Mae bron i chwe mis ers i Rwsia ymosod ar Wcráin. Yn ystod y cyfnod hwn mae oddeutu chwe miliwn o ffoaduriaid o Wcráin wedi dod yn alltudion ledled Ewrop.
Fe wnaeth Llywodraeth y DU agor sawl llwybr mewnfudo ar gyfer pobl o Wcráin sydd am geisio noddfa yn y DU, gan gynnwys Cynllun Fisa i Deuluoedd Wcráin ar gyfer y rheini sydd â chysylltiadau teuluol, a'r cynllun 'Cartrefi i Wcráin'. Erbyn 18 Gorffennaf roedd cyfanswm o 99,700 o bobl wedi cyrraedd y DU drwy’r ddau gynllun.
Mae'r erthygl hon yn adeiladu ar ein erthygl flaenorol am ymateb Cymru i'r argyfwng ac yn tynnu ar ymchwiliad Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y Senedd i ddarparu cartrefi i ffoaduriaid o Wcráin.
Ydyn ni'n gwybod pwy sydd wedi cyrraedd yng Nghymru?
Mae Llywodraeth Cymru wedi addo bod yn 'uwch-noddwr' ac wedi ymrwymo i ddarparu cartref i hyd at 1,000 o ffoaduriaid o Wcráin, yn y lle cyntaf. Erbyn 19 Gorffennaf roedd 4,192 o ffoaduriaid o Wcráin wedi cyrraedd Cymru drwy'r cynllun 'Cartrefi i Wcráin', yn ôl diweddariadau wythnosol Llywodraeth y DU ar y rheini sy'n cyrraedd y wlad.
Ceir diweddariadau wythnosol hefyd ar y dadansoddiad o nifer y rheini sy'n cyrraedd y wlad a’r Fisas a roddwyd drwy'r cynllun 'Cartrefi i Wcráin' ar draws pob un o'r 22 awdurdod lleol.
Mae data sy’n ymwneud â’r rheini sy’n cyrraedd Cymru drwy’r Cynllun Fisa i Deuluoedd yn fwy cyfyngedig. Fe wnaeth Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y Senedd glywed ei fod yn anodd i awdurdodau lleol a sefydliadau eraill i dargedu cymorth yn effeithiol, cynllunio ar gyfer cynnydd yn y galw am wasanaethau a nodi unrhyw faterion ynghylch diogelwch, pan nad yw’n glir faint o bobl y maent yn delio â nhw.
Pa mor effeithiol yw'r cynllun ‘uwch-noddwyr’?
Awgrymodd Llywodraeth Cymru a'r Alban y cynllun 'uwch-noddwyr' er mwyn cefnogi proses o ddyrannu 'cyfran deg a chymesur o’r ffoaduriaid' i Gymru a'r Alban. Yn ei rôl fel 'uwch-noddwr' mae Llywodraeth Cymru wedi agor chwe chanolfan groeso lle disgwylir i ffoaduriaid aros am tua thri mis. Yn dilyn eu harhosiad, rhagwelir y byddant yn cael eu lleoli gyda gwesteiwr neu'n symud i'w llety eu hunain.
Mewn datganiad ysgrifenedig ar 8 Mehefin cyhoeddodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol y penderfyniad i gyflwyno saib dros dro ar gyfer ceisiadau newydd fel 'uwch-noddwr' yn ystod mis Mehefin. Yna, ar 6 Gorffennaf, cyhoeddodd y Gweinidog na fyddai unrhyw geisiadau newydd yn cael eu derbyn hyd nes bod Llywodraeth Cymru wedi mireinio’r trefniadau oedd ganddi ar gyfer cefnogi’r ffoaduriaid. Dywedodd y byddai Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid i:
helpu pobl o Wcráin i symud ymlaen o’r canolfannau croeso i lety tymor hwy mewn cymunedau ledled Cymru.
Yn ystod sesiynau tystiolaeth y Pwyllgor, roedd rhanddeiliaid fel Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn gefnogol, ar y cyfan, i fodel y ganolfan groeso, yn enwedig yn y modd y mae’n rhoi mwy o bwyslais ar gymorth i newydd-ddyfodiaid. Cytunodd y rhanddeiliaid fod atal ceisiadau yn ddull synhwyrol. Yn eu barn hwy, mae'n caniatáu cyfleoedd pellach i gynllunio ac archwilio'r prosesau sydd ar waith.
A all Cymru ddiwallu anghenion llety ffoaduriaid o Wcráin yn y tymor hwy?
Mae diwallu anghenion llety ffoaduriaid yn y tymor hwy yn ffactor allweddol o ran a yw'r broses adsefydlu yn llwyddiant. Mae'r llwybr nawdd yn golygu cartrefu rhywun yn y tymor byr gan noddwyr unigol. Yn yr un modd, bwriedir i'r canolfannau croeso fod yn drefniadau tymor byr. Mae angen llety mwy parhaol, felly, yn y tymor hwy, boed hynny ar ôl yr isafswm o chwe mis o nawdd, neu os bydd y nawdd yn methu. Clywodd y Pwyllgor fod hanner dwsin o leoliadau nawdd wedi methu yn Sir Benfro, gyda'r Cyngor yn gorfod paru noddwyr newydd â nhw.
Mae eisoes gan Gymru grwpiau gwahanol o bobl yn aros i gael cartref parhaol. Mae hyn yn cynnwys y rheini sydd mewn trefniadau dros dro o gynlluniau adsefydlu ffoaduriaid blaenorol fel Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid a Chynllun Adsefydlu Dinasyddion Afghanistan yn ogystal â darparu llety dros dro i 8,000 o bobl nad ydynt yn ffoaduriaid mewn awdurdod lleol.
Mae pob awdurdod lleol wedi cael manylion am unigolion sydd wedi mynegi diddordeb mewn cynnig llety nawdd yn y tymor byr. Fodd bynnag, mae Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau Tai a Gwarchod y Cyhoedd, Cyngor Sir Penfro wedi cwestiynu pa mor gynaliadwy fyddai defnyddio llety nawdd yn yr hirdymor. Amcangyfrifir y gallai fod angen i'r cyngor yn Sir Benfro ddod o hyd i 70 o unedau llety ychwanegol i gartrefu pobl o Wcráin, sy'n ychwanegol at y cartrefi sydd eu hangen yn yr hirdymor ar gyfer y 130 o aelwydydd sydd eisoes yn llety dros dro.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ariannu Cyfiawnder Tai Cymru i ddarparu cymorth i letywyr, gan gynnwys sesiynau gwybodaeth a chymorth gan gyfoedion sy’n letywyr. Mae’n bosibl y byddai hynny’n mynd i’r afael â rhai pryderon y gallai fod pwysau ychwanegol ar wasanaethau tai awdurdodau lleol pe bai lleoliadau nawdd presennol yn methu.
A yw ffoaduriaid yn ddiogel ar ôl iddyn nhw gyrraedd Cymru?
Ers i Lywodraeth y DU gyhoeddi’r Cynllun Cartrefi i Wcráin, mae wedi cael ei feirniadu’n barhaus i’r perwyl ei fod yn agored i gamfanteisio, er enghraifft mae Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig wedi tynnu sylw at yr angen i roi mesurau diogelu a fetio digonol ar waith. Mae yna bryderon nad yw gweithdrefnau diogelu yn ddigon cadarn a hynny, o bosibl, yn rhoi pobl sy’n agored i niwed, yn enwedig menywod a phlant, mewn perygl o gael eu cam-drin gan noddwyr. Mae'r pryderon hyn wedi cael eu hadleisio gan Lywodraeth Cymru.
Er mai cynllun gan Lywodraeth y DU yw Cartrefi i Wcráin, cyfrifoldeb yr awdurdodau lleol perthnasol yw diogelu, yn y pen draw. Mae'n rhaid i'r awdurdodau lleol hyn gynnal gwiriadau ar noddwyr unigol mewn modd amserol ac, yn hollbwysig, cyn i ffoaduriaid symud i'r llety noddedig a chysylltu â ffoaduriaid ar ôl iddynt ymgartrefu.
Clywodd y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, sefydliadau partner a sefydliadau trydydd sector wedi gweithio’n gyflym i liniaru risgiau posibl. Fe ddywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wrth yr Aelodau ei fod yn gweithio i gyflymu'r amser y mae gwiriadau diogelu yn ei gymryd ar noddwyr unigol, a bod gwiriadau'n cael eu cwblhau cyn i unrhyw un symud o ganolfan groeso i lety noddedig.
O ran y Cynllun Fisa i Deuluoedd, nid oes angen unrhyw wiriadau diogelu.
Pwy sy'n darparu cyllid i gefnogi ffoaduriaid Wcráin?
Mae Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid wedi beirniadu Llywodraeth y DU am beidio â darparu'r yr un lefelau o gyllid ar gyfer cynlluniau Wcráin ag iddi wneud ar gyfer cynlluniau ailsefydlu eraill, er enghraifft cynlluniau adsefydlu Syria ac Afghanistan.
Mae awdurdodau lleol yn cael £10,500 fesul ffoadur sy’n cael ei letya drwy’r gynllun Cartrefi i Wcráin. Nid oes taliad tebyg wedi’i wneud i Lywodraeth Cymru i gefnogi’r rheini sy’n cael llety yn y canolfannau croeso a sefydlwyd ganddi, yn rhinwedd ei rôl fel ‘uwch-noddwr’. Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi disgrifio’r costau hyn fel rhai 'sylweddol'.
At hynny, mae pryderon nad yw cyllid y DU ar gael i gefnogi'r Cynllun Fisa i Deuluoedd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu cymorth ariannol i unigolion sy'n darparu cefnogaeth i'r rheini sy'n cyrraedd trwy'r Cynllun Fisa i Deuluoedd a bydd yn cyfateb i'r taliad misol o £350 a wneir i noddwyr.
Y camau nesaf?
Yn dilyn y sesiynau tystiolaeth, fe wnaeth y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ysgrifennu at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar 13 Gorffennaf yn amlinellu rhai o'r materion a'r pryderon allweddol. Bydd y Pwyllgor yn parhau i fonitro’r sefyllfa, gan gynnwys gwahodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Gallwch ddilyn ymchwiliad y Pwyllgor yma. At hynny, caiff y data wythnosol ei gyhoeddi yma.
Erthygl gan Claire Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru