Rheolau cynllunio newydd ar gyfer estyniadau i dai yng Nghymru; rhagor o newidiadau yn Lloegr

Cyhoeddwyd 07/10/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

7 Hydref 2013

Ddiwedd mis Medi, cyflwynwyd rheolau cynllunio newydd ar gyfer adeiladu estyniadau i dai yng Nghymru.

[caption id="attachment_447" align="alignright" width="300"] Llun: o Flickr gan exfordy. Dan drwydded Creative Commons.[/caption]

Yn ôl Llywodraeth Cymru bydd Gorchymyn Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2013 yn:

  • rhoi mwy o hyblygrwydd i ddeiliaid tai wneud gwelliannau a newidiadau i’w cartrefi
  • symud oddi wrth drothwyon cyfaint tuag at ddull sy’n seiliedig ar asesu effaith, ar gyfer datblygu a ganiateir
Mae’r rheolau newydd yn newid y diffiniadau ar gyfer yr hyn a ystyrir yn ‘ddatblygu a ganiateir’ ar gyfer tai sydd eisoes yn bodoli. Datblygu a ganiateir yw datblygiad a all ddigwydd heb orfod gwneud cais am ganiatâd cynllunio.

Cyflwynwyd newidiadau eithaf tebyg yn Lloegr yn 2008 – fodd bynnag, mae ychydig o wahaniaethau yn rhai o’r manylion ar gyfer rheolau newydd Cymru.  Mae rhai o’r rhain yn ymdrin â chanlyniadau anfwriadol newidiadau 2008 yn Lloegr. Ond mae ychydig o newidiadau eraill lle mae deddfwriaeth newydd Cymru naill ai’n fwy cyfyngol neu’n llai cyfyngol nag yn Lloegr. Er enghraifft, caniateir rhai estyniadau ochr, deulawr yng Nghymru lle byddai angen caniatâd cynllunio ar eu cyfer yn Lloegr.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Canllaw Cynllunio i Ddeiliaid Tai wedi’i ddiweddaru, sy’n egluro’r rheolau newydd yn ogystal â Chanllaw Technegol ar ddatblygu a ganiateir i ddeiliaid tai, sy’n fwy manwl.

Yn y cyfamser cyflwynwyd rhagor o newidiadau i hawliau 'datblygu a ganiateir' i ddeliaid tai yn Lloegr yn unig ym mis Mai 2013. Cyflwynwyd y newidiadau hyn ochr yn ochr ag amrywiaeth o fesurau eraill, gan gynnwys caniatau rhai newidiadau defnydd o swyddfeydd i gartref mewn rhai ardaloedd.

Mae’r Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref  (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Lloegr)  2013 yn caniatáu adeiladu estyniadau cefn unllawr mwy, hyd at 6 metr o hyd ar gyfer tai cydiol neu 8 metr ar gyfer tai sengl, heb ganiatâd cynllunio yn y rhan fwyaf o ardaloedd, a hynny am gyfnod o 3 blynedd i ddechrau hyd at ddiwedd mis Mai 2016.   Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno’r mesur hwn i helpu ysgogi’r diwydiant adeiladu ac i "gael gwared ar fiwrocratiaeth ormodol ar estyniadau annadleuol ar raddfa fach".

Fodd bynnag, oherwydd pryderon a godwyd yn y Senedd am effaith bosibl y newidiadau hyn ar ‘amwynder’ cymdogion, diwygiwyd y rheolau newydd yn Lloegr i’w gwneud yn ofynnol i unrhyw un a oedd yn gwneud cais am estyniad mawr i’w tŷ roi gwybod i’w hawdurdod lleol cyn cychwyn ar y gwaith. Nid oes ffi ynghlwm â’r broses o hysbysu. Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol wedyn ymgynghori ar unwaith â’r eiddo cyffiniol, gyda chyfnod ymgynghori gofynnol o 21 diwrnod. Os oes unrhyw wrthwynebiad gan gymdogion, "mae’n rhaid cael cymeradwyaeth yr awdurdod cynllunio lleol ymlaen llaw, o ran effaith y datblygiad arfaethedig ar amwynder unrhyw eiddo cyffiniol".

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi unrhyw fwriad hyd yn hyn i gyflwyno cynnydd dros dro tebyg ym maint estyniadau a ganiateir i dai yng Nghymru.

Erthygl gan Graham Winter