Yn gyffredinol, mae twf y sector bwyd a diod yng Nghymru yn cael ei ystyried yn stori o lwyddiant, rhagorwyd ar y targed blaenorol o werth gwerthiant £7 biliwn cyn 2020 yn gynt na’r disgwyl.
Fodd bynnag, yn ystod cyfnod o newid hinsawdd, ffactorau geo-wleidyddol, ansicrwydd bwyd cynyddol a phryderon ynghylch niferoedd da byw yn gostwng a'r gallu i ychwanegu gwerth at gynhyrchion bwyd yma yng Nghymru, cynhaliodd un o bwyllgorau’r Senedd ymchwiliad i brosesu bwyd yn 2025.
Mae'r erthygl hon yn nodi'r prif faterion cyn y ddadl yn y Senedd ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar 11 Mawrth.

Ffynhonnell:Llywodraeth Cymru: Gwerthusiad Economaidd - Sector Bwyd a Diod Cymru (2024)
Llywodraeth Cymru unwaith eto yn gwrthod galwadau am strategaeth fwyd gyffredinol
Mae Gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod (2021) yn canolbwyntio yn bennaf ar y 'Sector Bwyd a Diod Cymru', sy'n cynnwys busnesau sy'n cynhyrchu, prosesu, gweithgynhyrchu a chyfanwerthu nwyddau bwyd a diod.
Cafwyd galwadau am strategaeth gyffredinol ar gyfer y system fwyd gyfan oherwydd diffyg aliniad polisi, gan gynnwys gan Peter Fox AS yn ei Fil Bwyd (Cymru) (2022), gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ei hun (2023) wrth iddo ystyried y Bil, a chan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol (2023).
Gwnaeth y Llywodraeth wrthod y galwadau hyn gan ddweud bod ganddi ddull strategol eisoes.
Methodd y Bil Bwyd, ond fe gyhoeddodd y Llywodraeth Bwyd o Bwys: Cymru (2024), sy’n crynhoi polisïau bwyd ar draws portffolios. Ar ben hynny, fe gyhoeddodd Strategaeth Bwyd Cymunedol (2025), gan gyflawni un o’r ymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu.
Clywodd y Pwyllgor safbwyntiau cymysg ar effeithiolrwydd y Weledigaeth. Cyfeiriodd rhanddeiliaid, er y twf economaidd sydd wedi digwydd, at ddiffygion cymdeithasol ac amgylcheddol.
Roedd y Comisiwn Bwyd, Ffermio a Chefn Gwlad yn bryderus am y gwahaniaeth rhwng y polisïau cyn gât y fferm ac ar ôl gât y fferm, gan ddweud bod yr olaf o’r rhain yn seiliedig ar dwf tra bod canfyddiad nad cynhyrchu bwyd cynradd yw prif amcan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Galwodd rhanddeiliaid am strategaeth gyffredinol a gwnaeth y Pwyllgor yr argymhelliad hwn eto. Gwrthododd y Llywodraeth yr argymhelliad, gan ddweud bod ganddi ddull cydgysylltiedig, system gyfan ar draws polisïau, ac y byddai strategaeth newydd yn dyblygu gwaith ac yn tynnu sylw oddi wrth y blaenoriaethau presennol.
Syniadau i wella cymorth i fusnesau
Gwrthododd Llywodraeth Cymru’r argymhelliad yn ymwneud â chymorth busnes hefyd.
Roedd rhanddeiliaid yn gyffredinol yn canmol cymorth y Llywodraeth ar gyfer busnesau bwyd a diod, ond tynnwyd sylw at faterion penodol.
Roedd pryder ynghylch 'canol coll', sef busnesau canolig eu maint yng Nghymru. Dywedodd Dr Robert Bowen o Ysgol Fusnes Caerdydd fod angen newid diwylliannol, a chefnogaeth ar gyfer seilwaith prosesu lleol, megis lladd-dai, er mwyn annog microfusnesau a busnesau bach i dyfu.
Tynnodd Puffin Produce sylw at fanteision nodi busnesau sydd â photensial ar gyfer twf yn gynnar a chyfeiriodd at lwyddiant dull dewis enillwyr yn Iwerddon, gan ddweud bod cefnogi rhai cwmnïau llaeth cydweithredol a busnesau cig wedi eu troi’n chwaraewyr byd-eang.
Mae'r Llywodraeth wedi rhoi amddiffyniad cadarn o’i chymorth i'r sector, gan ddadlau ei bod yn darparu pecyn strategol, system gyfan o gymorth sy'n cryfhau gallu a gwydnwch o ran prosesu bwyd domestig. Mae ymateb y Llywodraeth yn cynnwys dadansoddiad o’i chynlluniau cymorth.
Mae hyfywedd proseswyr cig yn dibynnu ar drwybwn da byw
Gwnaeth Llywodraeth Cymru dderbyn safbwyntiau'r Pwyllgor ar gefnogi lladd-dai a chynhyrchu cig coch carbon isel.
Yn ystod yr ymchwiliad hwn, a'r ymchwiliad blaenorol i Hybu Cig Cymru, clywodd y Pwyllgor am y ffaith bod gostyngiad yn nifer y da byw yn arwain at ostyngiad yn y trwybwn i broseswyr a allai roi lladd-dai Cymru ar y dibyn o ran mynd yn anhyfyw.
Cyhoeddodd Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU gyngor i Lywodraeth Cymru ar Bedwaredd Gyllideb Garbon Cymru ym mis Mai 2025. Mae’r llwybr (o 2025 i Sero Net erbyn 2050) yn cymryd y bydd niferoedd gwartheg a defaid yn gostwng 19% erbyn 2033 o gymharu â 2022.
Dywedodd y Llywodraeth fod niferoedd y da byw yn 2024 eisoes yn agos i’r lefel a awgrymwyd gan yr UKCCC ar gyfer 2030.
Mae’r ystadegau diweddaraf ar dda byw (Mehefin 2025) yn dangos:
- 8.8 miliwn o ddefaid ac ŵyn, ychydig yn uwch na'r 8.7 miliwn yn 2024.
- 1.08 miliwn o wartheg a lloi, mân ostyngiad o 1.09 miliwn y flwyddyn cynt. Gostyngodd y fuches gig eidion 5%, ond fe gododd y fuches laeth 1.1%.
Mae’r Llywodraeth yn cydnabod bod “cyflenwad sefydlog a digonol o dda byw yn hanfodol i hyfywedd y sectorau prosesu cig coch a llaeth”, a bod:
Mae gwella effeithlonrwydd ffermydd a chroesawu arloesedd gwyddonol - gan fynd ati'r un pryd i sefydlogi niferoedd a chynnal y gallu i gynhyrchu bwyd cynaliadwy o ansawdd uchel gydag anifeiliaid iachach a mwy cynhyrchiol - yn un o amcanion allweddol Llywodraeth Cymru, a'r prif ysgogiad yw'r Cynllun FfermioCynaliadwy.
Mae modelu achos busnes yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (Medi 2025) yn amcangyfrif gostyngiad hyd at 7.6% mewn Unedau Da Byw Pori ar ffermydd sy'n cymryd rhan yn Haen Gyffredinol y Cynllun. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion gwledig wedi pwysleisio bod yr achos busnes yn cyfleu senarios, nid rhagfynegiadau ac nad oedd yn ystyried haenau Opsiynol a Chydweithredol yn y Cynllun, sydd heb gael eu cyhoeddi eto.
Mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi dweud yn flaenorol fod y Llywodraeth yn cefnogi lladd-dai drwy'r Cynllun Sbarduno Busnesau Bwyd.
Gofynnodd y Pwyllgor i’r Llywodraeth ystyried cyflwyno cynllun ‘y pen’, i gefnogi dwysedd stoc, yn debyg i Gynllun Cymorth Gwartheg Sugno’r Alban. Nid yw ymateb y Llywodraeth yn cyfeirio'n benodol at gymorth ‘y pen’.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd NFU Cymru adroddiad yn gofyn am gymorth ar gyfer maes cynhyrchu eidion sugno Cymru (Chwefror 2026).
Potensial i dyfu'r sector garddwriaeth
Nod y Strategaeth Bwyd Cymunedol yw cynyddu cynhyrchiant bwyd lleol, drwy gefnogi tyfu cymunedol a garddwriaeth ar raddfa fach.
Cytunodd Llywodraeth Cymru â chynyddu cynhyrchiant garddwriaeth gynaliadwy, ond anghytunodd y ddylai fabwysiadu targed Cynghrair Polisi Bwyd Cymru, sef y dylai 75% o'r llysiau sy’n cael eu bwyta yng Nghymru gael eu cynhyrchu yma, a hynny mewn ffordd gynaliadwy.
Mae'r Llywodraeth yn dadlau efallai na fydd y targed yn gyraeddadwy oherwydd tymhoroldeb tyfu llysiau yng Nghymru.
Clywodd y Pwyllgor fod garddwriaeth yn cynnig cyfle ar gyfer twf ond bod y rhwystrau'n cynnwys cymhlethdod y system gynllunio, seilwaith prosesu cyfyngedig, a heriau mynediad i'r farchnad.
Dywedodd Dr Siobhan Maderson o Brifysgol Aberystwyth fod angen cefnogaeth i ehangu garddwriaeth ac i gynhyrchwyr fanteisio ar gyfleoedd caffael cyhoeddus gan fod angen sgiliau gwahanol i lywio systemau caffael.
Dywedodd Social Farms and Gardens fod angen buddsoddi mewn offer prosesu a storio cynradd lleol (e.e. golchi, torri, storio oer, pecynnu), ac y byddai lefelau cymharol isel o fuddsoddiad mewn offer a seilwaith a rennir yn arallgyfeirio cynhyrchu cynradd, prosesu a dosbarthu, ac yn cryfhau cadwyni cyflenwi byr.
Dywedodd y Llywodraeth ei bod yn cefnogi garddwriaeth drwy grantiau fel Dechrau Busnes Garddwriaeth a Chynllun Arallgyfeirio Amaethyddol a Garddwriaeth, gan ddarparu cyngor drwy Cyswllt Ffermio, yn ogystal â gweithio i wella canllawiau cynllunio.

Awydd am fwy o fwyd môr Cymru
Er na chlywodd y Pwyllgor lawer o dystiolaeth am fwyd môr, roedd yn ymwybodol o’r ffaith mai ychydig iawn o'r bwyd môr o ansawdd uchel sy’n dod o’n dyfroedd sy’n cael ei fwyta yng Nghymru. Yn wir, disgrifiodd David Melding, cyn-Aelod o’r Senedd, Fôr Iwerddon fel fersiwn Ewrop o Fae Chesapeake oherwydd ei bysgod cregyn.
Cydnabu’r Pwyllgor y byddai angen newid cymdeithasol hirdymor i gynyddu lefelau bwyta bwyd môr, ond dywedodd fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru chwarae rhan allweddol yn y broses o wneud i hyn ddigwydd.
Nododd y Llywodraeth ei Chynllun y Môr a Physgodfeydd ac mae’n dweud ei bod wedi comisiynu astudiaeth gymdeithasol-economaidd o bysgodfeydd Cymru yn i lywio polisi a chymorth yn y dyfodol.
Gydag etholiad ym mis Mai, mater i’r Llywodraeth nesaf gnoi cil arno fydd canlyniad y ddadl.
Gallwch wylio'r ddadl yn fyw ar 11 Mawrth ar Senedd.tv.
Erthygl gan Elfyn Henderson, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru