Ffotograff o huganod yn plymio o dan y dŵr am bysgod

Ffotograff o huganod yn plymio o dan y dŵr am bysgod

Sefydlu corff llywodraethiant amgylcheddol: dadansoddiad cymharol

Cyhoeddwyd 02/05/2025   |   Amser darllen munudau

Disgwylir i Fil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) gael ei gyflwyno yr haf hwn. Rhagwelir y bydd yn cynnwys pwerau i sefydlu corff llywodraethiant amgylcheddol i Gymru – a fyddai’n dwyn Llywodraeth Cymru ac awdurdodau cyhoeddus eraill i gyfrif ar berfformiad amgylcheddol. Mae'r pwerau hyn yn cael eu cynnig i fynd i'r afael â'r ‘bwlch llywodraethiant amgylcheddol’ ar ôl ymadael â'r UE, sef yr hyn y mae rhanddeiliaid yn cyfeirio ato.

Cymru yw’r olaf o wledydd y DU i sefydlu corff llywodraethiant amgylcheddol. Daeth Swyddfa Diogelu’r Amgylchedd (yr Office for Environmental Protection, neu’r OEP, sy’n cwmpasu Lloegr a Gogledd Iwerddon) a Safonau Amgylchedd yr Alban (Environment Standards Scotland, neu ESS) yn gyrff llywodraethiant amgylcheddol statudol yn 2021.

Mae gan Gymru, felly’r fantais o allu dysgu yn sgil sefydlu’r cyrff hyn, wrth sefydlu ei chorff ei hun.

Mae’r papur briffio hwn yn cymharu’r cynigion i Gymru â’r OEP a’r ESS, gan amlygu gwahaniaethau yn eu swyddogaethau ac archwilio eu seiliau cyfreithiol. Mae’n archwilio materion a godwyd yn ystod gwaith craffu deddfwriaethol yn Senedd y DU a Senedd yr Alban ar y Mesurau sy’n sefydlu’r OEP a’r ESS. At hynny, mae’n tynnu ar wersi a ddysgwyd gan fod y cyrff hynny, bellach, wedi bod yn gweithredu ers nifer o flynyddoedd. Mae’n cloi gyda chwestiynau allweddol i’w hystyried ar gyfer sefydlu corff i Gymru.


Erthygl gan Dr Katy Orford, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru