Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro 2020-21: pob awdurdod lleol yn gweld cynnydd

Cyhoeddwyd 20/12/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munud

[rt_reading_time label="Amcangyfrif o amser darllen:" postfix="Munud" postfix_singular="Munud"]

20 Rhagfyr 2019

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Cynnydd mewn arian parod yw'r Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro Cyffredinol, sy’n cynnwys prif ffynhonnell cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer awdurdodau lleol, o'i gymharu â 2019-20 o 4.3 y cant. Mae’r cynnydd i’r 22 awdurdod lleol unigol yn amrywio o 3.0 i 5.4 y cant. Mewn termau real, mae’r setliad cyffredinol yn gynnydd o 2.4 y cant.

Dyraniadau cyffredinol ac unigol

Cyfanswm y cyllid refeniw dros dro i awdurdodau lleol yng Nghymru yn 2020-21 yw £4.5bn, sydd £184m yn uwch nag yn 2019-20. Mae’r cyllid hwn yn cynnwys Grant Cynnal Refeniw (RSG) (y cyllid refeniw cyffredinol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru) ac Ardrethi Annomestig (NDR) (a elwir hefyd yn ardrethi busnes). Wedi’u cyfuno, cyfeirir at y cyllid hwn fel Cyllid Allanol Cyfun (AEF).

O'r 22 awdurdod lleol, disgwylir i Gasnewydd gael y cynnydd mwyaf o 5.4 y cant a gallai Sir Fynwy gael y cynnydd lleiaf o 3.0 y cant, Mae’r setliad yn gynnydd mewn termau real i bob awdurdod.

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn egluro nad oes gwaelod i’r cyllid ar gyfer 2020-21, yn wahanol i setliadau diweddar

Gan y bydd pob awdurdod yn gweld cynnydd o 3% o gymharu â 2019-20 ar sail tebyg at ei debyg, rwyf wedi dod i’r casgliad nad oes angen cyllid gwaelodol yn yr achos penodol hwn.

Gallwch ddefnyddio ein hofferyn rhyngweithiol isod i weld y cyllid cyffredinol fesul awdurdod lleol, cyllid y pen fesul awdurdod lleol a’r newid yn y Cyllid Allanol Cyfun fesul awdurdod lleol.  

Cyfanswm y gyllideb
Cyfanswm y gyllideb y pen
Canran y newid mewn Cyllid Allanol Cyfun (AEF) o’i gymharu â ffigurau 2019-20 wedi’u haddasu.

Mae’r setliad hefyd yn manylu ar £198m o gyllid cyfalaf cyffredinol (sy’n cynnwys £20m ar gyfer y grant adnewyddu priffyrdd cyhoeddus).

Pam mae'r Setliad Dros Dro yn hwyrach na'r arfer?

Cyhoeddwyd y Setliad Dros Dro ar 16 Rhagfyr ochr yn ochr â'r Gyllideb Ddrafft, yn hwyrach na'r hyn y byddid wedi’i ddisgwyl fel arfer.

Oedodd Llywodraeth Cymru cyn cyhoeddi'r gyllideb oherwydd Etholiad Cyffredinol y DU a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr (gweler ein ffeithlun am grynodeb o linell amser y Gyllideb Ddrafft). Bu oedi gyda’r gyllideb eisoes oherwydd Cylch Gwario 2019 Llywodraeth y DU (a gyhoeddwyd ar 4 Medi) ac a oedd i gael ei gyhoeddi’n wreiddiol ar 19 Tachwedd (PDF, 267KB).

Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i awdurdodau lleol bennu eu cyllidebau erbyn 11 Mawrth.

Beth nesaf?

Dyma'r Gyllideb Ddrafft a'r Setliad Dros Dro, felly mae lle o hyd i ddyraniadau newid ac mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn nodi yn ei llythyr at awdurdodau lleol (PDF, 265KB):

Er nad wyf yn gallu gwarantu na fydd unrhyw newidiadau rhwng y setliadau dros dro a’r setliadau terfynol oherwydd yr ansicrwydd ariannol a ddaw yn sgil Llywodraeth newydd, gallaf roi sicrwydd ichi nad wyf yn bwriadu gwneud unrhyw newidiadau sylweddol i’r fethodoleg na’r data sy’n sail i ddosbarthu’r setliad hwn.

Y llynedd, fe wnaeth y Setliad Terfynol (PDF, 170KB) gynyddu'r AEF i awdurdodau lleol £23.6m (dros hanner y cant) o'i gymharu â'r Setliad Dros Dro. Yn yr un modd, roedd yr AEF yn Setliad Terfynol 2018-19 (PDF, 198kb) hefyd yn uwch nag a nodwyd yn y Setliad Dros Dro.

Bydd y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd yn gwneud datganiad ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2020-21 ar 7 Ionawr a bydd y Cynulliad yn cynnal dadl ar 4 Chwefror. Gallwch wylio'r ddau yn fyw SeneddTV.

Byddwn yn cyhoeddi rhagor o erthyglau ar y gyllideb, gan gynnwys ar Setliad Terfynol 2020-21 ar ôl iddo gael ei gyhoeddi ar 25 Chwefror (dadl wedi'i threfnu ar gyfer 4 Mawrth).

I ddysgu mwy am y dyraniadau yn y Gyllideb Ddrafft, gweler ein delweddu rhyngweithiol.


Erthygl gan Owen Holzinger, Helen Jones a Joe Wilkes, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru