Setliad Terfynol Llywodraeth Leol 2019-20

Cyhoeddwyd 21/12/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munud

Cyhoeddwyd Setliad Terfynol Llywodraeth Leol 2019-20 gan Lywodraeth Cymru ar 19 Rhagfyr 2018. Mae hyn yn amlinellu'r cyllid ar gyfer pob un o'r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru. Caiff y setliad ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 15 Ionawr 2019.

Cyfanswm y setliad yw £4.237 biliwn, sef cynnydd o £10.3 miliwn (0.2 y cant) o'i gymharu â'r Setliad Terfynol yn 2018-19. Mae'r Setliad Terfynol yn cynnwys cyllid ychwanegol o £23.6 miliwn o'i gymharu â'r setliad dros dro. Mae hyn yn dilyn dyrannu £13 miliwn yng Nghyllideb Derfynol 2019-20 i lywodraeth leol (ynghyd ag £1.2 miliwn ar gyfer isafswm setliad gwell), £7 miliwn i ategu'r cynnydd i'r terfyn cyfalaf wrth godi tâl am ofal preswyl, a £2.4 miliwn ar gyfer rhyddhad ardrethi busnes dewisol.

Y cynnydd mwyaf o'i gymharu â 2018-19 yw 0.9 y cant yng Nghaerdydd a'r gostyngiad mwyaf yw -0.3 y cant ar gyfer pum awdurdod lleol (Ynys Môn, Conwy, Sir y Fflint, Powys a Sir Fynwy).

Mae'r ddelwedd isod yn amlinellu'r dadansoddiad llawn o'r newidiadau canrannol mewn cyllid yn ôl awdurdod lleol.

Eleni, ni fydd yr un awdurdod yn cael gostyngiad mwy na -0.3 y cant yn dilyn y dyraniadau ychwanegol a wnaed yn y Gyllideb Derfynol. Mae'r pum awdurdod lle mai -0.3 y cant yw'r gostyngiad cyllid wedi cael cyllid atodol gwerth £3.5 miliwn at ei gilydd i sicrhau na fyddant yn wynebu gostyngiad y tu hwnt i'r lefel hon, y dyrennir fel isod:

  • Ynys Môn – £269,000
  • Conwy – £691,000
  • Sir y Fflint – £537,000
  • Powys – £1,214,000
  • Sir Fynwy – £759,000

Y Cyllid Cyfalaf Cyffredinol ar gyfer awdurdodau lleol yn 2019-20 yw £193 miliwn, sy'n cynnwys £20 miliwn ar gyfer grant adnewyddu priffyrdd cyhoeddus.

Mae llythyr y Gweinidog at awdurdodau lleol, Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol 2019-20 a Setliad Refeniw a Chyfalaf Llywodraeth Leol 2019-20: Cymru gyfan – Tablau, ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.


Erthygl gan Helen Jones, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru