Cyhoeddwyd 09/07/2013
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021
  |  
Amser darllen
munudau
View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg
Cafodd Ymchwiliad Francis fod prinder dybryd o staff, yn enwedig staff nyrsio, yn ffactor obwys o ran y gofal is na’r safon a ddarparwyd yn Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Canolbarth Swydd Stafford, a chafwyd galwadau o'r newydd ar arweinwyr iechyd i sicrhau lefelau staffio priodol ar wardiau ysbytai er mwyn diogelu cleifion.
![Llun: o Flickr gan José Goulão. Dan drwydded Creative Commons](/researchblogfilescy/2013/07/hospital.jpg?w=200)
Mae’r nodiadau ymchwil yma yn cynnwys gwybodaeth am lefelau staffio nyrsys presennol yng Nghymru a’r achos dros gymarebau nyrsys:cleifion gorfodol, a disgrifiad o rolau a chyfrifoldebau cynorthwywyr gofal nyrsio a nyrsys cofrestredig o fewn y bandiau cyflog gwahanol.
Erthygl gan Philippa Watkins, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Llun o Flickr gan José Goulão. Dan drwydded Creative Commons