Rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru: sut mae’n gweithio

Cyhoeddwyd 12/10/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Mae Aelodau o’r Senedd yn delio ag ymholiadau gan eu hetholwyr ynghylch gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru.

Bwriad yr erthygl hon yw helpu Aelodau a'u staff i gyfeirio etholwyr at wybodaeth a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru am sut mae Profi, Olrhain, Diogelu yn gweithio yng Nghymru. Mae'n cynnwys gwybodaeth am yr hyn sy'n digwydd os byddwch yn cael canlyniad positif am y coronafeirws, neu wedi bod mewn cysylltiad agos â rhywun sydd wedi cael canlyniad positif.

Ynglŷn â Phrofi, Olrhain, Diogelu

Mae Profi, Olrhain, Diogelu yn rhan hanfodol o strategaeth Llywodraeth Cymru i reoli lledaeniad y coronafeirws, a chafodd ei lansio ledled Cymru ar 1 Mehefin 2020.

Mae profi ac olrhain cysylltiadau yn rhan hanfodol o ddull Llywodraeth Cymru o ddiogelu yn erbyn trosglwyddiad y feirws, a bydd angen ei gynnal ar lefel sylweddol, o bosibl am y flwyddyn nesaf neu hyd nes y bydd brechlyn ar gael.

Mae strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu Llywodraeth Cymru yn nodi ei dull o wneud yr hyn a ganlyn:

  • profi pobl sydd â symptomau yn y gymuned;
  • olrhain y rheini y maent wedi dod i gysylltiad agos â nhw; a
  • diogelu pobl eraill drwy hunanynysu.

Mae ffeithlun Llywodraeth Cymru ar gyfer Profi, Olrhain, Diogelu yn nodi’r hyn y mae angen i chi ei wybod.

Profion

Ers 18 Mai 2020, gall unrhyw un yng Nghymru sydd â symptomau’r coronafeirws gael prawf.

Mae strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu Llywodraeth Cymru yn dibynnu ar y cyhoedd yn adnabod symptomau’r coronafeirws ac yn gofyn am brawf. Felly, rhaid i brofion fod ar gael yn gyflym ac yn hawdd, er mwyn gallu olrhain cysylltiadau yn effeithiol i reoli trosglwyddiad y clefyd.

Cynghorir pobl i gael prawf coronafeirws os byddant yn datblygu’r symptomau, sef peswch newydd parhaus, tymheredd uchel, neu mae pethau’n blasu neu’n arogli’n wahanol i’r arfer. Rhaid i’r person sy’n dangos symptomau a phawb sy’n byw gydag ef neu hi hunanynysu wrth aros am ganlyniad y prawf.

Gall unrhyw un sy'n profi symptomau’r coronafeirws wneud cais am brawf ar-lein neu trwy ffonio'r gwasanaeth ffôn 119 cenedlaethol.

Mae angen i unrhyw un sy'n cael canlyniad positif am y coronafeirws, a'u cysylltiadau agos, hunanynysu i atal y coronafeirws rhag lledaenu ac i ynysu heintiau newydd. Bydd hyn yn torri’r gadwyn drosglwyddo. Mae canllawiau hunanynysu Llywodraeth Cymru yn nodi, hyd yn oed os yw'r symptomau'n ysgafn, rhaid i bobl sy'n cael canlyniad positif beidio â gadael eu cartref:

  • rhaid i'r rheini sy'n cael canlyniad positif am y coronafeirws hunanynysu am 10 diwrnod o'r adeg y dechreuodd eu symptomau; a
  • rhaid i aelodau eraill o'r aelwyd, gan gynnwys pobl nad oes ganddynt unrhyw symptomau, aros gartref a pheidio â gadael y tŷ am 14 diwrnod.

Mae strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr hyn a ganlyn;

Y cyhoedd fydd ein partneriaid pwysicaf. Dim ond trwy eu parodrwydd nhw i adrodd am eu symptomau, adnabod eu cysylltiadau a dilyn y cyngor ar hunanynysu, y byddwn yn gallu nodi achosion a chlystyrau newydd o goronafeirws ac atal cynnydd newydd mewn achosion rhag brigo.

Olrhain cysylltiadau

Olrhain cysylltiadau os ydych chi wedi cael canlyniad prawf positif am y coronafeirws

Bydd swyddogion olrhain cysylltiadau yn cysylltu ag unrhyw un sy’n cael canlyniad prawf positif am y coronafeirws a gofynnir iddynt ddarparu manylion am ble maen nhw wedi bod yn ddiweddar, a phawb sydd wedi dod i gysylltiad agos â hwy. Bydd gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru yn cysylltu â hwy dros y ffôn yn y lle cyntaf. Dim ond o'r rhif hwn y bydd galwadau’n dod: 02921 961133.

Ar gyfer plant dan 16 oed sy'n cael canlyniad positif, gall y swyddog olrhain cysylltiadau siarad naill ai ag oedolyn ar ran y plentyn, neu â'r plentyn, os yw ei riant neu warcheidwad yn rhoi caniatâd.

Bydd y swyddog olrhain cysylltiadau yn gofyn am wybodaeth am gysylltiadau agos diweddar hyd at 2 ddiwrnod cyn y dechreuodd y person a gafodd ganlyniad positif ddangos symptomau.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i olrhain cysylltiadau os ydych wedi cael prawf positif am y coronafeirws.

Olrhain cysylltiadau os oes cadarnhad eich bod wedi dod i gysylltiad â rhywun sydd â’r coronafeirws

Bydd swyddog olrhain cysylltiadau yn cysylltu â’r rheini sydd wedi’u cadarnhau fel rhywun sydd wedi dod i gysylltiad â rhywun sydd wedi cael canlyniad positif ar gyfer y coronafeirws.

Bydd y swyddog olrhain cysylltiadau yn eu cynghori i hunanynysu am 14 diwrnod o'u cysylltiad diwethaf â'r person a gafodd ganlyniad positif. Mae hyn er mwyn sicrhau nad ydynt yn lledaenu'r feirws, a gofynnir iddynt wneud hyn hyd yn oed os nad oes ganddyn nhw unrhyw symptomau. Gallai rhywun sydd wedi’i heintio fod yn heintus i bobl eraill a throsglwyddo'r feirws ar unrhyw adeg hyd at 14 diwrnod.

Bydd swyddog olrhain cysylltiadau yn cysylltu â’r rheini y cadarnhawyd eu bod wedi dod i gysylltiad agos â rhywun sydd â’r coronafeirws. Ystyr ‘cysylltiad’ yw:

  • rhywun o fewn 1 metr iddynt lle cafwyd sgwrs wyneb-yn-wyneb â nhw, cysylltiad corfforol croen-i-groen, neu wedi peswch drostynt, neu wedi bod mewn math arall o gysylltiad o fewn 1 metr am funud neu ragor;
  • rhywun o fewn 2 fetr ohonynt am fwy na 15 munud; neu
  • rhywun maen nhw wedi teithio mewn cerbyd gyda nhw neu wedi eistedd yn agos atynt ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Yna bydd ail swyddog olrhain cysylltiadau yn cysylltu â'r bobl ar y rhestr. Bydd y swyddog olrhain cysylltiadau yn rhoi gwybod iddynt mewn ffordd sensitif eu bod wedi dod i gysylltiad â rhywun sydd wedi cael canlyniad positif am goronafeirws.

Gofynnir i'r cysylltiadau a gadarnhawyd fonitro eu symptomau a chael prawf cyn gynted â phosibl os byddant yn datblygu symptomau. Dim ond os ydyn nhw'n arddangos symptomau y bydd y swyddog olrhain cysylltiadau yn cynghori pobl i gael prawf. Y rheswm am hyn yw y gall profi tra’ch bod yn asymptomatig gynhyrchu canlyniadau negatif ffug ac felly nid yw'n cael ei argymell.

I'r rhai sydd wedi cael eu cynghori i hunanynysu gan eu bod wedi dod i gysylltiad agos â rhywun sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws, nid yw'n ofynnol i aelodau o’u teulu hunanynysu. Fodd bynnag, dylent ddilyn y canllawiau cadw pellter cymdeithasol cyffredinol ac osgoi dod i gysylltiad â'r unigolyn sy'n ynysu gartref.

Yn dilyn y cysylltiad cychwynnol â gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru, bydd cysylltiad a gadarnhawyd yn cael gwiriadau dyddiol gan swyddog olrhain cysylltiadau. Nid bwriad y gwiriadau dyddiol yw cadw gwyliadwraeth na gorfodi, ond yn hytrach gofalu am iechyd yr unigolyn a rhoi cymorth. Mae'r gwiriadau dyddiol yn cynnwys cyngor ar symptomau’r coronafeirws a sut i gael prawf os oes angen.

Gellir defnyddio gwasanaeth negeseuon testun ar gyfer y gwiriad dyddiol. Bydd y gwiriadau dyddiol yn para am 14 diwrnod.

Bydd y negeseuon testun dyddiol yn cael eu hanfon o 07775 106684 gan gynnwys y teitl NHSWALESTTP (Saesneg) neu GIGCYMRUPOD (Cymraeg). Byddwch yn cael galwad ddyddiol gan swyddog olrhain cysylltiadau o’r rhif hwn: 02921 961133.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Olrhain cysylltiadau: eich cwestiynau

Cymorth gyda hunanynysu

Mae gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru yno i gefnogi'r rhai sydd wedi cael canlyniad positif ar gyfer y coronafeirws, a'u cysylltiadau agos, trwy'r broses. Mae hyn yn arbennig o wir os ydynt yn agored i niwed neu os oes ganddynt bryderon ynghylch hunanynysu. Mae strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu Llywodraeth Cymru yn nodi;

Bydd y rhan fwyaf o bobl yn gallu hunanynysu heb gymorth ychwanegol neu gyda chymorth teulu a ffrindiau. Ond bydd angen i rai pobl gael cymorth gyda’u siopa, mynediad i fwyd ar frys, casglu meddyginiaeth a mathau eraill o gymorth a chyngor. Mae gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru yno i’ch helpu chi drwy’r broses hunanynysu, yn enwedig os ydych chi’n agored i niwed neu os oes gennych chi unrhyw bryderon. Bydd y swyddog olrhain cysylltiadau’n gofyn ichi a ydych chi angen unrhyw gymorth yn ystod eich cyfnod hunanynysu a bydd yn eich cyfeirio at eich awdurdod lleol a fydd yn cydlynu’r cymorth yr ydych ei angen, gan ddefnyddio’r gwasanaethau y maent eisoes wedi bod yn eu darparu i bobl agored i niwed sy’n gwarchod eu hunain, neu ddim yn gwarchod eu hunain yn ystod y cyfyngiadau symud.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Profi, Olrhain, Diogelu: eich cwestiynau.

Ap COVID-19 y GIG

Mae ap COVID-19 y GIG hefyd yn rhan ganolog o strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru. Gellir defnyddio'r ap i weld y lefel risg bresennol mewn ardaloedd cod post penodol. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i ap COVID-19 y GIG.


Erthygl gan Sarah Hatherley, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru