Rhoi barn archwilio amodol i Gyfrifon Llywodraeth Cymru am y tro cyntaf. Beth yw ystyr hyn?

Cyhoeddwyd 09/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munud

Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi rhoi barn amodol ar Gyfrifon Blynyddol Cyfunol Llywodraeth Cymru am y tro cyntaf.

Rhoddwyd barn amodol ar Gyfrifon 2019-20 (PDF, 1 MB) oherwydd eu bod wedi hepgor £739 miliwn o wariant yn ymwneud ag ymateb Llywodraeth Cymru i’r Coronafeirws. Gosodwyd y Cyfrifon gerbron y Senedd ddydd Llun, 9 Tachwedd.

Beth yw barn archwilio amodol?

Mae’n ofynnol i archwilwyr roi barn ar y cyfrifon wedi iddynt gwblhau eu gwaith.

Caiff barn archwilio ddiamod ei galw’n farn archwilio 'lân' neu 'glir' yn aml. Mae’r farn hon yn cael ei rhoi pan fydd yr archwilydd yn credu bod y cyfrifon yn roi darlun gwir a theg o sefyllfa ariannol y sefydliad a’i incwm a’i wariant yn ystod y flwyddyn.

Bydd cyfrifon yn rhoi darlun 'gwir a theg' os nad yw’r archwilydd yn nodi unrhyw ddiffygion sy’n ddigon arwyddocaol i’r wybodaeth yn y cyfrifon gamarwain y darllenydd. Gelwir diffygion o'r fath yn 'gamddatganiadau arwyddocaol'.

Os oes diffygion (h.y. os nad yw’r cyfrifon yn rhoi darlun gwir a theg), bydd yr archwilydd yn cyhoeddi adroddiad sy’n rhoi barn archwilio wedi’i haddasu. Mae’r math o farn archwilio wedi’i haddasu a roddir yn dibynnu ar natur a difrifoldeb y canfyddiadau.

Os yw, neu os gall, y canfyddiadau effeithio ar rannau amrywiol o'r cyfrifon, gall yr archwilydd farnu bod y cyfrifon hynny'n annibynadwy ac nad ydynt yn rhoi darlun cywir o sefyllfa ariannol y sefydliad. Os yw'r canfyddiad hefyd yn arwyddocaol, ni fydd yr archwilydd yn gallu dweud bod y cyfrifon yn rhoi darlun 'gwir a theg'. Yna mae'n ofynnol i'r archwilydd roi barn anffafriol. Dyma'r math mwyaf difrifol o farn archwilio wedi’i haddasu gan ei fod yn golygu nad yw'r cyfrifon yn gywir nac yn ddibynadwy.

Fodd bynnag, os yw’r archwilydd yn nodi diffyg arwyddocaol sy’n ymwneud â rhannau penodol o'r cyfrifon yn unig, caiff yr archwilydd farnu eu bod yn rhoi darlun gwir a theg ac eithrio’r diffyg a nodwyd. Mewn achosion o'r fath, mae'n ofynnol i archwilwyr roi barn amodol ar y cyfrifon.

Dyma sydd wedi digwydd yn achos cyfrifon Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20.

Caiff barn yr archwilydd ei chynnwys yng nghyfrifon y corff dan sylw. Gallwch weld barn Archwilydd Cyffredinol Cymru ar dudalen 99 o Gyfrifon Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20.

Beth yw 'barn am reoleidd-dra'?

I rai cyrff, mae'n ofynnol i’r Archwilydd Cyffredinol hefyd roi 'barn am reoleidd-dra'. Wrth wneud hynny, mae'n ofynnol iddo ddod i gasgliad mewn dau faes. Yn gyntaf, a yw’r gwariant a’r incwm yn y cyfrifon wedi’u defnyddio at y dibenion a nodwyd gan y Senedd, sy’n cymeradwyo cyllideb Llywodraeth Cymru. Yn ail, a yw’r trafodion ariannol a gofnodwyd yn y cyfrifon yn ‘cydymffurfio â’r awdurdodau sy'n eu rheoli’.

Hynny yw, mae’r Archwilydd Cyffredinol o’r farn bod y sefydliad wedi dilyn y polisïau, y rheolau, yr egwyddorion a'r gofynion cyfreithiol sy'n rheoli ei waith.

Beth ddigwyddodd yn 2019-20?

Mae’r Archwilydd Cyffredinol wedi rhoi barn archwilio amodol (PDF, 1 MB) oherwydd nad oedd Llywodraeth Cymru wedi cynnwys cost rhai o'i hymyriadau brys i ymateb i’r Coronafeirws yn ei Chyfrifon ar gyfer 2019-20. Yn benodol, grantiau cysylltiedig ag Ardrethi Annomestig i fusnesau bach ac i fusnesau yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch..

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud (PDF, 1 MB) ei bod wedi cynnal asesiad yn ôl safonau cyfrifyddu (sef Safon Gyfrifyddu Ryngwladol (IAS) 37, Darpariaethau, Rhwymedigaethau Wrth Gefn ac Asedau Wrth Gefn) i benderfynu a ddylid cynnwys rhwymedigaethau dros y cynlluniau grant hyn yn ei Chyfrifon ar gyfer 2019-20.

Mae'n dweud (PDF, 1 MB) mai ei dehongliad o'r safon gyfrifyddu oedd 'nad oes unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol na deongliadol ychwanegol ar 31 Mawrth 2020'.

Caiff 'rhwymedigaeth ddeongliadol' ei diffinio fel a ganlyn:

A constructive obligation arises from the entity’s actions, through which it has indicated to others that it will accept certain responsibilities, and as a result has created an expectation that it will discharge those responsibilities.

Mae safonau cyfrifyddu yn ei gwneud yn ofynnol i gost 'rhwymedigaethau deongliadol' gael ei chynnwys yn y cyfrifon cyn gynted ag y byddant yn codi.

Roedd yr Archwilydd Cyffredinol yn anghytuno. Yn ei adroddiad (PDF, 1 MB) mae’n dweud:

Yn fy marn i, fe wnaeth y cyhoeddiadau a’r camau a gymerwyd cyn 31 Mawrth 2020 mewn ymateb i bandemig y coronafeirws, er mwyn sicrhau bod arian parod yn cael ei dalu i fusnesau cyn gynted â phosibl, greu rhwymedigaeth ddeongliadol o dan Safon Gyfrifyddu Ryngwladol 37, Darpariaethau, Rhwymedigaethau Digwyddiadol ac Asedau Digwyddiadol, a dylai’r costau cysylltiedig fod wedi cael eu cynnwys yn natganiadau ariannol 2019-20.

Yng nghyfrifon Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20, mae’r Ysgrifennydd Parhaol (pennaeth Gwasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru) yn dweud (PDF, 1 MB):

Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn anghytuno ag asesiad IAS 37 Llywodraeth Cymru, gan arwain at farn Wir a Theg amodol a barn Reoleidd-dra amodol ar sail ‘ac eithrio’ ar gyfer y mater hwn. Mae’n anarferol bod cymaint o wahaniaeth barn rhwng swyddogion a’r awdurdodau archwilio perthnasol ac, felly, mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i’r Bwrdd Cynghori ar Adroddiadau Ariannol ystyried y mater a rhoi canllawiau clir.

Arwydd Swyddfa Archwilio Cymru y tu allan i’w swyddfeydd yn Heol y Gadeirlan, Caerdydd

Cost y cynlluniau oedd £739 miliwn meddai’r (PDF, 1 MB) Archwilydd Cyffredinol.

Gan fod cost y cynlluniau wedi’u hepgor, rhoddodd yr archwilydd Cyffredinol farn amodol ar Gyfrifon Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20. Daeth i’r casgliad bod y cyfrifon, ‘ac eithrio’r’ penderfyniad i hepgor y costau hyn yn rhoi darlun ‘gwir a theg’ o’r sefyllfa ariannol.

Mae’r Archwilydd Cyffredinol wedi rhoi barn amodol ar reoleidd-dra ac yn priodoli hyn i’r rhesymau a amlinellir uchod.

Roedd Cyfrifon Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20 yn dangos tanwariant net o £436 miliwn yn erbyn ei chyllideb, a gymeradwywyd gan y Senedd. Pe bai Llywodraeth Cymru wedi cynnwys cost y cynlluniau cymorth busnes yn ei Chyfrifon (£739 miliwn), byddai hyn wedi troi’r tanwariant yn orwariant o £303 miliwn ar gyfer blwyddyn ariannol 2019-20.

Mae unrhyw orwariant gan Lywodraeth Cymru yn afreolaidd ac felly mae'n ofynnol i’r Archwilydd Cyffredinol roi barn amodol ar reoleidd-dra.

A yw Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi rhoi barn amodol ar unrhyw gyfrifon eraill?

Anaml iawn y bydd Archwilydd Cyffredinol Cymru yn rhoi barn archwilio amodol.

Fodd bynnag, mae wedi rhoi barn amodol ar reoleidd-dra’n amlach. Er enghraifft, rhoddodd farn amodol ar reoleidd-dra Cyfrifon 2001-02 ELWa - Cyngor Cenedlaethol Addysg a Hyfforddiant Cymru (PDF, 771 KB). Yn fwy diweddar, mae’r Archwilydd Cyffredinol wedi rhoi barn amodol ar reoleidd-dra cyfrifon Cronfa Gyfunol Cymru ar gyfer 2016-17 (PDF, 278 KB) a chyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) bob blwyddyn ers 2015-16.

Rhoddodd farn amodol ar reoleidd-dra’r cyfrifon hyn gan nad oedd y cyrff dan sylw wedi cydymffurfio â’r polisïau, y rheolau, yr egwyddorion neu’r gofynion cyfreithiol sy'n rheoli eu gwaith. Er enghraifft, rhoddodd yr Archwilydd Cyffredinol farn amodol ar reoleidd-dra ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2015-16 (PDF, 1 MB) oherwydd y modd yr oedd wedi dyfarnu contractau ar gyfer gwerthu coed.

Mae hyn yn wahanol i farn amodol yr Archwilydd Cyffredinol ar reoleidd-dra Cyfrifon Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20. Nid yw’r Archwilydd Cyffredinol yn sôn am y modd y cafodd y grantiau hyn eu dyfarnu ac nid yw’n gofyn a ydynt yn sicrhau gwerth am arian. Mae ei gasgliadau’n ymwneud â’r ffaith nad yw costau’r cynlluniau wedi’u cynnwys yng Nghyfrifon Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20. Pe bai'r costau wedi'u cynnwys, byddai Llywodraeth Cymru wedi gwario mwy na’i chyllideb ar gyfer 2019-20 ac, felly, roedd yn ofynnol i Archwilydd Cyffredinol Cymru roi barn amodol ar reoleidd-dra.

Beth nesaf?

Bydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Senedd yn craffu ar Gyfrifon Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20 yn ei gyfarfodydd ar 23 Tachwedd a 7 Rhagfyr 2020. Gallwch wylio’r trafodion yn fyw ar Senedd TV.


Erthygl gan Joanne McCarthy, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru