Yn y Cyfarfod Llawn ar 31 Ionawr, bydd Aelodau'r Cynulliad yn trafod adroddiad y Pwyllgor Deisebau ynghylch sicrhau bod pobl anabl yn gallu cael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus pryd bynnag y bo'i hangen arnynt (PDF 797KB). Mae'r adroddiad yn dilyn ystyriaeth y Pwyllgor o ddeiseb a gyflwynwyd gan Glwb Llysgenhadon Caerdydd Whizz-Kidz, sef clwb ieuenctid ar gyfer pobl ifanc anabl yn ne Cymru. Casglodd y ddeiseb 97 o lofnodion.
Roedd y ddeiseb yn galw ar y Cynulliad i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau:
- Bod pobl ifanc anabl yn cael yr hawl i drafnidiaeth gyhoeddus hygyrch pan fo’i hangen heb yr angen i gynllunio cymorth o leiaf 24 awr ymlaen llaw; a
- Hyfforddiant hanfodol mewn ymwybyddiaeth o anabledd a chymorth ym maes anabledd, ar gyfer gyrwyr tacsis a bysiau yn ogystal â staff ar drenau.
Materion ynghylch mynediad
Cyflwynodd Whizz-Kidz sawl mater allweddol (PDF 428KB) ynghylch mynediad at wasanaethau trenau, bysiau a thacsis i'r Pwyllgor yn ystod sesiwn dystiolaeth anffurfiol ar 31 Ionawr 2017. Roedd y rhain yn cynnwys:
- Methu teithio ar fyr rybudd;
- Diffyg hyfforddiant staff ar draws pob modd trafnidiaeth, sy'n golygu bod pobl anabl yn cael eu gwneud i deimlo fel 'baich'; a
- Diffyg cymorth ar drenau a materion ynghylch hygyrchedd trenau a gorsafoedd.
Dywedodd Whizz-Kidz y gall materion hygyrchedd effeithio ar allu pobl ifanc i chwilio am waith neu gymdeithasu oherwydd y gall teithio fod yn 'ormod o drafferth'. Gall y materion hyn hefyd effeithio ar hyder pobl ifanc ifanc, gan wneud iddynt deimlo'u bod wedi'u hynysu ac yn golygu nad ydynt yn teimlo'n gyfartal â'u cyfoedion nad ydynt yn defnyddio cadeiriau olwyn.
Cyflwynodd Whizz-Kidz dystiolaeth fideo i'r Pwyllgor, gan gynnwys Stori Josh sy'n tynnu sylw at lawer o'r rhwystrau y mae pobl anabl ifanc yn eu hwynebu wrth deithio ar drenau yn ne Cymru.
Tystiolaeth allweddol gan dystion allanol
Clywodd y Pwyllgor gan ystod o ddarparwyr trafnidiaeth gyhoeddus, cymdeithasau diwydiant a chynrychiolwyr llywodraeth leol ynghylch y materion a godwyd gan Whizz-Kidz.
Amlinellodd y gweithredwyr trenau a bysiau a roddodd dystiolaeth i'r Pwyllgor lefelau amrywiol yr hyfforddiant ymwybyddiaeth anabledd a ddarperir i staff. Er enghraifft, clywodd y Pwyllgor nad yw’n ofynnol ar hyn o bryd i weithredwyr bysiau fynnu bod gyrwyr yn cwblhau hyfforddiant ymwybyddiaeth anabledd. Fodd bynnag, dywedodd First Cymru y bydd yn ofynnol i bob cwmni bysiau ddarparu hyfforddiant ar gyfer ymwybyddiaeth anabledd o 1 Mawrth 2018, a hynny fel rhan o'r Dystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol Gyrwyr.
Hefyd, ymchwiliodd y Pwyllgor i hygyrchedd trenau a gorsafoedd. Er bod trenau newydd yn hygyrch, dywedodd y gweithredwyr trenau nad yw hyn yn wir yn achos trenau hŷn, er bod gweithredwyr wrthi'n uwchraddio cerbydau lle bo hynny'n bosibl. Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n caffael gweithredwr i redeg Masnachfraint Cymru a Gororau o fis Hydref 2018. Roedd y Pwyllgor yn pryderu ei bod yn aneglur ar hyn o bryd a fyddai Masnachfraint newydd Cymru a'r Gororau yn gallu diweddaru'r holl drenau i ddiwallu anghenion teithwyr anabl erbyn mis Ionawr 2020, fel sy'n ofynnol gan Reoliad 45 Railways (Interoperability) Regulations 2011.
Hefyd, mynegwyd pryderon ynghylch faint o dacsis a cherbydau hurio preifat sydd ar gael, yn enwedig ar adegau penodol o'r dydd. Ymatebodd y Gymdeithas Ceir Hurio Preifat Trwyddedig, gan fod y rhan fwyaf o yrwyr yn hunangyflogedig, na all gweithredwyr tacsis ac awdurdodau trwyddedu fynnu bod gyrwyr â mathau penodol o gerbydau ar gael ar adegau penodol o'r dydd. Yn ogystal, mae’r diffyg cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru i yrwyr sy'n dymuno prynu ceir sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn yn golygu y byddai gyrwyr yn ysgwyddo costau uwch heb unrhyw fudd ariannol.
Argymhellion y Pwyllgor
Fe wnaeth y Pwyllgor Deisebau gyfanswm o 12 o argymhellion, gan gyfeirio 11 ohonynt at Lywodraeth Cymru. Roedd y rhain yn cynnwys y dylai:
- Gyflwyno hyfforddiant ymwybyddiaeth anabledd i: staff sy’n ymdrin â chwsmeriaid a staff gorsafoedd o dan Fasnachfraint newydd Cymru a’r Gororau, gyrwyr bysiau fel rhan o Safon Wirfoddol Ansawdd Bysiau Cymru, a gyrwyr tacsis a cherbydau hurio preifat;
- Gweithio gyda Network Rail a Llywodraeth y DU, a buddsoddi ei harian ei hun, i wella mynediad i bobl anabl mewn gorsafoedd anhygyrch;
- Sicrhau bod Masnachfraint nesaf Cymru a’r Gororau a datblygiadau’r Metro yn gwella hygyrchedd pob agwedd ar wasanaethau trenau a'r Metro;
- Gweithio gyda phob cwmni trenau sy’n darparu gwasanaethau yng Nghymru i godi ymwybyddiaeth ymysg cwsmeriaid o’r cymorth hygyrchedd sydd ar gael; a
- Pharhau i ddatblygu safonau cenedlaethol cyffredin ar gyfer tacsis a cherbydau hurio preifat, gan gynnwys gofyniad i bob gyrrwr yng Nghymru gwblhau hyfforddiant ymwybyddiaeth anabledd a hyfforddiant penodol yn ymwneud â'r math o gerbyd y mae'n ei yrru.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Yn ei hymateb i adroddiad y Pwyllgor (PDF), derbyniodd Llywodraeth Cymru bob un o’r argymhellion. Fodd bynnag, roedd yr ymateb yn cydnabod, fel yr oedd adroddiad y Pwyllgor, nad yw mynediad pobl anabl at drafnidiaeth gyhoeddus wedi’i ddatganoli.
Roedd yr ymateb yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi ‘amcanion trafnidiaeth hygyrch’ erbyn diwedd y flwyddyn. Bydd y rhain yn cynnwys datblygu hyfforddiant ymwybyddiaeth anabledd i staff rheilffyrdd a gyrwyr bysiau, tacsis a cherbydau hurio preifat. Ychwanegodd Llywodraeth Cymru y byddai ei Grant Cynnal Gwasanaethau Bysiau ar gael pe bai gyrwyr yn dilyn hyfforddiant ymwybyddiaeth anabledd fel rhan o Safon Wirfoddol Ansawdd Bysiau Cymru yn unig. Yn arwyddocaol, dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn anelu bod masnachfraint nesaf y rheilffyrdd yn galluogi pobl anabl i gyrraedd gorsaf a theithio.
Mae’n werth nodi, mewn ymateb i’r argymhellion ynghylch trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat, y cyfeiriodd Llywodraeth Cymru at gyflwyno ‘cynigion manwl’ ar gyfer diwygio’r broses o drwyddedu gyrwyr tacsis a cherbydau hurio preifat erbyn gwanwyn 2018. Fodd bynnag, nid oedd yr ymateb yn nodi’n glir sut byddai’r cynigion hyn yn mynd i’r afael â’r argymhellion a dderbyniwyd.
Mae'r Gwasanaeth Ymchwil yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Moya Macdonald gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, a alluogodd i'r blog hwn gael ei gwblhau.
Erthygl gan Moya Macdonald a Sean Evans, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru