Fe wnaeth Llywodraeth Cymru amlinellu’r cyllid arfaethedig i heddluoedd ar gyfer 2026-27 ddiwedd Ionawr. Bydd y Senedd yn trafod y Setliad ar 3 Mawrth. Dyma ychydig o gefndir i'r cyllid yn ogystal â rhai o'r newidiadau sylweddol sy'n cael eu cynnig i blismona yng Nghymru a Lloegr.
Yn 2026-27, cyfanswm y cymorth craidd i heddluoedd yng Nghymru drwy Setliad Terfynol yr Heddlu fydd £512.3 miliwn. Nid yw plismona wedi'i ddatganoli, ond daw cyllid gan Lywodraeth Cymru a'r Swyddfa Gartref.
Mae Llywodraeth Cymru yn nodi bod y Swyddfa Gartref wedi defnyddio mecanwaith cyllid gwaelodol (dyma fu’r drefn hefyd yn flaenorol). Mae'n dweud bod hyn yn "sicrhau y gall pob heddlu yng Nghymru a Lloegr ddisgwyl cael cynnydd o 4.022% yn ei gyllid craidd ar gyfer 2026-27”.
Cyfraniad Llywodraeth Cymru yw £113.47 miliwn. Nid oes unrhyw newid wedi bod ers y Setliad Dros Dro a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr. Mae hefyd yn darparu cyllid ar wahân ar gyfer plismona cymunedol (tua £16.3 miliwn ar gyfer 2026-27).
Mae manylion fformiwla’r Swyddfa Gartref ar gyfer cyfrifo'r cyllid, a'r gwahanol agweddau ar gyllido’r heddlu, ar gael yn adroddiad Grant yr Heddlu Llywodraeth y DU.
Trafodwyd y cynnig ar Adroddiad Grant yr Heddlu (Cymru a Lloegr) 2026/27 yn Nhŷ’r Cyffredin ar 11 Chwefror.
Mae Comisiynwyr Heddlu a Throseddu hefyd yn codi cyllid refeniw ychwanegol drwy braeseptau’r dreth gyngor.
Ar gyfer Lloegr, mae Llywodraeth y DU yn gweithredu trothwy ac mae angen refferendwm lleol ar gyfer cynnydd uwchlaw'r trothwy. Y trothwy ar gyfer 2026-27 fydd cynnydd o £15 ar gyfartaledd treth cyngor band D.
Er nad yw’r terfyn hwn yn gymwys yng Nghymru, nododd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai fod Gweinidogion Cymru yn cadw’r pŵer i osod cap ar gynnydd os ystyrir y bydd hynny yn angenrheidiol.
Fel y mae, y cynnydd cyfartalog arfaethedig ar gyfer y pedwar llu yw:
- Dyfed-Powys – 7.47% (£26.95)
- Gwent - 6.95% (£26.22)
- Gogledd Cymru – 7.01% (£26.10)
- De Cymru – 6.99% (£26.47)
Y tu hwnt i newyddion am gyllid, bu rhai datblygiadau arwyddocaol hefyd o ran polisi plismona. Gan ymhelaethu ar ei chyhoeddiad ym mis Tachwedd 2025 y byddai Comisiynwyr yr Heddlu yn cael eu diddymu yn 2028, cynigiodd Llywodraeth y DU ailwampio plismona yng Nghymru a Lloegr. Mae’r Papur Gwyn 'From local to national: a new model for policing’ (Ionawr 2026) yn cynnwys cynigion ar gyfer:
- lleihau nifer yr heddluoedd yng Nghymru a Lloegr yn sylweddol, drwy eu huno i greu heddluoedd rhanbarthol mwy
- sefydlu Gwasanaeth Heddlu Cenedlaethol newydd i arwain ar droseddau difrifol a chyfundrefnol a gwrthderfysgaeth
- uno'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, y Coleg Plismona a Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu a’u rhoi yn y Gwasanaeth Heddlu Cenedlaethol
- sefydlu trefniadau newydd i ddisodli Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
Yn fwy cyffredinol, mae datganoli plismona i Gymru wedi bod ar agenda Llywodraeth Cymru am beth amser. Ym mis Ionawr, fe wnaeth Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip, ymateb i Bapur Gwyn Llywodraeth y DU, drwy ailddatgan ymrwymiad tymor hir Llywodraeth Cymru i ddatganoli plismona. Serch hynny, nid yw Llywodraeth y DU wedi nodi llawer o gefnogaeth i'r newid hwnnw.
Mae ein herthygl ddiweddar ar y cynnydd sy’n cael ei wneud wrth ddatganoli agweddau ar y system gyfiawnder yn sôn am gynnydd wrth ddatganoli pwerau cyfiawnder, sy'n mynd y tu hwnt i blismona.
Erthygl gan Owen Holzinger, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru