedi cael eu hanghymhwyso rhag bod yn Aelodau o’r Senedd, a rhag bod yn Brif Weinidog o ganlyniad, ers 2021 oni bai eu bod yn cymryd cyfnod o absenoldeb o’r Tŷ hwnnw. Nid oes disgwyl i Aelodau sydd ar gyfnod o absenoldeb fynychu cyfarfodydd Tŷ’r Arglwyddi.

Mae Eluned Morgan wedi bod ar gyfnod o absenoldeb ers 12 Mai 2021. Pan ofynnwyd iddi a fyddai hi'n rhoi'r gorau i'w harglwyddiaeth, dywedodd wrth y BBC ei bod yn gobeithio “oedi” ei pherthynas â Thŷ’r Arglwyddi.

Sut gallaf ddilyn proses yr enwebu?

Ar gais y Prif Weinidog presennol, Vaughan Gething AS, mae’r Llywydd wedi cytuno i’r Senedd gael ei hadalw ar 6 Awst er mwyn i’r Senedd enwebu Prif Weinidog newydd.

Bydd y Senedd yn cyfarfod am 11.00, a gallwch wylio’r trafodion ar Senedd.tv.


Erthygl gan Josh Hayman, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru