...sy'n rhoi'r dewis i gleifion gyfeirio eu hunain ar gyfer profion diagnostig; sy'n gostwng trothwyon cyfeirio i feddygon teulu; a chanolfannau diagnostig amlddisgyblaethol lle gall cleifion gael nifer o brofion yn yr un lle ac ar yr un diwrnod.Yng Nghymru, aeth Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad ati yn ddiweddar i gynnal ymchwiliad i'r cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yma ar weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru. Yn ei argymhellion i'r Gweinidog, pwysleisiodd y Pwyllgor bwysigrwydd:
- Mynd i'r afael ag anghydraddoldebau cymdeithasol o ran y nifer sy'n manteisio ar raglenni sgrinio;
- Parhau i godi ymwybyddiaeth ymhlith meddygon teulu o symptomau canser, a hynny i wella'r broses o gael diagnosis cynnar;
- Parhau i ddatblygu adnoddau a allai helpu meddygon teulu i wneud diagnosis cynnar o ganser; a
- Sicrhau bod meddygon teulu yn sicr am y gwasanaethau sydd ar gael.
Sgrinio am ganser
Mae gan GIG Cymru dair rhaglen sgrinio canser sy'n cael eu darparu ar sail cyngor Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU a Phwyllgor Sgrinio Cymru:- Diben sgrinio serfigol yw atal canserau ymledol rhag datblygu;
- Diben sgrinio am ganser y fron yw gwneud diagnosis cynnar er mwyn lleihau cyfraddau marwolaethau; a
- Diben sgrinio am ganser y coluddyn yw cyfuno diagnosis cynnar gyda chael gwared ar dyfiannau bach sy'n helpu i atal tyfiannau canseraidd.
Cymru |
Lloegr | Yr Alban |
Gogledd Iwerddon |
|
Y ganran sy'n manteisio ar raglenni sgrinio am ganser y coluddyn (60-74 oed, wedi cael profion yn y ddwy flynedd diwethaf)Targed: 60% |
(2013-14) |
58.5%(2012-13) | 56.1%(2011-2013) |
47%2 |
Y ganran sy'n manteisio ar raglenni sgrinio am ganser y fron (50-70 oed, wedi cael profion yn y tair blynedd diwethaf)Safon Ofynnol: 70% Targed: 80% |
(2013-14) |
76.4%(Mawrth 2013) | 73.5%(2010-13) |
(Medi 2012) |
Y ganran sydd ar gael i fanteisio ar wasanaethau Sgrinio Serfigol (25-64 oed, wedi cael profion yn y pum mlynedd diwethaf)Targed: 80% |
(2014) |
78.3%(Mawrth 2013) | 70.7%1(Mawrth 2014) |
(2011-12) |

Diagnosis cynnar
Yn ôl ymchwil a wnaed gan y Rhwydwaith Genedlaethol ar Wybodaeth Canser (NCIN), mae bron i chwarter (24%) o'r holl achosion o ganser yn cael y diagnosis hwnnw mewn achos brys. Mae'r ffigur hwn yn codi i bron draean o'r achosion o ganser (31%) ymhlith pobl sy'n hŷn na 70 oed. Er mwyn cynyddu'r gyfradd o achosion o ganser sy'n cael diagnosis cynnar, mae GIG Cymru wedi datblygu nifer o raglenni. Yn gyntaf, mae Macmillan wedi bod yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i gynnal cynlluniau peilot sy'n codi ymwybyddiaeth meddygon teulu o'r arwyddion a'r symptomau o ganser. Yn dilyn llwyddiant un cynllun o'r fath, bydd swyddi ar gyfer Hwyluswyr Meddygon Teulu yn cael eu cyflwyno ledled Cymru. Yn ail, mae GIG Cymru wedi bod yn datblygu rhaglen ar gyfer 'Oncoleg Gofal Sylfaenol'. Mae hwn yn fframwaith a fydd yn gweithredu fel canllaw i feddygon teulu, byrddau iechyd a Llywodraeth Cymru drwy nodi'r adnoddau, y prosesau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar wasanaethau gofal sylfaenol i reoli a chefnogi pobl y mae canser yn effeithio arnynt. Fel rhan o'r gwaith hwn, bydd y rhaglen yn datblygu ffrydiau gwaith er mwyn gwella'r pwynt cyswllt cyntaf â symptomau a chael diagnosis cynharach. Yn drydydd, mae GIG Cymru wedi bod yn gwella'r broses o gofnodi achosion o ganser, a hynny er mwyn nodi'n well pa gam y bydd y canser o dan sylw wedi'i gyrraedd pan gaiff y diagnosis cyntaf ei wneud. O ganlyniad, mae canser y pen a'r gwddf, canser gastroberfeddol uwch, a chanser yr ysgyfaint wedi'u nodi fel achosion o ganser sy'n cael diagnosis pan fydd y canser wedi datblygu (cam 3 neu 4). Mae Llywodraeth Cymru wedi mynd ati i ddeall llwybrau gofal a chyfleoedd i wella gwasanaethau mewn perthynas ag achosion o ganser yr ysgyfaint a chanser y system dreulio sydd newydd gael diagnosis.Erthygl gan Shane Doheny, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.