Yn ystod yr wythnosau diwethaf, bu llawer o sylw yn y cyfryngau i gynlluniau i rannu cofnodion cleifion meddygon teulu â thrydydd partïon. Nid yw’r newidiadau hyn yn gymwys i Gymru ond mae llawer o ddryswch wedi bod o hyd ynglŷn â sut maent yn effeithio ar gleifion yn Lloegr, ond hefyd y rheini ar y ffin yng Nghymru sy'n cyrchu gwasanaethau iechyd Lloegr. Nod yr erthygl hon yw clirio peth o’r ansicrwydd a helpu i wneud synnwyr o'r goblygiadau o ran rhannu data.
Pwy sy'n gwneud y newidiadau a beth ydyn nhw’n union?
Mae NHS Digital yn gyfrifol am gasglu, safoni a rhannu data ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol yn Lloegr. Mae'r data hyn yn cynnwys cofnodion cleifion meddygon teulu. Defnyddiwyd gwasanaeth o'r enw General Practice Extraction Service (GPES) dros y 10 mlynedd diwethaf i gasglu data a oedd “i bob pwrpas yn ddienw”, fel nad yw’n datgelu manylion adnabod unigolyn. Roedd hefyd yn casglu data lle mae modd adnabod cleifion (er enghraifft enw, dyddiad geni neu god post) pan oedd y gyfraith yn caniatáu hynny neu’n cefnogi budd uniongyrchol i ofal cleifion.
Mae NHS Digital nawr yn edrych i ddisodli'r gwasanaeth gyda General Practice Data for Planning and Research (GPDPR). Mae'r gwasanaeth hwn yn fwy canolog a bydd yn defnyddio proses ffugenwi. Mae hyn yn golygu na fydd modd adnabod cleifion yn y data ond gall NHS Digital drosi codau unigryw yn ôl i ddata a allai adnabod cleifion, er enghraifft pan fydd rheswm cyfreithiol dilys dros wneud hynny.
Pa fath o ddata sy'n cael eu casglu?
Bydd data, gan gynnwys diagnosisau, symptomau, arsylwadau a chanlyniadau profion, ynghyd â data ar ryw, ethnigrwydd a chyfeiriadedd rhywiol, oll yn cael eu casglu. Mae NHS Digital hefyd yn dweud y gellir casglu data am y staff sydd wedi trin cleifion.
Ni fydd enwau a chyfeiriadau’n cael eu casglu (heblaw am godau post, ar ffurf wedi’i godio). Bydd manylion sgyrsiau gyda meddygon a nyrsys neu nodiadau ysgrifenedig hefyd wedi'u heithrio. Mae rhestr lawn o'r holl ddata a gânt eu casglu i’w gweld ar dudalen we GPDPR.
A all cleifion optio allan?
Fe gaiff cleifion optio allan o'r gwasanaeth erbyn 1 Medi 2021, sef pan fydd y gwaith casglu swyddogol yn dechrau. Gall cleifion barhau i ddewis optio allan ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd NHS Digital yn cadw’r data sy’n cael eu casglu hyd at y dyddiad hwnnw. Cynlluniwyd y system newydd yn wreiddiol i ddechrau ar 1 Gorffennaf 2021, ond ar 8 Mehefin 2021 cyhoeddodd NHS Digital fod hyn wedi’i ohirio tan 1 Medi 2021. Mae’n rhaid i sefydliadau iechyd a gofal gydymffurfio â'r polisi optio allan data cenedlaethol erbyn 30 Medi 2021.
A yw'r newidiadau hyn yn digwydd yng Nghymru?
Yn fyr, nac ydynt. Fodd bynnag, mae'n fater ychydig yn fwy cymhleth i gleifion yng Nghymru sy'n defnyddio practis meddyg teulu yn Lloegr, gan fod hyn yn effeithio arnynt. Yn ogystal, gan fod y data wedi'u casglu dros y 10 mlynedd diwethaf, bydd rhai pobl wedi symud o Loegr i Gymru yn yr amser hwnnw. Bydd unrhyw ddata a gasglwyd yn ystod eu hamser yn byw yn Lloegr yn dal i gael eu casglu, os oeddent wedi'u cofrestru gyda meddyg teulu yn Lloegr. Fodd bynnag, mae gan y cleifion hyn yr un hawl i optio allan â’r rheini sy'n byw yn Lloegr, ac mae'r opsiwn optio allan hwn yn parhau cyhyd ag y bydd rhywun yn dewis ei gadw ar waith.
A yw data cleifion yn cael eu rhannu yng Nghymru?
Ydynt. Mae sefydliadau GIG Cymru yn rhannu gwybodaeth cleifion at ddibenion ymchwil a chynllunio. Er enghraifft, mae Banc Data SAIL (Cyswllt Gwybodaeth Ddienw Ddiogel) yn fanc data a gydnabyddir yn rhyngwladol o ddata dienw wedi'u hamgryptio am boblogaeth Cymru, wedi'i lleoli ym Mhrifysgol Abertawe. Nodwyd fod y banc data yn storfa ddiogel o'r radd flaenaf mewn datganiad diweddar gan Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Caiff SAIL ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru a’i ariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Caiff y data sy’n cael eu casglu gan SAIL eu defnyddio mewn prosiectau sy'n anelu at wella gofal cleifion a gwella iechyd a llesiant. Gan fod y data yn gyfan gwbl ddienw ac nad oes modd eu cysylltu â gwybodaeth adnabyddadwy am gleifion, yr unig opsiwn i gleifion o Gymru yw optio allan drwy wneud cais i'w meddyg teulu.
Mae enghreifftiau eraill o rannu data yng Nghymru yn cynnwys y cynllun Patients Know Best a System Gwybodaeth Gofal Cymunedol Cymru.
Mae rhagor o wybodaeth am y newidiadau arfaethedig a chyngor i'r cyhoedd ar gael ar wefan NHS Digital. Mae datganiad ynghylch rhannu data cleifion gan Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Erthygl gan Božo Lugonja, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru