Ddydd Mercher 21 Mehefin, bydd y Cynulliad yn trafod adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru, ac ymateb Llywodraeth Cymru i'w argymhellion.
Gwnaeth y Pwyllgor 19 o argymhellion, y cafodd wyth eu derbyn, 10 eu 'derbyn mewn egwyddor', ac un ei wrthod.
Mae crynodeb o brif argymhellion y Pwyllgor ac ymateb Llywodraeth Cymru isod:
Argymhelliad 1: Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i amserlen ar gyfer adolygu'r Cynllun Gweithredu Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches cyfredol, a chynnwys ynddo safonau ar gyfer darparu gwasanaethau.
Derbyniwyd yr argymhelliad hwn, a dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd y cynllun newydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2018, yn dilyn ymgynghoriad eleni. Ni wnaeth ymrwymo i gynnwys safonau ar gyfer darparu gwasanaeth.
Argymhelliad 3: Dylai Llywodraeth Cymru gynnal asesiad uniongyrchol o effaith Deddf Mewnfudo'r DU 2016 ar Gymru, gan gynnwys y 'gwiriadau Hawl i Rentu', a'r effaith ar geiswyr lloches aflwyddiannus.
Derbyniodd y Llywodraeth yr argymhelliad hwn, gan ddweud bod yr asesiad wedi dechrau, ond ni wnaeth ymrwymo i amserlen ar gyfer ei gwblhau.
Argymhelliad 4: Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda phartneriaid i adolygu'r Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Cydlyniant Cymunedol 2016-17. Dylai gynnwys strategaeth gyfathrebu ac ymrwymo i gynnal ymgyrch gyhoeddusrwydd ledled Cymru, yn debyg i'r Alban.
Derbyniwyd yr argymhelliad hwn; nododd Llywodraeth Cymru fod y Cynllun yn cael ei ddiweddaru ar hyn o bryd, a bydd yn cael ei gyhoeddi yn ystod yr haf. Nododd hefyd y bydd y Cynllun yn cynnwys camau gweithredu penodol sy'n ymwneud â ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Nid yw'r ymateb yn ymrwymo yn benodol i ymgyrch gyhoeddusrwydd ledled Cymru.
Argymhelliad 5: Dylai Llywodraeth Cymru ehangu rôl y cydgysylltwyr cydlyniant cymunedol y tu hwnt i Raglen Adsefydlu Unigolion Diamddiffyn Syria (SVPRP) i'r holl ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
Derbyniodd y Llywodraeth hyn, gan ddweud bod y cydgysylltwyr cydlyniant cymunedol eisoes yn cefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches mewn nifer o ffyrdd heb fod yn gyfyngedig i'r SVPRP. Mae'n nodi y bydd y Cynllun Cydlyniant Cymunedol newydd yn ffurfioli'r rôl hon, er mai “rôl y Cydgysylltwyr yw helpu i integreiddio pobl yn gynaliadwy o fewn yr awdurdod lleol yn hytrach na gweithio’n barhaol i helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches mewn ffordd weithredol”, gan awgrymu nad yw rôl y Cydgysylltwyr wrth gefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn un barhaol.
Argymhelliad 6: Dylai Llywodraeth Cymru ystyried ymestyn cynlluniau trafnidiaeth rhatach i ffoaduriaid a cheiswyr lloches, gan gynnwys plant, er mwyn eu galluogi i gael mwy o fynediad i addysg, cyflogaeth a chyfleoedd gwirfoddoli.
Cafodd hyn ei wrthod. Mae'r ymateb yn datgan “ni fyddai Llywodraeth Cymru yn gallu gorfodi teithio rhatach ar gyfer ceiswyr lloches heb newid deddfwriaethol”.Nid yw'n nodi beth fyddai'r newid deddfwriaethol hwnnw, neu a yw wedi cael ei archwilio.
Argymhelliad 7: Dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi dadansoddiad manwl o'r ddarpariaeth bresennol o gyrsiau ESOL a'i asesiad o'r galw yn y dyfodol. Yna dylai weithio gydag awdurdodau lleol i gydlynu sgiliau a gallu o fewn colegau Addysg Bellach a sefydliadau Addysg Uwch fel rhan o gynllun gweithredu newydd i'w gyhoeddi cyn dechrau blwyddyn academaidd 2017/18.
Cafodd yr argymhelliad hwn ei dderbyn mewn egwyddor. Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn datgan "mae’n rhy hwyr yn y broses o gynllunio darpariaeth 2017/18 i allu gwneud y newidiadau y gofynnwyd amdanynt cyn dechrau’r flwyddyn academaidd”. Mae'n ymrwymo i ddiweddaru'r polisi ESOL ar gyfer Cymru erbyn mis Mawrth 2018 a nododd fod y Bartneriaeth Ymfudo Strategol Cymru ar hyn o bryd yn mapio'r ddarpariaeth.
Argymhelliad 9: Dylai Llywodraeth Cymru gynnal trafodaethau brys gyda'r Swyddfa Gartref i ddiwygio'r system llety lloches cyn y broses adnewyddu contract yn 2019.
Argymhelliad 10: Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod landlordiaid ceiswyr lloches yn rhan o gynllun cofrestru, naill ai fel estyniad neu gyflenwad i Rentu Doeth Cymru.
Derbyniwyd y ddau argymhelliad. Mae'r ymateb yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU ym mis Rhagfyr 2016 yn gofyn am amryw o newidiadau i'r system, gan gynnwys bod ansawdd y llety lloches yn cael ei graffu gan Lywodraeth Cymru neu awdurdodau lleol yn rheolaidd. Gofynnodd hefyd y dylai'r contract newydd "fod ar sail dielw, drwy gymdeithasau tai, sefydliadau’r trydydd sector neu awdurdodau lleol" ac yn cynnwys proses gwyno annibynnol.
Nid yw'n nodi sut neu pryd y bydd y cynllun cofrestru ar gyfer landlordiaid ceiswyr lloches ar waith.
Argymhelliad 11: Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau, drwy'r Gwasanaeth Cynhwysiant Ffoaduriaid, Ceiswyr Lloches a Mudwyr newydd, fod darpariaeth ddigonol o gyngor cyfreithiol; gwybodaeth reolaidd i atgoffa am bwysigrwydd sgrinio iechyd yn ogystal â chymorth i bobl fynd i gael eu sgrinio; a chymorth iechyd meddwl, sy'n cael ei oruchwylio gan grŵp o weithwyr iechyd meddwl proffesiynol ‘Freedom From Torture’.
Argymhelliad 18: Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau safonau gofynnol cymorth iechyd meddwl i blant ar eu pen eu hunain sy'n ceisio lloches gyda thrawma, yn unol ag argymhellion Cymdeithas Seicolegol Prydain.
Cafodd y ddau argymhelliad hyn eu derbyn mewn egwyddor. Mae'r ymateb yn dweud bod Rhaglen Hawliau Lloches Llywodraeth Cymru wedi cael ei hariannu i ddarparu cyngor a chymorth eiriolaeth i ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Bydd y rhaglen yn rhoi i weithwyr achos wybodaeth arbenigol am gymorth lloches, tai, iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, addysg, cyflogaeth, bwlio, troseddau casineb, gwahaniaethu ac amddifadrwydd.
Bydd Tros Gynnal Plant yn darparu cymorth eiriolaeth i Blant ar eu Pen eu Hunain sy'n Ceisio Lloches â'r broses asesu oedran ac yn eu cynorthwyo i gael mynediad at gymorth priodol. Bydd Cyfiawnder Lloches yn cael ei ariannu i ddarparu cyngor cyfreithiol a chynrychiolaeth, a bydd Dinas Noddfa ac Alltudion ar Waith yn cynnal fforwm eiriolaeth.
Argymhelliad 12: Dylai Llywodraeth Cymru gynnwys camau penodol i helpu ceiswyr lloches a cheiswyr lloches aflwyddiannus i osgoi amddifadedd yn ei Chynllun Cyflawni ar gyfer Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches diwygiedig, gan gynnwys creu cronfa grantiau bach i geiswyr lloches a phobl nad oes ganddynt unrhyw hawl i gael arian cyhoeddus, drwy'r Gronfa Cymorth Dewisol.
Derbyniwyd yr argymhelliad hwn mewn egwyddor, ond mae'r ymateb yn nodi "nid yw ceiswyr lloches a’r rheini sydd heb y gallu i gael gafael ar gyllid cyhoeddus yn gymwys i wneud cais" ar gyfer y Gronfa Cymorth Dewisol gan ei fod yn dibynnu ar wirio drwy rifau Yswiriant Gwladol drwy'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) . Mae'n cydnabod "y bydd rhai pobl sydd newydd gael statws ffoaduriaid yn wynebu oedi cyn cael rhifau Yswiriant Gwladol gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, ac mae’n hynny’n ei gwneud yn fwy tebygol y byddant yn profi amddifadedd". Mae'n ymrwymo i weithio gyda'r partner darparu'r Gronfa Cymorth Dewisol (Northgate) i archwilio hyblygrwydd.
Mae'r ymateb hefyd yn sôn: "Yn sgil profiadau rhannau eraill o’r DU, byddwn yn ystyried a fyddai cronfa grantiau fechan i geiswyr lloches a’r rheini sydd heb y gallu i gael gafael ar gyllid cyhoeddus yn ddichonadwy neu’n ddymunol", ond nid yw'n darparu amserlen ar gyfer hyn.
Argymhelliad 15: Mae'r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru wneud mwy i helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches i gael mynediad at addysg a chyflogaeth drwy hyrwyddo Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru mor eang ag y bo modd, i ffoaduriaid a cheiswyr lloches a darparwyr gwasanaethau, a'i wneud yn ofynnol i brifysgolion Cymru drin ffoaduriaid fel myfyrwyr cartref.
Derbyniwyd yr argymhelliad hwn mewn egwyddor; mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig, fel rhan o Gynllun Cyfathrebu FfCChC, negeseuon hyrwyddol allweddol ychwanegol wedi'u targedu at ffoaduriaid a cheiswyr lloches a darparwyr gwasanaethau.
Mae hefyd yn nodi bod "ffoaduriaid sy’n bodloni’r gofynion preswylio ac yn byw fel rheol yng Nghymru yn gymwys i gael cyllid cymorth i fyfyrwyr gan Gyllid Myfyrwyr Cymru.”
Argymhelliad 16: Dylai Llywodraeth Cymru sefydlu gwasanaeth Gwarcheidiaeth i Gymru, gyda chymorth rhwydweithiau cyfoedion, fel rhan o'r broses o ailddatgan ymrwymiad Cymru i groesawu plant sy'n ceisio lloches sydd ar eu pen eu hunain.
Cafodd hyn ei dderbyn mewn egwyddor, gyda Llywodraeth Cymru yn datgan bod "gwaith yn mynd rhagddo i weld sut y gellid datblygu gwasanaeth o’r fath yng Nghymru, gan gydnabod ar yr un pryd bod dyletswyddau cyfreithiol yn bodoli i roi gwasanaeth eiriolaeth i’r plant hyn eisoes”. Nid oes amserlen ar gyfer y gwaith hwn, neu arwydd o ba rôl y gallai rhwydweithiau cyfoedion ei chwarae.
Argymhelliad 19: Mae'r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru gymryd Saith Cam i Noddfa Cynghrair Ffoaduriaid Cymru i wneud Cymru yn Genedl Noddfa.
Derbyniodd y Llywodraeth hyn mewn egwyddor, gan nodi “efallai y bydd rhai o elfennau’r ‘Saith Cam i Noddfa’, fel y manylir y rheini ym maniffesto’r Gynghrair, yn anodd i’w cyflawni gan fod polisi lloches yn fater sydd wedi'i gadw'n ôl. Er enghraifft, heb reolaeth dros bolisi mewnfudo na phenderfyniadau am loches, ni fyddai'n bosibl ymrwymo i 'roi diwedd ar amddifadedd yng Nghymru.'” Fodd bynnag, mae'r ymateb yn nodi bod "cyfle i wneud cynnydd sylweddol gyda phob un o’r saith cam a’r materion y maent yn tynnu sylw atynt.”
Mae rhagor o wybodaeth am sut y cynhaliodd y Pwyllgor ei ymchwiliad a llunio ei argymhellion ar gael yn yr adroddiad hwn.
Erthygl gan Hannah Johnson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: 'Roeddwn i'n arfer bod yn rhywun' - y Cynulliad i drafod adroddiad pwyllgor ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru (PDF, 217KB)