Cynhelir dadl yn y Cyfarfod Llawn fory (dydd Mercher 19 Medi 2018) ar safonau ysgolion. Mae’r Gwasanaeth Ymchwil wedi cyhoeddi’r erthyglau/papurau canlynol yn y gorffennol, a allai fod o ddiddordeb cyn y ddadl.
- Diwrnod canlyniadau TGAU, Awst 2018
- Data cyrhaeddiad Cyfnod Allweddol 4, Chwefror 2018
- Y Cynulliad i drafod Adroddiad Blynyddol 2016/17 Prif Arolygydd Estyn, Mawrth 2018
- Cyllido ysgolion yng Nghymru, Awst 2018
Gellir gweld y cynnig sydd i’w drafod, ynghyd ag unrhyw welliannau a gyflwynir, ar agenda'r Cyfarfod Llawn. Disgwylir i’r ddadl ar safonau ysgolion ddechrau tua 4.25pm dydd Mercher 19 Medi 2018. Gellir ei dilyn ar SeneddTV a bydd trawsgrifiad ar gael wedyn ar y Cofnod o Drafodion y Cynulliad.
Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru