llun o mawndiroedd

llun o mawndiroedd

Pwysigrwydd mawndiroedd Cymru a'r gwaith o’u gwarchod

Cyhoeddwyd 13/12/2023   |   Amser darllen munud

Mae’r erthygl wadd hon yn egluro pam y dylai pobl Cymru ofalu am eu mawndiroedd, y mesurau sy’n cael eu cymryd i’w gwarchod, a’r heriau a’r cyfleoedd sy’n ein hwynebu.

Dr Victoria Jenkins, Athro Cyswllt, Ysgol y Gyfraith HRC, Prifysgol Abertawe a Dr Jonathan Walker, Uwch Swyddog Ymchwil, Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, Prifysgol Abertawe yw’r awduron. Mae Victoria a Jon wedi cael cymrodoriaeth gan Ymchwil ac Arloesi yn y DU i ymchwilio i faterion yn ymwneud â mawndiroedd ac maent wedi cyhoeddi eu gwaith ar yr heriau a’r cyfleoedd yng nghyd-destun mawndiroedd Cymru.

Barn yr awduron a geir yma, nid barn Ymchwil y Senedd.

Pam mae mawndiroedd Cymru yn bwysig?

Mae mawndiroedd yn gorchuddio 4% o arwynebedd tir Cymru neu tua 90,000 hectar. Gellir mwynhau mawndiroedd drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden a gweithgareddau addysgol yn y gwarchodfeydd natur ar yr iseldir, neu drwy gerdded yng ‘ngwylltir' yr ucheldiroedd. Mae mawndiroedd hefyd yn arwyddocaol i ddiwylliant Cymru ac maent wedi bod yn ysbrydoliaeth ar gyfer straeon a chaneuon, llwybrau teithio, ac enwau lleoedd.

Mae pridd mawn yn gyfoethog o ran carbon ac mae’n storfa garbon bwysig, sydd, os yw mewn cyflwr da, yn gallu dal a storio carbon deuocsid o'r atmosffer. Fodd bynnag, os caiff ei ddiraddio neu ei losgi mewn tanau gwyllt, bydd mawn yn rhyddhau nwyon tŷ gwydr. Felly, mae rheoli ac adfer mawndiroedd yn gynaliadwy yn rhan bwysig o’r ymdrechion i gyrraedd targed Sero Net Cymru erbyn 2050.

Mae cynefinoedd mawndir hefyd yn cynnal casgliadau unigryw a phrin o anifeiliaid a phlanhigion gan gynnwys rhai o'n rhywogaethau prinnaf, fel glöyn byw Britheg y Gors. Mae mawndiroedd yn aml i’w cael ar ben uchaf dalgylchoedd afonydd ac mae ganddynt ran bwysig yn y broses o wella cyflwr a gweithrediad afonydd, gan gyfrannu at ansawdd dŵr, cyflenwadau dŵr yfed ac atal llifogydd. Felly, mae rheoli mawndiroedd yn gynaliadwy yn bwysig i helpu i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru i sicrhau bod 30% o dir, dŵr croyw a môr Cymru yn cael ei ddiogelu ar gyfer byd natur erbyn 2030.

Yn anffodus, nid yw’r rhan fwyaf o'n mawndiroedd mewn cyflwr 'gwlyb' a 'chorsiog' da sy'n arwydd o fawndir iach. Mae’r gwaith o adfer mawndiroedd, drwy brosesau fel 'ailwlychu' yn ddull cymharol rad o sicrhau a gwella’r buddion amrywiol y mae mawndiroedd yn eu cynnig i’n cymdeithas.

Beth rydym ni’n ei wneud yng Nghymru i warchod ein mawndiroedd?

Yn 2020, penderfynodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), a ariannwyd gan Lywodraeth flaenorol Cymru, i gyflwyno Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd yn ystod y cyfnod 2020-2025. Yr uchelgais yw sicrhau bod pob mawndir â llystyfiant lled-naturiol yn destun rheolaeth/adferiad ffafriol ac adfer o leiaf 25% o'r ardaloedd mawndir a addaswyd fwyaf.

Un o’r camau cyntaf yn y cynllun gweithredu hwn oedd i CNC fapio mawndiroedd ledled Cymru i helpu i nodi’r ardaloedd mawndir i’w hadfer. Gwaith arall sydd ar y gweill ar hyn o bryd yw gwella dealltwriaeth o'r technegau gorau i’w defnyddio i adfer mawn a chefnogi pobl a sefydliadau sydd am fod ynghlwm wrth y gwaith.

Mae’r gymuned wyddonol yng Nghymru yn gwneud cynnydd da o ran datblygu sylfaen dystiolaeth ddibynadwy a chadarn ar gyfer mawndiroedd, er bod bylchau pwysig o hyd. Er enghraifft, nid oes cytundeb ar sut i fesur cyfraniad mawndiroedd at dargedau Sero Net.

Mae’r gyfraith a’r polisïau ym maes newid hinsawdd ac adfer byd natur hefyd yn hyrwyddo dulliau o reoli mawndiroedd yn gynaliadwy. Er enghraifft, mae adfer mawndiroedd yn cael ei gynnwys fel mesur allweddol ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yn Strategaeth Carbon Isel Cymru. Mae gwarchod mawndiroedd hefyd yn un o'r prif resymau dros ddynodi'r 169 o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) yng Nghymru i warchod byd natur.

Pa heriau a chyfleoedd sydd o'n blaenau?

Mae Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU yn dweud bod angen i Gymru gynyddu ei thargedau ar gyfer adfer mawn. Er mwyn gwneud hynny mae angen dealltwriaeth well o'r heriau sy’n ein hwynebu. Mae llawer o’r rhain yn ymwneud â phroblemau defnydd tir sy'n cystadlu â'i gilydd. Mae hyn yn cynnwys: plannu coed i gyrraedd targedau Sero Net, sefydlu gosodiadau ynni adnewyddadwy newydd, fel ffermydd gwynt, a dwysáu gweithgareddau ffermio fel pori. Gall defnyddio tir at y dibenion hyn fod yn niweidiol i gynefinoedd mawndir.

Y ffordd ymlaen

Mae’r camau sy’n cael eu cymryd ar hyn o bryd yng nghyd-destun mawndiroedd yng Nghymru yn canolbwyntio ar adfer yr ardaloedd mawndir hawsaf i’w hadennill. Mae angen cynyddu'r gwaith hwn, ochr yn ochr â’r dulliau cynaliadwy o reoli mawndiroedd mwy bas sydd â llai o fawn. Mae ymchwil a gynhaliwyd yn ddiweddar yn awgrymu y gellid hwyluso hyn drwy annog sefydliadau ledled Cymru, fel awdurdodau lleol, sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector, i weithio’n fwy cydgysylltiedig. Gallai mwy o gydweithio helpu i gefnogi ceisiadau am gyllid i adfer mawn a datblygu gwaith ymchwil i’r ffordd y mae mawndiroedd yn gweithredu.

Byddai’n haws datblygu dulliau rheoli mawndiroedd cynaliadwy yn ehangach pe bai Llywodraeth Cymru yn datblygu canllawiau polisi cliriach ynghylch arwyddocâd hyn i’r gwaith o adfer byd natur ac amcanion newid hinsawdd. Gwnaed cynnydd sylweddol pan ddiweddarwyd y polisi cynllunio defnydd tir i fynd i’r afael â’r argyfwng natur. Mae’n tynnu sylw at y modd y gall mawndiroedd gyfrannu at rwydweithiau ecolegol cryf. Fodd bynnag, nid yw cymhlethdodau’r rhyngweithio rhwng mawndiroedd, plannu coed, ynni adnewyddadwy ac amaethyddiaeth eto’n glir ym mhob un o ddogfennau polisi Cymru.

Mae fframweithiau cyfreithiol presennol hefyd yn creu rhai rhwystrau rhag datblygu dulliau cynaliadwy o reoli mawndiroedd. Er enghraifft, mae cyfraith cynefinoedd yn canolbwyntio ar warchod rhywogaethau sydd mewn perygl a chynefinoedd bregus ond naturiol. Gallai diwygio’r fframweithiau cyfreithiol hyn i’w gwneud yn haws dynodi safleoedd at ddibenion adfer neu, yn wir, i ddynodi eu harwyddocâd o safbwynt cydnerthedd ecolegol ehangach, helpu i hwyluso dulliau cynaliadwy o reoli mawndiroedd.

Mae’n bosibl y bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy arfaethedig, a gaiff ei gyflwyno o dan Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023, yn gwella dulliau cynaliadwy o reoli mawndiroedd. Fodd bynnag, bydd arwyddocâd y cynllun yn dibynnu ar y rheolau manwl, sydd i'w cyhoeddi'n fuan.


Erthygl gan Dr Victoria Jenkins, Ysgol y Gyfraith HRC, Prifysgol Abertawe a Dr Jonathan Walker, Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, Prifysgol Abertawe