Sut ddylid rhoi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru?

Cyhoeddwyd 15/11/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Ddydd Mawrth, 20 Tachwedd, bydd y Gweinidog Tai ac Adfywio yn gwneud datganiad – Buddsoddi mewn Rhaglenni Ymyrraeth Gynnar a Gwaith Trawslywodraethol i Fynd i’r Afael â Digartrefedd Ymhlith Pobl Ifanc.

Dechreuodd grŵp o elusennau a oedd yn gweithio gyda phobl ifanc ddigartref ymgyrch, ym mis Hydref 2015, i ddod â’r arfer o roi llety gwely a brecwast i bobl ifanc 16 a 17 mlwydd oed i ben.

Diwygiwyd y Cod Canllawiau i Awdurdodau Lleol ar Ddyrannu Llety a Digartrefedd yn 2016, a bellach mae’n datgan bod Gweinidogion Cymru yn bwriadu rhoi terfyn ar ddefnyddio llety gwely a brecwast ar gyfer pobl ifanc sengl 16 a 17 oed, ac annog a chefnogi defnyddio llai o’r math hwn o lety dros dro.

Ym mis Mehefin 2017, penderfynodd yr elusennau digartrefedd pobl ifanc ffurfio clymblaid genedlaethol a oedd â’r nod o roi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru. Sefydlwyd clymblaid o’r enw Rhoi Terfyn ar Ddigartrefedd ymhlith Pobl Ifanc yng Nghymru sy’n gobeithio cyflawni ei nod erbyn 2027.

Achosion digartrefedd ymhlith pobl ifanc

Mae amrywiaeth o faterion cysylltiedig â’i gilydd a all arwain at berson ifanc yn dod yn ddigartref, ac mae gwaith ymchwil gan y mudiad Llamau yn awgrymu bod 97% o bobl ifanc ddigartref wedi cael o leiaf un Profiad Niweidiol yn ystod eu Plentyndod (ACE). Mae Llamau yn nodi:

  • Bu 25% o’r bobl ifanc ddigartref a gefnogir ganddynt mewn gofal;
  • Mae 90% o’r bobl ifanc a gefnogir ganddynt yn bodloni’r meini prawf ar gyfer o leiaf un broblem iechyd meddwl gyfredol; a
  • Bu tua 15% o’r bobl ifanc a gefnogir ganddynt yn gysylltiedig â gwasanaethau troseddau ieuenctid.

Pa gynnydd a wnaed o ran rhoi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc?

Yn 2016, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Llwybr Cadarnhaol tuag at Atal Digartrefedd, sef fframwaith hyblyg i’w ddefnyddio gan awdurdodau lleol a’u partneriaid i ddarparu dull gweithredu cynlluniedig ar gyfer atal digartrefedd a rhoi dewisiadau tai ar gyfer pobl ifanc. Mae’r Model Llwybr Cadarnhaol yn cynnwys pum cam:

  • Gwybodaeth a chyngor i bob person ifanc a theuluoedd;
  • Ymyrraeth gynnar wedi’i thargedu:
  • ‘Canolbwynt’ ar gyfer ymateb integredig neu ‘ganolbwynt rhithwir’ a phorth at lety a chymorth a gomisiynwyd;
  • Llety a chymorth a gomisiynwyd; ac
  • Amrywiaeth o opsiynau tai.

Ym mis Awst 2017, cyhoeddodd Carl Sargeant, yr Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant ar y pryd, fod £2.1 miliwn ychwanegol wedi ei ddyrannu i helpu i fynd i’r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc a phroblem cysgu ar y stryd. Yn dilyn hyn, ym mis Medi 2017, cyhoeddwyd y byddai £500,000 pellach ar gael. Ym mis Rhagfyr 2017, cyhoeddodd Carwyn Jones, y Prif Weinidog, y byddai £10 miliwn ychwanegol ar gael yn 2019-20 i gefnogi bwriad Llywodraeth Cymru i roi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc erbyn 2027.

Mae naratif Cyllideb ddrafft amlinellol Llywodraeth Cymru 2019-20 yn ail-adrodd y ffaith y caiff £10 miliwn ychwanegol ei ddarparu yn 2019-20 i fynd i’r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc. Mae’n nodi y caiff yr arian hwn ei roi drwy gyllid ychwanegol i’r Grant Cynnal Refeniw a thrwy gyllid uniongyrchol i brosiectau cenedlaethol a’r trydydd sector yng Nghymru.

Pa gamau sy’n cael eu cymryd ar wahân i gamau’r llywodraeth i roi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru?

Mae’r glymblaid Rhoi Terfyn ar Ddigartrefedd ymhlith Pobl Ifanc yng Nghymru wedi sefydlu Grŵp Strategaeth i ddarparu cefnogaeth strategol a gwybodaeth. Mae’r Grŵp Strategaeth yn cynnwys:

  • Carwyn Jones, y Prif Weinidog;
  • Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru;
  • Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru;
  • John Davies, Archesgob Cymru;
  • Debbie Wilcox, Cadeirydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC); a
  • Michael Sheen, noddwr Rhoi Terfyn ar Ddigartrefedd ymhlith Pobl Ifanc yng Nghymru.

Sefydlwyd Grŵp Llywio hefyd sy’n cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau fel Dewis, Gisda, Prifysgol Caerdydd, Cymorth Cymru, Shelter Cymru, CLlLC ac awdurdodau lleol. Rôl y Grŵp Llywio yw:

  • Sicrhau mai canolbwynt y gwaith o hyd yw bod yn benderfynol o roi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc;
  • Cadw llygad ar y Cynllun Gwaith ar gyfer y Dyfodol i sicrhau y caiff gwahanol elfennau/ffrydiau gwaith Rhoi Terfyn ar Ddigartrefedd ymhlith Pobl Ifanc yng Nghymru eu darparu, ac y caiff cysylltiadau angenrheidiol eu gwneud; ac
  • Eirioli dros roi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru, gydag arweiniad y glymblaid Rhoi Terfyn ar Ddigartrefedd ymhlith Pobl Ifanc yng Nghymru.

Bwriad Rhoi Terfyn ar Ddigartrefedd ymhlith Pobl Ifanc yng Nghymru yw cyflawni ei nod drwy:

  • Nodi dangosyddion cynnar o ran gwendidau a all arwain at ddigartrefedd, a nodi sut y gellid mynd i’r afael â’r rhain drwy fentrau sylfaenol, traws-ddisgyblaethol;
  • Ceisio deall, a lleihau, y cysylltiadau rhwng:
    • Ymddieithrio oddi wrth addysg a digartrefedd;
    • Y system ofal a digartrefedd; ac
    • Y system cyfiawnder ieuenctid a digartrefedd.
  • Sicrhau bod rhaglenni cefnogi mewn argyfwng ar gael ar gyfer y rheini sydd y tu hwnt i wasanaeth atal sylfaenol;
  • Sicrhau bod cyfleoedd cyflogaeth o ansawdd da ar gael i bobl ifanc sy’n agored i ddigartrefedd; a
  • Sicrhau bod y bobl ifanc hynny sydd â nodweddion a allai olygu eu bod yn fwy agored i ddigartrefedd (e.e. y rhai sy’n LGBT+, y rhai â salwch meddwl, y rhai â phroblemau camddefnyddio sylweddau, ymfudwyr, ceiswyr lloches, y rheini ag anawsterau dysgu) yn cael eu cefnogi’n briodol ar lefel sefydliadol a chymdeithasol.

Bydd Rhoi Terfyn ar Ddigartrefedd ymhlith Pobl Ifanc yng Nghymru yn sefydlu Grwpiau Gorchwyl a Gorffen unigol i fynd i’r afael â rhai o’r materion allweddol penodol (a restrir uchod). Bydd y Grwpiau Gorchwyl a Gorffen cyntaf yn ystyried:

  • Y cysylltiadau rhwng ymddieithrio oddi wrth addysg a digartrefedd ymhlith pobl ifanc;
  • Y cysylltiadau rhwng y system ofal a digartrefedd ymhlith pobl ifanc;
  • Rhoi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc yn y gymuned LGBT+ yng Nghymru; a
  • Chefnogaeth ar gyfer gofynion penodol pobl ifanc â salwch meddwl sy’n ddigartref yn eu hieuenctid yng Nghymru.

Erthygl gan Megan Jones, Gwasanaeth Ymchwil, Cynulliad Cenedlaethol Cymru.