TBC

TBC

Pwyllgor yn galw am ‘gymorth ar unwaith’ i helpu canolfannau hamdden a llyfrgelloedd

Cyhoeddwyd 16/10/2023   |   Amser darllen munud

Gyda gwasanaethau cyhoeddus lleol dan bwysau a’r galw ar wasanaethau statudol craidd, yn enwedig addysg a gofal cymdeithasol, yn llyncu mwy a mwy o adnoddau, pa ddyfodol sydd i wasanaethau hamdden a llyfrgelloedd awdurdodau lleol? Dyna'r cwestiwn y gofynnodd Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y Senedd yn gynharach eleni.

Clywodd y Pwyllgor yn uniongyrchol am yr effaith sylweddol ar gymunedau pan mae'r gwasanaethau hyn yn cael eu lleihau neu eu tynnu'n ôl yn gyfan gwbl, ac yn ôl un rhanddeiliad, mae hyn yn fygythiad gwirioneddol i iechyd a llesiant ein cymunedau.

Mae adroddiad y Pwyllgor yn galw am ‘gymorth ar unwaith’ i helpu canolfannau hamdden a llyfrgelloedd i lywio’r argyfwng presennol, ond hefyd am strategaeth hirdymor i sicrhau eu cynaliadwyedd yn y dyfodol. Fodd bynnag, gyda chyllidebau'n debygol o gael eu hymestyn ymhellach dros y blynyddoedd i ddod, mae'n anochel y bydd darpariaeth gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd awdurdodau lleol yn newid.

Mae llyfrgelloedd yn brwydro ymlaen heb strategaeth glir ar gyfer y dyfodol

Mae'r fframwaith statudol presennol yn darparu rhywfaint o amddiffyniad cyfyngedig i lyfrgelloedd cyhoeddus, gan osod dyletswyddau ar awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaeth llyfrgell ‘cynhwysfawr ac effeithlon’. Ond dywedodd y rhai sy'n gweithio yn y sector wrth y Pwyllgor fod darpariaethau yn Neddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964 wedi methu ag atal erydiad cyllid neu yn wir, atal llyfrgelloedd rhag cau.

Cydnabu’r Pwyllgor fod gwasanaeth llyfrgelloedd heddiw yn wahanol iawn i’r hyn yr oedd ym 1964 pan basiwyd y Ddeddf, a phwysleisiodd rinweddau archwilio ffyrdd o gryfhau deddfwriaeth i amddiffyn llyfrgelloedd rhag cau. Wrth ymateb i adroddiad y Pwyllgor, ni wnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymo i adolygiad llawn o’r darpariaethau yn y Ddeddf a sut maent yn berthnasol i wasanaethau llyfrgell heddiw. Fodd bynnag, cytunodd i archwilio argymhelliad y Pwyllgor ymhellach.

Yn ogystal â rhai amddiffyniadau statudol ar gyfer llyfrgelloedd, mae fframwaith polisi sydd wedi'i hen sefydlu i'w gefnogi hefyd. Mae Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru yn nodi disgwyliadau Llywodraeth Cymru o ran darpariaeth llyfrgell awdurdodau lleol. Teimlai Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen fod y Safonau wedi darparu fframwaith lle gall awdurdodau lleol gael eu mesur ar eu hymdrechion ac ar eu bwriadau o ran gwasanaethau llyfrgell, gan warchod a gwella gwasanaethau llyfrgell yn y broses.

Fodd bynnag, mae’r sector wrthi’n gweithio i set o Safonau sydd wedi dyddio, a ddiweddarwyd ddiwethaf yn 2017. Dywedodd CILIP Cymru wrth y Pwyllgor fod llyfrgelloedd yn brwydro ymlaen ar hyn o bryd, tra dywedodd cynrychiolwyr llywodraeth leol fod “diffyg strategaeth glir” ar lefel Llywodraeth Cymru. Galwodd y Pwyllgor am i waith ar y Safonau newydd fynd rhagddo fel mater o frys.

Ymatebodd Llywodraeth Cymru gan nodi:

Mae'r gwaith ar 7fed Fframwaith Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru ar fin dechrau, a bydd yn cael ei weithredu o 1 Ebrill 2025 ymlaen.

Byddai cyllid canlyniadol yn achubiaeth i’r sector hamdden

Yn wahanol i ddarpariaeth llyfrgell, nid oes fframwaith statudol na pholisi ar gyfer gwasanaethau hamdden cyhoeddus yng Nghymru. Mae’r rhain yn eu gwir ystyr yn 'ddewisol'. O'r herwydd, mae gwasanaethau hamdden cyhoeddus wedi gweld y trawsnewid mwyaf dros y degawd diwethaf, gyda chynghorau'n edrych yn gynyddol i roi gwasanaethau hamdden ar gontract allanol i 'ymddiriedolaethau hamdden'. Mae rhagor o wybodaeth gefndir am ymddiriedolaethau ar gael mewn erthygl a gyhoeddwyd gennym yn gynharach eleni.

Cafwyd rhai galwadau petrusgar gan randdeiliaid i ystyried opsiynau ar gyfer deddfu i ddiogelu gwasanaethau hamdden. Er, yn gyffredinol, yr oedd yn cael ei ystyried fel ‘ymateb cryf‘ i gwrdd â’r heriau yn y sector; roedd y rhan fwyaf o randdeiliaid yn glir mai cyllid yw’r ffactor allweddol. Nododd UNSAIN Cymru:

if councils had sufficient funding… we wouldn't be necessarily looking to see whether we need to legislate to bring councils into order around this.

Yn wir, roedd cynrychiolwyr awdurdodau lleol yn ddiamwys bod cyllid a strategaeth hirdymor i wella’r ystad hamdden, yn hytrach na deddfwriaeth, yn allweddol i’w chynaliadwyedd yn y dyfodol. Dyma farn a rennir gan y Pwyllgor. Ymhlith ei argymhellion, galwodd y Pwyllgor ar Lywodraeth Cymru i ddyrannu £3.5 miliwn mewn cyllid canlyniadol o ganlyniad i gronfa Llywodraeth y DU yn Lloegr i gefnogi pyllau nofio. Er bod y swm hwn yn fach, byddai’n achubiaeth i’r sector hamdden yn ôl Nofio Cymru.

Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod yr alwad hon gan y Pwyllgor, gan nodi:

Un o egwyddorion pwysig datganoli yw nad yw cyllid canlyniadol yn cael ei glustnodi at ddibenion tebyg yn y llywodraethau datganoledig. Wrth i Weinidogion Cymru wneud penderfyniadau cyllido yn unol ag amgylchiadau a blaenoriaethau Cymru, maent yn asesu ac yn ystyried ymhle y caiff y cyllid yr effaith fwyaf.

Ychwanegodd fod Chwaraeon Cymru wedi derbyn £16 miliwn o gyllid cyfalaf am y ddwy flynedd nesaf i uwchraddio cyfleusterau chwaraeon, gan gynnwys pyllau nofio, gyda mesurau arbed ynni.

Mesur gwerth cymdeithasol gwasanaethau llyfrgell a hamdden

Roedd y dystiolaeth a gafodd y Pwyllgor yn glir y gallai colli cyfleusterau lleol gael effaith andwyol, nid yn unig ar ddefnyddwyr unigol, ond ar yr amrywiaeth eang o grwpiau defnyddwyr yn y gymuned. Gellir hefyd ystyried gwasanaethau hamdden a llyfrgell lleol yn fesurau ataliol allweddol a buddsoddiad ar gyfer iechyd a gofal.

Un o’r materion a ddaeth i’r amlwg o dystiolaeth rhanddeiliaid yw nad yw awdurdodau lleol yn rhoi digon o bwyslais ar werth cymdeithasol wrth benderfynu ar y ffordd orau o ddarparu gwasanaethau hamdden a llyfrgell. Galwodd y Pwyllgor ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda llywodraeth leol i ystyried pa ganlyniadau gwerth cymdeithasol y maent am eu cyflawni o’r gwasanaethau hyn. Byddai hyn yn hwyluso gwell dealltwriaeth o’r gwerth cymdeithasol yn sgil buddsoddiad awdurdodau lleol yn y gwasanaethau hynny, ac yn eu galluogi i ddylunio a darparu gwasanaethau yn unol â hynny.

Er mwyn i hyn ddigwydd, mae angen data gwerth cymdeithasol cyfredol a chadarn sy'n benodol i Gymru. Derbyniodd Llywodraeth Cymru gynsail argymhelliad y Pwyllgor, gan nodi bod buddsoddi mewn gwaith ymchwil yn thema yn y Strategaeth Ddiwylliant ddrafft sydd heb ei chyhoeddi hyd yma. Dywedodd hefyd fod:

mwy o awydd gan y Sector Llyfrgelloedd a’r sectorau diwylliannol eraill i gasglu tystiolaeth am werth cymdeithasol a’r adenillion a geir o fuddsoddi. Ar gyfer llyfrgelloedd, bydd hyn yn cael ei ystyried gyda datblygiad y seithfed Fframwaith.

Y dyfodol

Mae awdurdodau lleol yn cydnabod y gall “rôl ganolog” gwasanaethau hamdden a llyfrgell, ar adegau, gael ei “gydnabod yn wael” a’i “danbrisio” gan gynghorau a Llywodraeth Cymru. Mae gwasanaethau 'dewisol' yn anochel yn gweld y toriadau mwyaf mewn cyllid pan fo cyllidebau’n dynn, a chyda cynghorau yn wynebu pwysau ariannol pellach yn y dyfodol agos, bydd llawer o bobl yn gobeithio y bydd eu llyfrgell a’u canolfan hamdden leol yn cael eu diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Cynhelir dadl ar adroddiad y Pwyllgor yn y Senedd ddydd Mercher 18 Hydref. Gallwch wylio'r ddadl yn fyw ar Senedd TV.


Erthygl gan Osian Bowyer, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru