Mae is-ddeddfwriaeth yn rheoli rhan helaeth o’n bywyd bob dydd. Gall gwallau arwain at gyfreithiau sy’n aneffeithiol neu anghyson, gyda chanlyniadau yn y byd go iawn i fusnesau a dinasyddion.
Yn ei Adroddiad Blynyddol 2022/23, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2023, mynegodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (‘y Pwyllgor’) bryder ynghylch y ffaith bod “nifer fawr o wallau yn parhau i fod yn is-ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru”, yn ogystal ag amseroldeb gwneud cywiriadau a’r broses ar gyfer hynny.
Mae’r erthygl hon yn ymdrin â mynychder gwallau yn is-ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru, craffu arnynt a’u cywiro.
Beth yw is-ddeddfwriaeth?
Mae deddfwriaeth sylfaenol (Deddfau’r Senedd neu Ddeddfau Senedd y DU) yn aml yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru i wneud is-ddeddfwriaeth. Gall hyn gynnwys rheoliadau neu orchmynion. Yn gyffredinol, gadewir i is-ddeddfwriaeth fanylu ynghylch sut y bydd deddfau'n gweithredu.
Er enghraifft, yn ystod Pandemig COVID-19, defnyddiodd Gweinidogion Cymru bwerau amrywiol o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 i wneud rheoliadau. Cafodd y rheoliadau hyn effeithiau sylweddol ar fywydau pobl, er enghraifft trwy gyflwyno gofynion i rywun sy’n cael prawf positif am y coronafeirws ynysu ei hun.
Yn fwy diweddar, mae Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024 wedi rhoi pwerau i Weinidogion Cymru osod “targedau hirdymor mewn cysylltiad ag unrhyw fater sy’n ymwneud ag ansawdd aer yng Nghymru”. Ond rheoliadau a fydd yn nodi manylion y targedau hynny, y lefelau a'r amserlenni ar gyfer eu cyrraedd.
Beth yw rôl y Senedd?
Mae gwahanol fathau o is-ddeddfwriaeth yn gallu cael eu gwneud ac mae rôl y Senedd yn amrywio yn dibynnu ar y math o is-ddeddfwriaeth sydd dan sylw. Gallwch ddysgu mwy am y mathau o is-ddeddfwriaeth a rôl y Senedd ar dudalennau deddfwriaeth y Senedd.
Mae’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn chwarae rôl arbennig yn hyn o beth. Mae’n gyfrifol am graffu ac adrodd ar bob darn o is-ddeddfwriaeth, fel y nodir yn y Rheolau Sefydlog (y rheolau ar gyfer cynnal busnes yn y Senedd). Mae'r Pwyllgor yn cyhoeddi adroddiadau ar bob darn ac mae’n gallu codi pwyntiau technegol a phwyntiau rhinweddau. Esbonnir y rhain isod.
Mae Rheol Sefydlog 21.2 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar faterion a allai effeithio ar gyfreithlondeb deddfwriaeth - yr enw am hyn yw pwyntiau adrodd technegol.
Er enghraifft, gallai'r rhain ymwneud ag anghysondebau yn nhestunau Cymraeg a Saesneg y ddeddfwriaeth.
Mae Rheol Sefydlog 21.3 yn caniatáu i’r Pwyllgor gyflwyno adroddiadau ar faterion eraill a allai fod o ddiddordeb i’r Senedd, megis a yw’r ddeddfwriaeth yn cyflawni ei nodau polisi - yr enw am hyn yw pwyntiau adrodd o ran rhinweddau.
Er enghraifft, gallai’r rhain ymwneud â phwyntiau am lefel yr ymgynghori gan Lywodraeth Cymru ar reoliadau.
Pa faterion sydd wedi codi?
Mewn gwaith craffu diweddar, cododd y Pwyllgor y broblem gyson o wallau mewn is-ddeddfwriaeth a wneir gan Lywodraeth Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys anghysondebau o fewn testunau, diffiniadau aneglur, cyfeiriadau anghywir a gwallau teipograffyddol. Mae'r enghreifftiau isod yn rhoi darlun o rai o'r gwallau a godwyd a'r problemau posibl mae’r gwallau hyn yn gallu eu hachosi os nad ydynt yn cael eu cywiro.
Ym mis Mehefin 2023, gwnaeth Llywodraeth Cymru osod rheoliadau wedi'u diweddaru yn ymwneud â chasglu data ar becynnu a gyflenwir gan gynhyrchwyr. Gwnaeth hynny ar ôl iddi dynnu yn ôl dau o reoliadau drafft a fyddai wedi cynnwys 31 o bwyntiau adrodd technegol,
Mewn un pwynt adrodd technegol yn adroddiad y Pwyllgor ar y rheoliadau, nodwyd bod y gair “data” ar goll o’r cyfieithiad Cymraeg o’r geiriad “cyfnod casglu data”. Roedd hyn yn golygu bod y gyfraith yn Gymraeg yn wahanol i'r gyfraith yn Saesneg.
Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2023 i dri gwall gael eu cywiro, gan gynnwys yr un y cyfeiriwyd ato.
Ym mis Tachwedd 2022, gwnaeth Llywodraeth Cymru osod rheoliadau drafft yn ymwneud â mewnforio anifeiliaid byw a chynhyrchion anifeiliaid.
Mae adroddiad y Pwyllgor yn nodi 27 o bwyntiau adrodd technegol, 5 ohonynt yn ymwneud â drafftio diffygiol. Cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar y rheoliadau, mynegodd y Pwyllgor bryder am y gwallau. Ysgrifennodd Huw Irranca-Davies AS, y Cadeirydd, at y Gweinidogion perthnasol, yn datgan y gallai’r rheoliadau “leihau effeithiolrwydd a hygyrchedd y gyfraith a’r gallu i’w gweithredu”.
Er enghraifft, nododd un pwynt adrodd technegol fod y rheoliadau yn cyfeirio at yr “awdurdod priodol”, ond nid ydynt yn cynnwys diffiniad ar gyfer y term hwn. Gallai hyn ei gwneud yn anodd i ddarllenydd ddeall ar bwy y gosodwyd y cyfrifoldebau hyn, a gallai o bosibl gadael y broses o arfer pwerau yn agored i her gyfreithiol.
Dywedodd Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, nad yw’r gwallau a nodwyd gan y Pwyllgor “yn cael effaith sylweddol ar weithrediad y rheoliadau”, a gofynnodd i’r Senedd gymeradwyo’r rheoliadau. Nododd y byddai’r pwerau yn y Rheoliadau i alluogi pwerau gweinyddol a deddfwriaethol newydd i Weinidogion Cymru fel arall yn cael eu colli, oherwydd y ffaith bod pŵer galluogi yn Neddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 i fod i gael ei ddiffodd ar 31 Rhagfyr 2022.
Mynegodd y Cadeirydd bryder ynghylch y broses graffu gyflym, a daeth i'r casgliad a ganlyn: “Gofynnir i'r Senedd basio offeryn diffygiol, ac o safbwynt fy mhwyllgor i, mae hynny'n rhyfedd”.
Ymrwymodd Llywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2023 i gyflwyno deddfwriaeth ddiwygio i unioni dau bwynt a nodwyd, yn ogystal ag ymdrin â phwyntiau craffu llai “wrth wneud y Rheoliadau a’u cyhoeddi”.
Yn sgil hynny, pleidleisiodd y Senedd i gymeradwyo y Rheoliadau.
Ar adeg ysgrifennu'r erthygl hon, nid yw'n glir a yw’r cywiriadau angenrheidiol wedi cael eu gwneud ai peidio.
Ym mis Ionawr 2024, gwnaeth Llywodraeth Cymru’r gorchymyn hwn i ddiwygio pensiwn diffoddwyr tân a’u cymhwystra ar gyfer eu digolledu.
Gwnaeth un pwynt adrodd technegol dynnu sylw at y ffaith bod y testunau Saesneg a Chymraeg yn gwrth-ddweud ei gilydd ym mharagraff 6(3) o Atolden 1 oherwydd ystyron croes. O dan y gyfraith yng Nghymru, mae gan y testunau Cymraeg a Saesneg o ddeddfwriaeth statws cyfartal, ond gallai gwall o’r fath orfodi’r sawl sy’n darllen y testun Cymraeg droi at y testun Saesneg am eglurhad.
Dywedodd Llywodraeth Cymru yn y lle cyntaf y byddai’r testun Cymraeg yn cael ei “ddiwygio fel sy’n briodol pan fo’r cyfle nesaf yn codi”. Ym mis Chwefror, dywedodd y byddai offeryn diwygio yn cael ei gyflwyno o fewn “yr 8 i 10 wythnos nesaf”.
Sut caiff is-ddeddfwriaeth ei chywiro?
Fel arfer, mae dwy ffordd o gywiro is-ddeddfwriaeth. Cyflwyno deddfwriaeth newydd: Gall llywodraeth dynnu deddfwriaeth ddrafft ddiffygiol yn ôl a chyflwyno drafft newydd ohoni yn ei lle. Ar ôl i ddeddfwriaeth gael ei phasio, gall y llywodraeth gyflwyno deddfwriaeth ddiwygio i gywiro gwallau. Slip cywiro: Yn gyffredinol, mae slipiau yn cael eu defnyddio i gywiro gwallau teipograffyddol, yn hytrach nag anghywirdebau ffeithiol. Maent yn cyd-fynd â'r ddeddfwriaeth berthnasol ar-lein, mewn PDF ac mewn print. |
Ym mis Chwefror 2024, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol y byddai slipiau cywiro yn cael eu defnyddio ar gyfer gwallau sy’n fân, technegol, a dibwys, a byddai deddfwriaeth ddiwygio yn cael ei defnyddio lle mae gwall mwy sylweddol. Fodd bynnag, ym mis Ionawr, fe nododd Cadeirydd y Pwyllgor enghraifft o Weinidog yn ceisio defnyddio slipiau cywiro ar gyfer cywiriadau mwy sylweddol.
Ar ôl i gywiriad gael ei wneud
Yn ddiweddar mynegodd Cadeirydd y Pwyllgor bryder ynghylch eglurder a thryloywder y wybodaeth sy’n dod yn ôl i’r Senedd ar ôl i gywiriadau gael eu gwneud, ac ynghylch yr amser a gymerir i wneud cywiriadau.
Ym mis Mawrth 2024, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol, o hyn allan, y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu tabl sy’n nodi cywiriadau sydd i'w gwneud “cyn i offerynnau cadarnhaol drafft gael eu gwneud”. Dywedodd hefyd y bydd Llywodraeth Cymru yn hysbysu'r Senedd o gywiriadau yn ystod dadleuon perthnasol.
Mae gwaith olrhain gwallau mewn is-ddeddfwriaeth ac adrodd arnynt yn parhau i fod yn flaenllaw ar agenda'r Pwyllgor.
Erthygl gan Adam Cooke, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru