Sicrhau lles anifeiliaid anwes: diweddaru Codau Ymarfer

Cyhoeddwyd 14/06/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munud

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod lles anifeiliaid yn flaenoriaeth. Un o ganlyniadau strategol Fframwaith Cymru ar Iechyd a Lles Anifeiliaid (PDF 397KB) yw bod ‘gan anifeiliaid yng Nghymru ansawdd bywyd da’. Mae'r Fframwaith yn cwmpasu iechyd a lles da byw fferm, anifeiliaid sy’n gweithio ac ‘anifeiliaid anwes’. Ond beth yw anifeiliaid anwes, a beth yw'r dulliau er mwyn sicrhau eu lles?

Anifeiliaid anwes yw anifeiliaid y bwriedir eu cadw ar gyfer cwmnïaeth. Canfu Arolwg Cenedlaethol Cymru a gynhaliwyd yn 2014-15 fod 47% o gartrefi yn berchen ar anifail anwes (PDF 490KB). O'r cartrefi hynny, roedd 62% yn berchen ar gi a 39% yn berchen ar gath. Yr anifeiliaid anwes eraill a oedd yn cael eu cadw yng Nghymru oedd pysgod, adar, cwningod, ymlusgiaid, ceffylau/merlod ac anifeiliaid blewog bach eraill.

Mae'r ddyletswydd gyfreithiol ar gyfer perchnogion, neu'r rhai sy'n gyfrifol am anifeiliaid, er mwyn sicrhau bod anghenion lles yn cael eu diwallu wedi'i hamlinellu yn Neddf Lles Anifeiliaid 2006. Mae'r Ddeddf yn dwyn ynghyd deddfwriaeth lles anifeiliaid ac yn eu cymhwyso i anifeiliaid fferm a rhai nad ydynt yn rhai fferm. Mae'r safon gofal sy'n ofynnol gan y gyfraith wedi'i hamlinellu gan Lywodraeth Cymru mewn Codau Ymarfer. Mae'r Codau yn cynnwys canllawiau ymarferol ac wedi'u datblygu ar gyfer anifeiliaid anwes cyffredin (cŵn, cathod, ceffylau a chwningod) yn ogystal â rhai anifeiliaid fferm. Er nad yw methiant i gydymffurfio â Chod Ymarfer yn drosedd yn ei hun, mae'n bosibl defnyddio graddau cydymffurfiaeth â'r Cod fel tystiolaeth yn erbyn rhai sy'n cael eu hamau o droseddau lles anifeiliaid. Er enghraifft, mae Arolygwyr RSPCA Cymru yn aml yn defnyddio Codau

Ymarfer wrth benderfynu a yw rhywun wedi cyflawni trosedd. Adolygodd Llywodraeth Cymru y Cod Ymarfer lles anifeiliaid ar gyfer cŵn a cheffylau yn 2017. Cynhaliwyd yr adolygiad i ddiweddaru'r Codau Ymarfer i adlewyrchu newidiadau diweddar ym maes gwyddoniaeth a deddfwriaeth. Gweithiodd Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru gyda Llywodraeth Cymru i adolygu a diweddaru'r Codau. Yna, lansiwyd ymgyngoriadau cyhoeddus ddiwedd 2017 i gasglu barn rhanddeiliaid ar y gwelliannau. Mae crynodeb o'r ddau ymgynghoriad, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2018, yn cynnwys y datganiad (PDF 432KB) a ganlyn gan Lywodraeth Cymru:

Comments and suggested amendments will, where appropriate, be incorporated in to the Code. A final draft of the Code will be laid before the National Assembly for Wales for 40 days.

Hyd yn hyn, ni chafwyd unrhyw ddiweddariadau pellach o gamau Llywodraeth Cymru mewn ymateb i'r naill ymgynghoriad na'r llall.

Cod Ymarfer ar gyfer lles cŵn Wyneb labrador

Mae Argymhellion o'r 10 ymateb i'r ymgynghoriad (PDF 432KB) yn cynnwys:

  • Ychwanegu adran ar brynu cŵn ar-lein yn gyfrifol;
  • Amlinellu y gall technegau, offer a dulliau hyfforddi cosbol neu ymwthiol effeithio'n ddifrifol ar les cŵn a dylid osgoi hynny;
  • Cynnwys diagramau cyflwr corff i sicrhau bod disgrifiadau yn hawdd eu deall;
  • Rhoi sylw i'r ymgyrch Mae Cŵn yn Marw Mewn Car Poeth;
  • Darparu enghreifftiau o ffyrdd o ysgogi cŵn; a
  • Eglurhad ychwanegol ar gyfer gofynion cartrefu y tu allan, er enghraifft a ddylai fod uchafswm/isafswm tymheredd, a dylai'r gofod sicrhau bod lle i gŵn sefyll fyny'n syth a throi o gwmpas yn llwyr.

Galwodd rhanddeiliaid hefyd am gynigion i godi proffil y Cod, yn arbennig o fewn grwpiau o bobl sy'n llai tebygol o fod yn ymwybodol o'u dyletswydd gofal. Awgrymodd RSPCA Cymru y dylid cynyddu hygyrchedd y Cod, er enghraifft drwy sicrhau bod y fformat ar-lein yn gydnaws â phob platfform, fel ffonau symudol. Cod ymarfer ar gyfer lles ceffylau Llun o geffyl Mae Argymhellion o'r 12 ymateb i'r ymgynghoriad (PDF 302KB) yn cynnwys:

  • Ychwanegu cyngor ar ymddygiad nodweddiadol teulu'r ceffyl, gan amlinellu ymddygiad gwahanol sy'n perthyn i geffylau, asynnod a mulod;
  • Nodi, gan fod ceffylau yn anifeiliaid heidiol, dylai perchnogion ystyried a fydd mynediad i anifeiliaid eraill ar y safle, a bod yn ymwybodol o unrhyw wrthdaro sy'n codi o fewn grŵp o anifeiliaid;
  • Cynnwys rhagor o wybodaeth am frechiadau sydd ar gael, megis ar gyfer ffliw ceffylau;
  • Mynediad i lawr caled er mwyn cael triniaeth filfeddygol gan gynnwys i anifeiliaid sy'n gallu byw yn yr awyr agored drwy gydol y flwyddyn; a
  • Rhestru'r mathau o ffensys sy'n addas ar gyfer ceffylau, ac i wirio ffensys yn ddyddiol.

Galwodd rhanddeiliaid hefyd am i'r Cod gael ei gyflwyno mewn fformat y gellir ei ddefnyddio, ac i sicrhau bod y dyluniad a'r iaith yn gyson ar draws y gwahanol Godau Ymarfer fel y dogfennau crynodeb cyhoeddi ar gyfer pob Cod.


Erthygl wedi'i hysgrifennu ar y cyd gan Dr Lindsay Walker, Cymrawd ESRC IAA gyda Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a Dr Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.