Ddydd Mercher 13 Mehefin bydd Dadl Fer yn y Cyfarfod Llawn ar Aelodau Cynulliad yn rhannu swydd. Mae'r Cynnig, a gyflwynwyd gan Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Sian Gwenllian yn nodi:
Rhannu swyddi Aelodau'r Cynulliad: A fyddai caniatáu i Aelodau'r Cynulliad rannu swydd yn arwain at greu Cynulliad cydradd o ran rhywedd ac un mwy cynrychioliadol o’r boblogaeth gyfan?
Cododd y syniad fel rhan o adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad, sef Senedd sy'n gweithio i Gymru, a gyhoeddwyd fis Rhagfyr 2017. Trafododd y Panel Arbenigol y mater fel rhan o'r gwaith o ystyried sut i wella amrywiaeth yn y Cynulliad. Yn ôl yr adroddiad:
Gallai galluogi ymgeiswyr sy'n sefyll dros yr un blaid neu fel ymgeiswyr annibynnol sefyll i'w hethol ar sail trefniadau rhannu swydd arwain at gynnydd yn yr amrywiaeth o gynrychiolwyr yn y Cynulliad. Gallai'r hyblygrwydd i sefyll ar sail rhannu swydd fod yn arbennig o fuddiol i ymgeiswyr hŷn, pobl ag anableddau, neu bobl â chyfrifoldebau gofalu.
Roedd yr adroddiad yn nodi mai'r egwyddor arweiniol ganolog ar gyfer rhannu swydd yw y dylai partneriaid sy'n rhannu swydd gael eu trin fel pe baent yn un person. Byddai hyn yn golygu, er enghraifft, pe bai partner yn ymddiswyddo, y rhagdybir yn awtomatig y byddai'r llall hefyd yn ymddiswyddo fel Aelod Cynulliad. Hefyd, byddai angen eglurder a thryloywder o ran y tâl a'r cymorth ariannol ar gyfer trefniant rhannu swydd o'r fath.
Argymhellodd yr adroddiad:
Argymhelliad 11. Dylid newid y gyfraith etholiadol, gweithdrefnau'r Cynulliad a Phenderfyniad ar Dâl a Lwfansau Aelodau y Bwrdd Taliadau er mwyn i ymgeiswyr allu sefyll i'w hethol ar sail trefniadau rhannu swyddi tryloyw. Yr egwyddorion wrth wraidd trefniadau o'r fath yw y dylai ymgeiswyr egluro wrth bleidleiswyr y cytundeb sydd rhyngddynt i rannu'r swydd, bod y partneriaid sy'n rhannu'r swydd yn cael eu trin fel un person, ac y dylai'r Aelodau hynny sy'n rhannu'r swydd beidio ag achosi unrhyw gostau ychwanegol sy'n uwch na chostau un Aelod Cynulliad.
Mae'r Athro Rosie Campbell a'r Athro Sarah Childs – a rannodd swydd fel aelod o'r panel arbenigol – yn gyfranwyr i bamffled y Gymdeithas Fawcett ar rannu swydd Aelodau Seneddol, a gyhoeddwyd ym mis Medi 2017. Yn eu cyflwyniad i'r pamffled, maent yn datgan:
MP job-shares might also counter the (much lamented) rise of the professional politician by allowing, for example, doctors, teachers, nurses or the scientists to become MPs whilst continuing to maintain their professional skills. Furthermore, there are risks and costs involved in standing in marginal seats, and allowing MPs to continue to pursue a career part time outside of politics might allow more people to consider standing for election. In an aging society, it would also permit the older MP to better balance work and retirement by enabling them to effectively work part-time in their later years. Or it might enable a sitting MP to stand for one Parliament as a job-share so they can take on a caring role for an elderly relative before returning full-time at a later election.
Yn 2012 cyflwynodd John McDonnell AS Fil Rheol 10 Munud i Dŷ'r Cyffredin a chafwyd cefnogaeth drawsbleidiol iddo. Wrth gyflwyno'r Bil, ystyriodd rai o elfennau ymarferol y cynnig:
What would happen if one of the job sharers became a Minister and were covered by collective responsibility? A job sharer would be able to fulfil a ministerial role to the extent of the time that they had to devote to the role on a job-share basis, and in appointing Ministers the Prime Minister would take that into account. This could, and eventually would, lead to job sharing for Ministers. With regard to collective responsibility, the job sharer assuming ministerial responsibilities would naturally cast his or her half vote in line with that requirement.
Fodd bynnag, gwrthododd David Nuttall AS y Bil ar sawl sail, gan gwestiynu a fyddai hyn yn cyflawni'r nod a fwriedir mewn perthynas ag amrywiaeth, a heriodd yr honiad y byddai hyn yn gost niwtral:
I am not convinced by the “two for the price of one” argument. It is hard to see how two people would not, at some point, need extra staff or office space. They would need a bigger taxpayer-funded residence in the capital or even require two separate residences in London if they represented a constituency some way away from Westminster. At the very least, there would be two sets of travel expenses.
Yn ystod etholiad cyffredinol 2015, gwrthodwyd caniatáu i ddau aelod o'r Blaid Werdd a oedd yn gobeithio sefyll i gael eu hethol i Senedd y DU gan rannu swydd, ac ni roddwyd yr hawl iddynt herio'r penderfyniad yn yr Uchel Lys. Cyflwynodd Sarah Cope a Clare Phipps bapurau enwebu ar y cyd ar gyfer yr etholiad cyffredinol, ond penderfynodd swyddog canlyniadau yr etholaeth yn Basingstoke fod eu hymgais gyfunol yn annilys.
Fe wnaeth y barnwr a oedd yn clywed eu hachos, Mr Ustus Wilkie, wrthod eu cais.
Erthygl gan Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru