Rhestrau caeedig a D’Hondt: Sut caiff seddi eu neilltuo?

Cyhoeddwyd 01/04/2026

Ar 7 Mai 2026, bydd pleidleiswyr yng Nghymru yn ethol 96 o Aelodau newydd o’r Senedd gan ddefnyddio'r system etholiadol Rhestr Gaeedig. Cyflwynwyd y system bleidleisio hon gan Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (Deddf 2024).

Mae'r erthygl hon yn esbonio sut mae'r system Rhestr Gaeedig yn gweithio. Mae erthygl wadd ar wahân ar y system newydd yn nodi rhai o'r cyfaddawdau sydd eu hangen wrth ddewis systemau etholiadol, yn enwedig rhwng cymesuredd seneddau ac atebolrwydd llywodraethau.

Sut i bleidleisio o dan y system Rhestr Gaeedig

O dan system Rhestr Gaeedig, mae pleidiau gwleidyddol yn rhestru eu hymgeiswyr ar gyfer pob etholaeth. Gall pleidiau restru hyd at wyth ymgeisydd fesul etholaeth. Bydd yr ymgeiswyr hyn yn ymddangos yn eu trefn ar y papur pleidleisio. Gall ymgeiswyr annibynnol (y rhai nad ydynt yn sefyll dros blaid wleidyddol) sefyll hefyd, a byddant yn gweithredu i bob pwrpas fel rhestr o un.

Bydd gan bleidleiswyr un bleidlais – naill ai dros blaid wleidyddol neu ymgeisydd annibynnol. Mae’r Senedd wedi llunio enghraifft o bapur pleidleisio i ddangos beth y gall pleidleiswyr ei ddisgwyl pan fyddant yn cyrraedd yr orsaf bleidleisio.

Mae 16 etholaeth yn yr etholiad Senedd hwn. Bydd pob un o’r 16 etholaeth hyn yn ethol chwe Aelod o’r Senedd, gyda chyfanswm o 96 Aelod yn cael eu hethol.

Mae’r system yn cael ei hadnabod fel ‘rhestr gaeedig’ gan mai’r pleidiau gwleidyddol sy’n dewis trefn yr ymgeiswyr ar eu rhestr. Bydd pleidleiswyr yn gallu gweld trefn yr ymgeiswyr ar gyfer pob plaid wleidyddol, ond ni fyddant yn gallu dewis ymgeisydd penodol sy'n sefyll dros blaid ar y rhestr. Yn lle hynny, bydd ymgeiswyr y pleidiau yn cael eu hethol yn y drefn y cânt eu gosod ar y rhestr. Er enghraifft, os bydd plaid wleidyddol yn ennill tair sedd mewn etholaeth, byddai'r tri ymgeisydd cyntaf ar restr y blaid honno'n cael eu hethol.

Mae’r Comisiwn Etholiadol wedi creu fideo i esbonio’r system Rhestr Gaeedig.

Mae'r pleidleisiau wedi'u cyfrif - beth nesaf?

Bydd staff yr orsaf bleidleisio yn dechrau cyfrif pleidleisiau fore 8 Mai, y diwrnod ar ôl yr etholiad. Bydd angen iddyn nhw ddechrau cyfrif rhwng 9am ac 11am.

Ar ôl i’r holl bleidleisiau gael eu cyfrif, bydd fformiwla D’Hondt yn cael ei defnyddio i gyfrifo faint o seddi y mae pob plaid wedi’u hennill. O dan D'Hondt, mae seddi’n cael eu cyfrifo gan ddefnyddio'r fformiwla ganlynol:

 Nifer y pleidleisiau

 Nifer y seddi a enillwyd yn barod+1

Er enghraifft, mae'r tabl isod yn dangos sut y byddai'r fformiwla'n cael ei defnyddio mewn senario lle mae Plaid A wedi ennill 3300 o bleidleisiau, Plaid B 2000 o bleidleisiau, Plaid C 2700 o bleidleisiau, Plaid D 1000 o bleidleisiau, ac ymgeisydd annibynnol 1200 o bleidleisiau.

Rhif sedd

Pleidleisiau Plaid A

Pleidleisiau Plaid B

Pleidleisiau Plaid C

Pleidleisiau Plaid D

Pleidleisiau'r ymgeisydd annibynnol

Etholwyd

1

3300

2000

2700

1000

1200

Ymgeisydd 1 Plaid A

2

1650

2000

2700

1000

1200

Ymgeisydd 1 Plaid C

3

1650

2000

1350

1000

1200

Ymgeisydd 1 Plaid B

4

1650

1000

1350

1000

1200

Ymgeisydd 2 Plaid A

5

1100

1000

1350

1000

1200

Ymgeisydd 2 Plaid C

6

1100

1000

900

1000

1200

Ymgeisydd annibynol

Yn y senario hwn, Plaid A sy’n ennill y sedd gyntaf, ar ôl sicrhau'r nifer fwyaf o bleidleisiau. Ar gyfer yr ail sedd, mae pleidleisiau Plaid A (3300) bellach wedi'u rhannu â dau (un sedd a enillwyd + 1), felly Plaid C sydd â'r cyfanswm uchaf newydd (2700, o'i gymharu â 1650 Plaid A), ac mae'n ennill yr ail sedd.

Mae parhau i gymhwyso'r fformiwla yn golygu y byddai'r ddau ymgeisydd cyntaf ar restrau Pleidiau A a C yn cael eu hethol. Byddai gan Blaid B un ymgeisydd o frig ei rhestr wedi'i ethol. Byddai ymgeisydd annibynnol A hefyd yn cael ei ethol.

Nid oes canran gyfreithiol leiaf o bleidleisiau y mae'n rhaid i blaid neu ymgeisydd annibynnol eu cael i ennill sedd, fodd bynnag, mae academyddion, fel Dr Jac Larner o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, wedi amcangyfrif ei bod yn debygol y byddai angen i blaid neu ymgeisydd annibynnol sicrhau tua 12% o'r bleidlais mewn etholaeth i ennill sedd.

Yma i aros?

Efallai y bydd y system Rhestr Gaeedig yn cael ei hadolygu ar ôl yr etholiad.

Mae’r ddeddfwriaeth a gyflwynodd y system bleidleisio yn ei gwneud yn ofynnol i’r Llywydd newydd sy’n cael ei ethol ar ôl etholiad mis Mai i gyflwyno cynnig i’r Senedd i sefydlu pwyllgor i adolygu gweithrediad ac effaith Rhannau 1 a 2 o Ddeddf 2024, gan gynnwys y system etholiadol. Os bydd y Senedd yn derbyn y cynnig i sefydlu'r pwyllgor, byddai'n rhaid iddo gyflwyno adroddiad o fewn 12 mis i gyfarfod cyntaf y Senedd newydd.

Byddai angen i unrhyw newid i'r system etholiadol yn y dyfodol gael ei wneud drwy ddeddfwriaeth sylfaenol, sy’n galw am gefnogaeth dwy ran o dair o Aelodau o'r Senedd.

Am ragor o wybodaeth am yr etholiad sydd ar ddod, gan gynnwys sut i gofrestru i bleidleisio cyn y dyddiad cau sydd ar ddod, sef 20 Ebrill, gweler ein tudalen adnoddau Etholiad.

Erthygl gan Adam Cooke, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru