Image of a hand holding keys for a house

Image of a hand holding keys for a house

Rhestrau o fewn rhestrau: sut gall pobl gael mynediad at dai cymdeithasol yng Nghymru?

Cyhoeddwyd 13/03/2025

Dyma’r un o gyfres o erthyglau sy’n esbonio agweddau ar y system ddigartrefedd yng Nghymru, cyn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi Bil Digartrefedd a ddisgwylir yn ystod 2025.

Nid yw Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi data ar faint o bobl sydd ar restrau aros tai cymdeithasol. Ond mae creu newyddion syfrdanol gyda’r niferoedd hyn weithiau'n arwain newyddiadurwyr i gasglu data eu hunain, gan ddefnyddio ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth.

Yn fwyaf diweddar, canfu BBC Cymru fod 139,000 o bobl ar restr aros am gartref cymdeithasol ym mis Hydref 2023 – sy’n cyfateb i un o bob 22 o bobl yng Nghymru.

Mae’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai wedi ymchwilio i’r rhesymau dros y diffyg cyfatebiaeth enfawr rhwng y galw am dai cymdeithasol a’r cyflenwad ohonynt. Fel rhan o'i ymchwiliad, bu’r Aelodau yn clywed profiadau pobl o wneud cais am gartref cymdeithasol.

Yn ôl un cyfranogwr, “Dwi’n diodda beth bynnag hefo fy iechyd meddwl. Ond dyma'r effaith fwya’ ar fy iechyd meddwl dwi erioed wedi'i brofi. Y diffyg cyfathrebu hefo'r cyngor, y diffyg tryloywder... Oeddan ni’n dal i gael gwybod ‘da chi ar y rhestr, ‘da chi ar y rhestr. Wedyn mae’na restra o fewn rhestra, a ‘da chi ar ben y rhestr yma. Ond wedyn mae 'na restr arall a mae o'n rhwystredig.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi addo diwygio’r gyfraith ar ddyrannu tai cymdeithasol fel rhan o’r Bil Dod â Digartrefedd i Ben, y disgwylir iddo gael ei gyflwyno yn ystod 2025.

Cyn cyhoeddi'r Bil, mae'r erthygl hon yn esbonio'r gyfraith a'r arferion presennol ar gael mynediad at dai cymdeithasol. Mae’n edrych ar yr hyn y gallai’r Bil fynd i’r afael ag ef, ac yn ystyried ymatebion rhanddeiliaid hyd yn hyn.

Rhai pwyntiau sylfaenol

Mae'r gyfraith ar ddyrannu tai cymdeithasol yng Nghymru wedi'i nodi yn Rhan 6 o Ddeddf Tai 1996. Mae Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru (penodau 1-4) hefyd yn nodi’r gyfraith a’r arfer.

Mae pob awdurdod lleol, gan gynnwys y 11 hynny nad oes ganddynt eu stoc tai eu hunain mwyach, yn gorfod cael cynllun dyrannu sy’n nodi sut y maent yn bwriadu dyrannu tai.

Mae’n rhaid i gynlluniau awdurdodau lleol roi ffafriaeth resymol i bum categori o ymgeisydd:

  • Pobl sy'n ddigartref o fewn ystyr Deddf Tai (Cymru) 2014;
  • Pobl y mae dyletswydd digartrefedd yn ddyledus iddynt o dan Adrannau 66, 73 neu 75 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014;
  • Pobl sy'n byw mewn tai aflan neu orlawn neu fel arall yn byw mewn tai ag amodau anfoddhaol;
  • Pobl y mae angen iddynt symud am resymau meddygol neu resymau sy’n ymwneud â lles;
  • Pobl y mae angen iddynt symud i ardal benodol lle byddai methu â gwneud hynny yn achosi caledi iddyn nhw eu hunain neu i eraill.

Fel arfer, ni ddylent ddyrannu tai i bobl nad ydynt yn ‘gymwys’. Mae hynny’n golygu un o ddau beth:

Amrywiadau lleol

Cyhyd ag y gall awdurdodau lleol ddangos bod eu polisi, yn gyffredinol, yn rhoi ‘ffafriaeth resymol’ i ymgeiswyr yn y pum categori a restrir uchod, maent yn rhydd i gynnwys blaenoriaethau eraill cyn belled nad ydynt yn dominyddu’r cynllun.

Mae llawer o amrywiaeth ledled Cymru. Mae llawer o awdurdodau lleol yn defnyddio system fandio i flaenoriaethu ymgeiswyr, er nad oes dull safonol ac mae’r systemau’n amrywio. Mae rhai yn dyrannu pwyntiau i raddio ymgeiswyr yn ôl lefel yr angen. Mae’r rhan fwyaf yn rhannu cofrestr tai cyffredin gyda darparwyr tai lleol yn rhoi un pwynt mynediad i ymgeiswyr, ond nid yw rhai yn gwneud hynny (fel Wrecsam, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe).

Mae rhai yn rhoi mwy o flaenoriaeth nag eraill i ffactorau megis cysylltiad lleol. Gallent benderfynu cynnwys polisi gosod lleol, sy’n caniatáu i awdurdodau lleol ddefnyddio llety penodol ar gyfer pobl o ddisgrifiad penodol, hyd yn oed os nad ydynt yn dod o dan gategori ffafriaeth resymol. Mae hyn yn caniatáu i rai tai gael eu defnyddio fel llety gwarchod neu lety hygyrch.

Yn ymarferol, mae darlun Cymru gyfan yn gymhleth. Mae Papur Gwyn Llywodraeth Cymru ar Roi Diwedd ar Ddigartrefedd yn nodi nad yw aelwydydd digartref bob amser yn cael eu gosod yn y band blaenoriaeth uchaf, er bod ganddynt hawl i ffafriaeth resymol, oherwydd y pwysau y gellir ei roi i ffactorau eraill.

Beth am gymdeithasau tai?

Mae cymdeithasau tai yn llai cyfyngedig yn eu cynlluniau dyrannu. Y ddyletswydd allweddol sy'n berthnasol iddynt yw Adran 170 o Ddeddf Tai 1996, sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt gydweithredu ar gais yr awdurdod lleol, i’r fath raddau ag sy'n rhesymol, wrth gynnig dyraniad i bobl â blaenoriaeth o dan gynllun yr awdurdod lleol. Cefnogir yr angen hwn am gydweithio ymhellach gan ‘ddyletswydd i gydweithredu’ o dan Adran 95 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014.

Yn ymarferol, mae gan y rhan fwyaf o gymdeithasau tai gytundebau ag awdurdodau lleol i dderbyn ‘enwebiadau’ ymgeiswyr am eiddo gwag. Mae ymchwil diweddar wedi canfod yr ‘ymddengys fod’ y rhan fwyaf o gymdeithasau tai yn gweithredu lefel uchel o enwebiadau, gyda rhai yn gweithredu 100% enwebiadau.

Fodd bynnag, hyd yn oed pan fydd landlord cymdeithasol ar bapur yn ymrwymo i 100% o enwebiadau gan yr awdurdod lleol, yn ymarferol bydd y gyfran yn aml yn llai. Gall cymdeithasau tai wrthod enwebiadau unigol ar sail ffactorau y maent yn eu hystyried yn berthnasol megis hanes blaenorol ymgeisydd, neu’r gwasanaethau cymorth sydd ar gael.

Mae Llywodraeth Cymru wedi casglu data chwarterol gan gymdeithasau tai ar fesurau perfformiad amrywiol, ac un ohonynt yw tai gosod i liniaru digartrefedd. Canfu’r adroddiad diweddaraf, ar gyfer mis Ionawr i fis Mawrth 2024, fod 34.8% o osodiadau cymdeithasau tai ar gyfartaledd wedi'u categoreiddio fel rhai i leddfu digartrefedd, gyda chyfranau ar gyfer cymdeithasau tai unigol yn amrywio o 0% i 61%. Er nad yw'r canrannau hyn yn cynrychioli'r holl enwebiadau, dim ond rhai sy'n ymwneud â digartrefedd, maent serch hynny yn dangos faint o amrywiad sydd yn bodoli.

Beth allai newid?

Disgwylir yn gyffredinol i’r Bil arfaethedig gynnwys cynigion sy'n anelu at gynyddu cyfran y dyraniadau tai cymdeithasol i aelwydydd digartref.

Roedd Papur Gwyn Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2023, yn gofyn am farn ar nifer o gynigion ar gyfer deddfwriaeth newydd, gan gynnwys:

  • Egluro yn y gyfraith na all cymdeithas dai wrthod atgyfeiriad gan awdurdod lleol yn afresymol;
  • Egluro'r prawf am anghymwyster oherwydd ymddygiad annerbyniol;
  • Rhoi'r pŵer i awdurdodau lleol dynnu enwau pobl o'r rhestr aros nad oes angen tai arnynt;
  • Rhoi ffafriaeth ychwanegol (yn ychwanegol at ffafriaeth resymol) i ymgeiswyr digartref;
  • Rhoi ffafriaeth ychwanegol i bobl ddigartref sy'n gadael gofal;
  • Gofyniad i ddefnyddio'r Gofrestr Tai Cyffredin a pholisïau Dyraniadau Cyffredin ym mhob awdurdod lleol;
  • Cyflwyno ‘prawf camddefnydd bwriadol’ er mwyn dileu unrhyw flaenoriaeth am dai cymdeithasol gan ymgeiswyr y ceir eu bod wedi camddefnyddio'r system ddigartrefedd yn fwriadol, er mwyn cael mantais wrth wneud cais am dai cymdeithasol.

Roedd ymateb y rhanddeiliaid i'r Papur Gwyn hwn yn amrywiol o ran lefel eu cefnogaeth ar gyfer y cynigion hyn. Er enghraifft, roedd bron pob un o’r awdurdodau lleol a’r sefydliadau trydydd sector yn cytuno â’r cynnig i egluro efallai na fydd cymdeithas dai yn gwrthod atgyfeiriad yn afresymol, tra bod y rhan fwyaf o gymdeithasau tai yn ei wrthwynebu.

Gyda rhanddeiliaid yn anghytuno ynghylch a fydd y cynigion yn cefnogi neu'n tanseilio cydweithredu rhwng landlordiaid ac awdurdodau lleol, rhaid aros i weld a fydd unrhyw gynigion wedi newid erbyn i'r Bil gael ei osod.

Cael cyngor ar gael mynediad i dai cymdeithasol

Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ymdrin â chwynion am ddyrannu tai cymdeithasol.

Mae Shelter Cymru yn darparu cyngor tai arbenigol am ddim.

Mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn darparu cyngor a chymorth am ddim ar amrywiaeth o broblemau, gan gynnwys tai.

Erthygl gan Jennie Bibbings, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru