Sut bydd cymwysterau’n newid o dan y Cwricwlwm i Gymru?

Cyhoeddwyd 17/07/2024   |   Amser darllen munudau

Mae gwaith wedi hen ddechrau i gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru. Dechreuodd ym mis Medi 2022 ac mae’n ymestyn i Flwyddyn 9 fis Medi yma. Mae hyn yn golygu mai’r dysgwyr cyntaf fydd yn astudio ar gyfer cymwysterau o dan y cwricwlwm newydd fydd y rhai sy’n dechrau Blwyddyn 10 ym mis Medi 2025 ac yn cwblhau Blwyddyn 11 ym mis Mehefin 2027.

Mae cymwysterau TGAU a chymwysterau eraill yn cael eu diwygio i gyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru – dechreuodd Cymwysterau Cymru, sef y rheoleiddiwr, waith yn 2019 ac mae CBAC, sef y corff dyfarnu, wedi ymrwymo i ddarparu’r cymwysterau. Bydd y rhan fwyaf o gymwysterau’n dechrau cael eu haddysgu ym mis Medi 2025, er na fydd rhai’n cael eu cyflwyno tan 2026 neu 2027.

Nodwyd y sail ar gyfer y gwaith diwygio mewn gohebiaeth rhwng Cymwysterau Cymru a Llywodraeth Cymru yn gynnar yn 2019. Cafwyd safbwyntiau gwahanol ar yr adeg gywir i ddatblygu’r cymwysterau i brofi a dangos dysgu o dan y Cwricwlwm i Gymru. Dywed NASUWT, yr Undeb Addysgu, fod y dull o weithredu’r Cwricwlwm i Gymru wedi methu gan fod y cwricwlwm wedi’i lunio yn gyntaf heb unrhyw syniad o sut y byddai dysgwyr yn ennill cymwysterau drwyddo. Fodd bynnag, dywedodd Cymwysterau Cymru o’r cychwyn cyntaf y dylai’r cwricwlwm ddiffinio cymwysterau, nid i’r gwrthwyneb.

Ym mis Ionawr 2024, cyhoeddodd Cymwysterau Cymru ‘ddatganiad o fwriad polisi’ ar gyfer y “cymwysterau cenedlaethol 14-16” newydd. Cyn hyn, cynhaliwyd nifer o ymgyngoriadau:

Ymgynghoriad cychwynnol Cymwysterau Cymru – Tachwedd 2019 i Chwefror 2020

Arweiniodd hyn at gyfres o egwyddorion y mae Cymwysterau Cymru wedi’u defnyddio i lunio ei benderfyniadau ar ba gymwysterau i bobl ifanc 14 i 16 oed sy’n gymwys i gael arian cyhoeddus. Penderfynwyd y byddai’r brand TGAU yn cael ei gadw ond y byddai cymwysterau TGAU unigol yn cael eu diwygio. Mabwysiadwyd tair ‘egwyddor arweiniol’, sef bod y cymwysterau:

  • yn ymwneud â nodau a dibenion y Cwricwlwm newydd i Gymru a'u cefnogi;
  • ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg; ac
  • yn cyfrannu at gynnig cydlynol a chynhwysol.

Cynigiodd yr ymgynghoriad pa gymwysterau TGAU a fyddai’n cael eu creu o dan bob un o’r chwe Maes Dysgu a Phrofiad sy’n ffurfio’r Cwricwlwm i Gymru. Cyhoeddodd Cymwysterau Cymru ei benderfyniadau ym mis Hydref 2021. Nid oes gan y chwe Maes yr un nifer o gymwysterau yn gysylltiedig â hwy, ac mae’r rhain yn amrywio o dri yn achos Iechyd a Lles, a Mathemateg a Rhifedd, i wyth yn achos Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu.

Gohiriwyd penderfyniadau am TGAU Cymraeg (fel pwnc) tan fis Mawrth 2022 pan gyhoeddodd Cymwysterau Cymru y byddai cymwysterau gwahanol yn parhau i fod ar gyfer dysgwyr mewn lleoliad cyfrwng Cymraeg a lleoliad cyfrwng Saesneg yn y drefn honno. Roedd hyn er gwaethaf diffygion canfyddedig yn y TGAU Cymraeg Ail Iaith ar hyn o bryd a’r un continwwm ar gyfer astudio Cymraeg o dan y cwricwlwm newydd.

Mae’r nod hirdymor yn parhau sef mai un cymhwyster Cymraeg cyffredinol sydd i bob dysgwr, er i Cymwysterau Cymru benderfynu bod angen cymwysterau ar wahân o hyd oherwydd lefelau amrywiol dysgwyr o ddod i gysylltiad â’r iaith. Bydd cymhwyster ychwanegol ar gyfer dysgwyr mewn lleoliadau cyfrwng Saesneg sy’n barod i symud ymlaen ymhellach ac yn gynt gyda’u sgiliau Cymraeg.

Mae gan Gomisiynydd y Gymraeg rai pryderon ynghylch y trefniadau ar gyfer cymwysterau Cymraeg (fel pwnc) fel y nodwyd gerbron Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd, sy’n craffu ar weithrediad y Cwricwlwm i Gymru.

Roedd y cynigion hyn yn rhoi disgrifiad lefel uchel o’r cymwysterau TGAU newydd – ond nid fersiynau drafft o’r cymwysterau eu hunain oeddent.

Daeth y penderfyniad terfynol ynghylch pa gymwysterau TGAU fydd ar gael a sut olwg fydd arnynt ym mis Mehefin 2023 pan gyhoeddodd Cymwysterau Cymru hefyd y meini prawf cymeradwyo ar gyfer 29 o gymwysterau (27 o gymwysterau TGAU, Dyfarniad Lefel 2 mewn Cymraeg Craidd Ychwanegol a Lefel 2 Mathemateg Ychwanegol). Yna, trosglwyddodd yr awenau i CBAC i gynhyrchu’r cymwysterau (gweler yr adran nesaf ond un).

Cyhoeddodd Cymwysterau Cymru ei Adroddiad Penderfyniadau ym mis Ionawr 2024. Yn ogystal â chymwysterau TGAU, bydd y canlynol ar gael:

  • Prosiect Personol ar unrhyw bwnc o ddewis y dysgwr. Bydd hyn ar gael ar lefel mynediad, lefel 1 a lefel 2 a bydd yn cyfwerth â 60 ‘awr dysgu dan arweiniad’, sy’n gyfwerth â hanner TGAU.
  • Cyfres o 28 o gymwysterau ‘Sgiliau Bywyd’ a 19 o gymwysterau ‘Sgiliau Gwaith’. Bydd y rhain ar gael ar lefel mynediad, lefel 1 a blwyddyn 2 (60-240 o oriau dysgu dan arweiniad).
  • Cymwysterau mewn pynciau sy’n gysylltiedig â gwaith: 13 o fathau o Dystysgrif Alwedigaethol Addysg Uwchradd (TAAU) (lefel 1-2) ynghyd â thri arall i’w pennu a 15 cymhwyster Sylfaen (lefel mynediad a lefel 1) (120-140 o oriau dysgu dan arweiniad).
  • Cymwysterau Sylfaen mewn wyth pwnc cyffredinol yn ogystal â Chymraeg (i’w gadarnhau) (120 o oriau dysgu dan arweiniad).

Bydd y cymwysterau hyn yn cael eu cyflwyno ym mis Medi 2027, ond bydd y cymwysterau TGAU newydd yn cael eu cyflwyno naill ai ym mis Medi 2025, ym mis Medi 2026 neu ym mis Medi 2027.

Ar ôl i Cymwysterau Cymru gyhoeddi’r meini prawf cymeradwyo ar gyfer y cymwysterau TGAU newydd, dechreuodd CBAC ei broses ymgynghori ei hun. Cynhaliodd ymgynghoriad ar amlinelliadau o’r cymwysterau hyn, gan nodi’r ffocws, y strwythur, y dibenion unedau a’r dull asesu lefel uchel. Gwnaed hyn mewn dau gam, rhwng mis Hydref a mis Tachwedd 2023.

Cyhoeddodd CBAC grynodeb o’r ymgynghoriad ym mis Ionawr 2024, ynghyd â’r amlinelliadau cymwysterau terfynol. Ym mis Ebrill 2024, gwnaeth CBAC gyflwyno i’w cymeradwyo gan Cymwysterau Cymru y manylebau drafft ar gyfer yr 17 o gymwysterau TGAU ac 1 cymhwyster nad yw’n gymhwyster TGAU yr oedd ganddo amlinelliadau cymwysterau wedi’u cyhoeddi ar eu cyfer.

Bydd 17 o’r cymwysterau hyn yn cael eu haddysgu o fis Medi 2025. Ni fydd cymhwyster TGAU “Y Gwyddorau (Dwyradd) yn cael ei gyflwyno tan fis Medi 2026 – yr un pryd â TGAU “Y Gwyddorau Integredig” (Gradd Unigol).

Y camau nesaf o ran datblygu cymwysterau

Mae CBAC wedi cyhoeddi’r manylebau drafft o’r cymwysterau sy’n cael eu cyflwyno yn 2025, ac mae’r fersiynau terfynol i’w cyhoeddi o fis Medi ar ôl iddynt gael eu cymeradwyo gan Cymwysterau Cymru. Dywed CBAC y bydd pecyn asesu cynhwysfawr yn cael ei gyhoeddi ar gyfer pob cymhwyster, a fydd yn cynnwys trefniadau asesu manwl a deunyddiau asesu enghreifftiol, ym mis Rhagfyr, ac y bydd canllawiau addysgu yn cael eu cyhoeddi ym mis Ionawr 2025.

Bydd CBAC yn datblygu amlinelliadau cymwysterau ac yn dilyn proses debyg ar gyfer y dwsin neu ragor o gymwysterau i’w cyflwyno o fis Medi 2026.

Mae crynodeb o’r cymwysterau TGAU a chymwysterau cysylltiedig fydd yn cael eu cyflwyno a phryd ar gael ar wefan CBAC a gwefan Cymwysterau Cymru.

Datblygiadau polisi cysylltiedig

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori ar ganllawiau statudol drafft ar gyfer ysgolion ar fodloni’r gofynion cwricwlwm i bobl ifanc 14 i 16 oed. Mae’r rhain yn wahanol i’r rhai i blant 3 i 14 oed, gan adlewyrchu bod dysgwyr yn gwneud penderfyniadau ynghylch pa gymwysterau i astudio tuag atynt.

Mae’r canllawiau newydd arfaethedig yn nodi Hawl i Ddysgu 14 i 16’, sy’n cynnwys pedair elfen, gan gynnwys pwyslais ar gynllunio ôl-16. Mae hyn yn adlewyrchu datblygiadau polisi eraill ar gyfer pobl ifanc 14-16 oed ac yn hŷn, gan gynnwys yr adroddiad “Pontio i Fyd Gwaith” gan Hefin David AS, yr Adolygiad o Gymwysterau Galwedigaethol a’r Warant i Bobl Ifanc yn ‘sgyrsiau cenedlaethol’.


Erthygl gan Michael Dauncey, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru