Sepsis – baich meddygol ac economaidd cynyddol

Cyhoeddwyd 12/09/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munud

12 Medi 2013 [caption id="attachment_275" align="alignright" width="177"]SIGNIN_GLOBE_BACK Llun o World-Sepsis-Day.org. Dan drwydded Creative Commons.[/caption] Mae sepsis wedi cael ei ddisgrifio fel un o’r afiechydon mwyaf cyffredin ond lleiaf cyfarwydd yn y byd datblygedig a’r byd datblygol. Mae’n gyflwr a all beryglu bywydau.  Yr hyn sy’n digwydd yw bod y corff, wrth ymateb i haint, yn niweidio ei feinweoedd a’i organau ei hun. Os na chaiff ei ganfod yn fuan a’i drin mewn da bryd, gall sepsis arwain at fethiant amryw o organau, a marwolaeth.
  • Mae sepsis yn gyfrifol am tua 37,000 o farwolaethau’r flwyddyn yn y Deyrnas Unedig yn unig, a thybir bod tua 1,800 o’r rheini yng Nghymru.  Mae’n achosi mwy o farwolaethau na chanser yr ysgyfaint, a hyd yn oed mwy na chanser y fron a chanser y coluddyn gyda’i gilydd.
  • Mae rhwng 30 a 50 y cant yn marw o achos difrifol o sepsis. Mae’n  hollbwysig bod unrhyw un sy’n dioddef o sepsis yn cael triniaeth ar unwaith, ac yn cael hylifau mewnwythiennol, a gwrthfiotigau.
  • Yn ôl Ymddiriedolaeth Sepsis y Deyrnas Unedig, mae dros 30 y cant o welyau gofal dwys yn ysbytai’r Deyrnas Unedig yn cael eu llenwi gan gleifion â sepsis, ac mae’r cyflwr yn costio dros £2.5 biliwn i’r GIG bob blwyddyn. Yng Nghymru, mae hynny gyfwerth â thua £125 miliwn.
  • Sepsis yw un o’r achosion mwyaf cyffredin o farwolaethau ymhlith mamau yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl rhoi genedigaeth.
  • Yn y byd datblygedig, mae sepsis yn cynyddu rhyw 8 -13 y cant bob blwyddyn. Y prif resymau am hyn yw bod y boblogaeth yn heneiddio, bod mwy o risg yn gysylltiedig â’r triniaethau a roddir i bob grŵp oedran, a bod heintiau ffyrnicach yn datblygu sy’n medru gwrthsefyll gwrthfiotigau.
Mae rhai o’r camau a fabwysiadwyd gan sefydliadau GIG Cymru i fynd i’r afael â sepsis yn cynnwys:
  • y Sgôr Rhybudd Cynnar Cenedlaethol, system syml a ddefnyddir gan staff ysbytai i asesu a yw cleifion yn datblygu afiechydon a allai fod yn angheuol;
  • dulliau o sgrinio am sepsis, sy’n helpu i ganfod sepsis mewn cleifion yn fuan iawn, sy’n golygu bod modd rhoi triniaeth iddyn nhw mewn da bryd, a allai achub bywyd;
  • y bwndel gofal ‘chwe cham’, sy’n cynnwys tri phrawf cyflym am sepsis a thair triniaeth syml;
  • y rhaglen Ymateb Cyflym i Salwch Acíwt (RRAILS - Rapid Response to Acute Illness).
Mae dogfen Llywodraeth Cymru Cynllun Cyflawni ar gyfer y Rhai sy’n Ddifrifol Wael yn dweud y dylai Byrddau Iechyd Lleol sicrhau y caiff pob claf sy’n ddifrifol wael ei sgrinio am sepsis, ac y dilynir y llwybr gofal priodol lle nodir hynny. Dylai RRAILS a’r bwndel gofal ‘chwe cham’ gael eu cyflwyno ym mhob un o safleoedd acíwt y Byrddau Iechyd Lleol. Serch hynny, mae pryder nad yw gweithwyr proffesiynol gofal iechyd, a’r cyhoedd yn gyffredinol, yn ddigon cyfarwydd â sepsis. Gallai hynny olygu bod cleifion â sepsis yn dod i sylw’r gweithwyr iechyd yn hwyr, neu fod methiant i adnabod yr arwyddion cynharaf. Bydd Aelodau’r Cynulliad yn gyfarwydd â’r adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, yn dilyn yr ymchwiliad a wnaeth i gŵyn yn erbyn Bwrdd Iechyd Hywel Dda mewn perthynas â chlaf a fu farw o sepsis am nad oedd meddyg teulu y tu allan i oriau wedi adnabod y symptomau. Mae dydd Gwener 13 Medi 2013 yn Ddiwrnod Sepsis y BydUn o brif nodau’r diwrnod yw ceisio sicrhau bod y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol yn deall mwy am sepsis. Erthygl gan Philippa Watkins.