Mae Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru, dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Burns, wedi cyhoeddi ei adroddiad gyda’i argymhellion terfynol. Sefydlwyd y Comisiwn mewn ymateb i benderfyniad y Prif Weinidog i beidio â bwrw ymlaen â ffordd liniaru’r M4, gyda’r dasg o wneud argymhellion ar “gyfres o atebion amgen” i'r tagfeydd sy’n digwydd ar goridor yr M4 yng nghyffiniau Casnewydd.
Dywed Llywodraeth Cymru y bydd yn cyhoeddi ymateb manwl i’r cynigion, a disgwylir i Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, i wneud datganiad yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Rhagfyr.
Mae'r erthygl hon yn trafod argymhellion y Comisiwn ac yn eu hystyried yng ngoleuni gwaith a pholisïau trafnidiaeth ehangach Llywodraeth Cymru.
Sut y daethom i’r fan hon?
Er gwaethaf casgliad yr arolygydd annibynnol fod “achos cymhellol” dros gynllun ffordd liniaru’r M4, ym mis Mehefin 2019 fe gyhoeddodd y Prif Weinidog na fyddai'r cynlluniau'n mynd rhagddynt. Cyfeiriodd at gostau ac effeithiau amgylcheddol fel y prif ffactorau yn ei benderfyniad.
Bryd hynny, fe gyhoeddwyd hefyd y byddai Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru yn cael ei sefydlu i adolygu'r dystiolaeth a gwneud argymhellion ar atebion amgen i broblemau’r tagfeydd.
Ym mis Rhagfyr 2019 cyhoeddodd y Comisiwn 'adroddiad ar gynnydd' yn argymell nifer o fesurau 'cyflym'. Roedd hyn yn canolbwyntio ar fesurau ar gyfer ffyrdd: systemau rheoli cyflymder cyfartalog; canllawiau ychwanegol ar y lonydd; a gwella’r cymorth gan swyddogion traffig.
Ym mis Gorffennaf 2020, yn ei adroddiad ar gasgliadau sy'n dod i'r amlwg, nododd y Comisiwn y canfyddiadau allweddol o'i waith, a'i farn:
… bod angen rhwydwaith integredig o opsiynau eraill ar gyfer trafnidiaeth yn y rhanbarth sydd ddim yn dibynnu ar y draffordd … yn enwedig gorsafoedd rheilffordd newydd, gwasanaethau bws dibynadwy a llwybrau beicio newydd.
Cyhoeddodd y Comisiwn ei adroddiad ar argymhellion terfynol ar 26 Tachwedd.
Beth yw argymhellion y Comisiwn?
Mae'r Comisiwn yn argymell y dylid cyflwyno “rhwydwaith o ddewisiadau amgen” sy'n canolbwyntio ar drafnidiaeth gyhoeddus, a hynny drwy bum pecyn: seilwaith, polisïau rhwydwaith, newid ymddygiad, llywodraethu, a defnydd tir a chynllunio.
Ar yr un diwrnod ag y cyhoeddwyd yr adroddiad, rhoes Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru groeso i’r ffaith bod ffocws yr adroddiad ar ddatblygu'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus. gan dynnu sylw at y Strategaeth Drafnidiaeth Cymru yr ymgynghorir â hi ar hyn o bryd a'r “aliniad agos” rhwng y ddwy ddogfen.
Seilwaith
Y pecyn mwyaf uchel ei broffil yn argymhellion yr adroddiad o bosibl yw lle mae’r Comisiwn yn cynnig:
- ad-drefnu prif linell de Cymru i gynyddu capasiti a hyblygrwydd y rheilffyrdd rhwng Caerdydd ac afon Hafren;
- rhaglen adeiladu gorsafoedd trenau newydd i ddarparu gwasanaethau cymudo lleol ar y brif linell;
- coridorau bysiau cyflym newydd ledled Caerdydd a Chasnewydd, gan gysylltu â’r rheilffordd asgwrn cefn;
- coridorau beicio newydd ar gyfer cymudo, yn cysylltu â’r rheilffordd asgwrn cefn a choridorau bysiau cyflym; ac
- ailgynllunio’r gyfnewidfa drafnidiaeth yng nghanol Casnewydd yn sylfaenol.
Mae'r Comisiwn yn cydnabod nad yw rhai o'r cynigion o fewn cymhwysedd datganoledig Llywodraeth Cymru. Er ei fod yn allweddol i'r datrysiad a gynigir, mae seilwaith y rheilffyrdd yn fater a gedwir yn ôl, ac eithrio'r llinellau craidd y Cymoedd, a gafodd eu trosglwyddo i berchnogaeth Llywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2020.
Mae Llywodraeth Cymru wedi galw ers tro am i seilwaith y rheilffyrdd gael ei ddatganoli. Ym mis Medi 2019 ymatebodd i adolygiad rheilffyrdd cynhwysfawr Llywodraeth y DU - Adolygiad Williams - trwy gyhoeddi 'Rheilffyrdd i Gymru: yr achos dros ddatganoli'. Yn fwy diweddar, mae hefyd wedi galw ar i Lywodraeth y DU, yn 'Adolygiad o Gysylltedd yr Undeb', ystyried datganoli pwerau seilwaith y rheilffyrdd.
Mae'r Comisiwn yn cydnabod bod ei gynigion yn uchelgeisiol, a gellid dweud nad oes yr un ohonynt yn fwy na'r cynnig ynghylch datblygu chwe gorsaf reilffordd newydd yn Heol Casnewydd, Parcffordd Caerdydd, Gorllewin Casnewydd, Dwyrain Casnewydd, Llanwern a Magwyr. Fodd bynnag, mae nifer o'r cynigion hyn eisoes ar y gweill neu wedi cael cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, yn enwedig y rhai sy'n ymwneud â gorsafoedd newydd ar gyfer Parcffordd Caerdydd a Llanwern.
Ffynhonnell: Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru
Polisïau rhwydwaith
Mae'r pecyn hwn o argymhellion yn canolbwyntio ar:
- tocynnau integredig, digyswllt ar draws holl rwydwaith y rheilffyrdd a’r busiau;
- cyd-drefnu amserlenni;
- system docynnau ar sail parthau ar draws y ddinas; ac
- un brand ar gyfer gwasanaethau trafnidiaeth ar y rhwydwaith.
Wrth gwrs, mae gan Lywodraeth Cymru eisoes uchelgeisiau ar gyfer cyflawni sawl un o'r mesurau hyn drwy Drafnidiaeth i Gymru a'i chynlluniau Metro. Gellid hefyd ddweud bod pandemig y coronafeirws wedi creu amgylchedd sy’n golygu bod yr argymhellion hyn yn fwy tebygol o fod yn gyraeddadwy.
Yn sgil hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei bwriad i ddod â gweithrediadau rheilffordd dan reolaeth gyhoeddus uniongyrchol o fis Chwefror nesaf.
Bu angen cefnogaeth hefyd ar wasanaethau bysiau, ac ym mis Gorffennaf fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd Cynllun Brys ar gyfer Bysiau (BES). Ym mis Hydref, disgrifiodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, y BES fel yr “ymyriad mwyaf radical yn y rhwydwaith bysiau ers y dadreoleiddio dros 30 mlynedd yn ôl”.
Daeth mwy o fanylion am y BES i'r amlwg yn ystod y sesiwn graffu a gynhaliwyd gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau (ESS) ym mis Tachwedd. Clywodd y Pwyllgor y bydd y BES yn creu rhwymedigaethau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer darparu gwasanaethau bysiau ledled Cymru a fydd yn caniatáu’r canlynol:
… public authorities—so, Welsh Government, Transport for Wales and the local authorities—… to exert more influence over future routes and services than we're able to at the moment.
Gellir rhoi rhwymedigaethau gwasanaethau cyhoeddus ar waith am hyd at ddwy flynedd, ac yn sesiwn y Pwyllgor, fe ddisgrifiwyd integreiddio amserlenni bysiau a threnau fel a ganlyn: “exactly what [the Welsh Government wants to use its] power through funding for the BES to do”.
Newid ymddygiad
Mae'r pecyn hwn o argymhellion yn canolbwyntio ar:
- gynllunio teithio i’r gweithle;
- canolfannau gweithio o bell mewn trefi a dinasoedd; ac
- ystyried Ardoll Parcio yn y Gweithle newydd.
Yn y bôn, byddai Ardoll Parcio yn y Gweithle yn codi tâl ar gyflogwyr am nifer y lleoedd parcio maen nhw’n eu darparu i'w gweithwyr, ond mae’r Comisiwn yn awgrymu bod hwn yn brosiect tymor hwy sydd i'w ystyried “pan fydd opsiynau trafnidiaeth newydd yn bodoli”.
Dyry’r adroddiad enghraifft yr Ardoll Parcio yn y Gweithle a gyflwynwyd yn Nottingham yn 2012.
Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ei huchelgais i weld 30 y cant o weithlu Cymru yn gweithio gartref neu yn agos at eu cartrefi, ac mae eisoes yn ystyried opsiynau ar gyfer “rhwydwaith o ganolfannau gweithio o bell o fewn cymunedau”.
Llywodraethu trafnidiaeth
Mae’r Comisiwn yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru fabwysiadu “un dull ‘meddwl arweiniol’ o lywodraethu trafnidiaeth”, ac y dylid ffurfioli partneriaeth “Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru ac Awdurdodau Lleol”.
Ym mis Hydref, lansiodd Llywodraeth Cymru ei hymgynghoriad ar Gyd-bwyllgorau Corfforaethol , sydd i'w sefydlu o dan y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru). Mae'r ymgynghoriad yn nodi swyddogaethau y bydd y cyd-bwyllgrau’n eu harfer ac mae’n cynnwys datblygu Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol.
Mae’r Comisiwn hefyd yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru “[ddeddfu] ar gyfer ystod ehangach o bwerau rheoleiddio bysiau cyn gynted â phosibl yn nhymor nesaf y Senedd”.
Mae'r pandemig wedi golygu tynnu yn ôl y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) arfaethedig ym mis Gorffennaf—byddai’r Bil wedi gwneud darpariaethau i Lywodraeth Cymru wneud nifer o newidiadau i'r ffordd y mae gwasanaethau bysiau yng Nghymru yn cael eu gweithredu. Ym mis Tachwedd, dywedodd Llywodraeth Cymru wrth Bwyllgor ESS ei bod yn dal i weithio ar Fil y gellid ei gyflwyno yn y Senedd nesaf, pe bai'r llywodraeth nesaf am ddeddfu.
Defnydd tir a chynllunio
Mae'r pecyn olaf o argymhellion yn yr adroddiad yn canolbwyntio ar gynllunio datblygiadau newydd o amgylch y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus a defnyddio’r Cynllun Datblygu Strategol ar gyfer de-ddwyrain Cymru yn y dyfodol “i greu uwchgynllun ar gyfer y rhanbarth”.
Yn ddiweddar, mae’r Senedd wedi craffu ar Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Llywodraeth Cymru - disgwylir iddo gael ei gyhoeddi ym mis Chwefror 2021 - sef strategaeth ofodol genedlaethol 20 mlynedd newydd a dogfen sydd â statws cynllun datblygu.
Beth am y gost?
Ni phennwyd cyllideb ffurfiol ar gyfer y Comisiwn, ac mae’r Prif Weinidog wedi dweud o'r blaen y byddai ganddo’r ‘cynnig cyntaf’ ar yr £1 biliwn yr oedd Llywodraeth Cymru yn barod i'w gwario ar y ffordd liniaru. Tynnodd beirniaid sylw at y ffaith bod costau'r cynllun ffordd liniaru wedi cael eu nodi fel ffactor o bwys o ran peidio â mynd rhagddo.
Mae'r Comisiwn yn amcangyfrif bod cost cyfalaf craidd ei argymhellion “rhwng £600 miliwn ac £800 miliwn dros 10 mlynedd”, sy'n sylweddol is na'r £1.3 biliwn a amcangyfrifwyd ar gyfer cost y cynllun ffordd liniaru. Ond, fel y gwelsom gyda phrosiect yr M4 ei hun, mae costau'n tueddu i gynyddu wrth i gynlluniau gael eu datblygu.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Ar 8 Rhagfyr disgwyli’r i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wneud datganiad yn y Cyfarfod Llawn mewn ymateb i'r adroddiad. Mae'r Pwyllgor ESS hefyd wedi gwahodd yr Arglwydd Burns i ddod i'w gyfarfod ar 13 Ionawr.
Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn debygol o fod yn gadarnhaol. Ar 22 Hydref dywedodd y Gweinidog wrth y Cyfarfod Llawn ei fod wedi gofyn i Drafnidiaeth Cymru “ddechrau datblygu strategaeth ar gyfer uned gyflawni … i sicrhau y gallwn ni gyflawni argymhellion” Adolygiad Burns.
Er gwaethaf yr adroddiad, mae'n anodd gweld y bydd y cwestiwn ynghylch a ddylid adeiladu'r ffordd liniaru yn darfod.
Yn gynharach eleni, awgrymodd Prif Weinidog y DU y gallai Llywodraeth y DU adeiladu'r ffordd liniaru, ond gwrthodwyd yr honiad hwn yn gryf gan Lywodraeth Cymru gan fod seilwaith ffyrdd yn fater datganoledig. Fodd bynnag, mae Bil Marchnad Fewnol dadleuol Llywodraeth y DU yn rhoi pwerau cyllido newydd i Weinidogion y DU wario arian mewn meysydd polisi datganoledig megis seilwaith a datblygu economaidd.
Mae’n ymddangos nad pwerau cyllido yn unig a fyddai’n galluogi Llywodraeth y DU i adeiladu'r ffordd - mater datganoledig - ond, ym mis Hydref, unwaith eto, fe ddywedodd Prif Weinidog y DU wrth y cyfryngau eto fod y ffordd liniaru yn "one of the things that we’ll be seeing if we can take forward". Wrth gwrs, bydd rhaid aros i weld goblygiadau etholiad y Senedd, sydd i fod i gael ei gynnal fis Mai nesaf.
Erthygl gan Francesca Howorth, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru