Pwyllgor yn cymeradwyo “camau cadarnhaol” Cyfoeth Naturiol Cymru

Cyhoeddwyd 03/10/2023   |   Amser darllen munud

Ers creu Cyfoeth Naturiol Cymru 10 mlynedd yn ôl, nid yw’r daith bob amser wedi bod yn hawdd. Y llynedd, canfu Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith “bryder eang” a “chryn ddadlau” wrth graffu ar waith y Corff mwyaf a Noddir gan Lywodraeth Cymru.

Yn gynharach eleni, archwiliodd y Pwyllgor p’un a oedd ‘adolygiad sylfaenol’ wedi dod â rhywfaint o dawelwch yn dilyn “cyfnod anhrefnus”. Gofynnodd hefyd am ddiweddariad ar waith i fynd i’r afael â gollyngiadau carthion a gwaith ehangach ar ansawdd dŵr.

Mae’r Pwyllgor wedi canmol Cyfoeth Naturiol Cymru ar y cyfan am ei ymdrechion i fynd i’r afael â’i bryderon blaenorol. Mae’r erthygl hon yn edrych yn fanylach ar ganfyddiadau’r Pwyllgor, a sut y gwnaeth Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru ymateb.

A yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn gymwys i wneud ei waith?

Mae gallu Cyfoeth Naturiol Cymru i gyflawni ei swyddogaethau statudol gyda’r adnoddau a ddyrennir iddo wedi bod yn bryder i’r Pwyllgor, a’i ragflaenwyr, ers peth amser.

Bu ansicrwydd ynghylch a all Cyfoeth Naturiol Cymru arfer ei ddyletswyddau a’i gyfrifoldebau’n effeithiol oherwydd cyllideb sy’n lleihau ynghyd â chyfrifoldebau ychwanegol (sy’n creu ‘bwlch ariannu’ a drafodir isod), a materion parhaus ynghylch capasiti staffio.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ceisio mynd i’r afael â’r pryderon hyn drwy adolygiad sylfaenol, a ddefnyddiwyd i ddatblygu Cytundebau Lefel Gwasanaeth ar gyfer meysydd allweddol, megis Rheoli Perygl Llifogydd. Mae’r Cytundebau Lefel Gwasanaeth hyn yn diffinio lefel y gwasanaeth y gall Cyfoeth Naturiol Cymru ei ddarparu am yr arian a ddyrennir gan Lywodraeth Cymru. Eglurodd Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd, y bydd y Cytundebau Lefel Gwasanaeth yn rhoi ‘dewislen’ o alluoedd Cyfoeth Naturiol Cymru:

So, we can have this level of service for this much money and this level of service for this. So, we've got a much better understanding between us of what can be delivered for how much money and how that can be calibrated.

Bydd y Cytundebau hyn, ynghyd â llythyr cylch gwaith tymor y llywodraeth, yn sail i gynllun busnes a chyllideb Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae'r Pwyllgor wedi cymeradwyo’r gwaith o ddatblygu’r Cytundebau hyn fel cam cadarnhaol tuag at fynd i’r afael â’i bryderon.

Cau’r bwlch ariannu

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael cyllid craidd ar gyfer ei swyddogaethau sylfaenol, a chyllid grant ychwanegol ar gyfer prosiectau y tu hwnt i’r swyddogaethau hynny. Mae dyraniadau cyllideb (cyllid craidd) i Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau’n ddigyfnewid yng nghyllideb 2023/24. Dyma lle y canfu ‘bwlch ariannu’.

Ysgrifennodd y Gweinidog at y Pwyllgor ym mis Ebrill gyda diweddariad ar gau’r bwlch ariannu hwn “yn barhaol”. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cael £18.2m pellach o gyllid i dynnu i lawr arno yn 2023-24. Dywedodd y Gweinidog ei bod hi’n bwriadu cynnwys y £18.2m hwn yn nyraniad cyllideb graidd Cyfoeth Naturiol Cymru fel rhan o ymarfer cyllideb ddrafft 2024-25. Dywed y Pwyllgor ei bod yn:

… falch, ar ôl cyfnod hir o ansefydlogrwydd ariannol, ei bod yn ymddangos y gallai trefniadau ariannu CNC fod yn symud i sefyllfa fwy sefydlog o’r diwedd.

Adennill costau gwasanaethau rheoleiddio yn llawn

Lle mae cyfrifoldebau rheoleiddio Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael eu hariannu gan daliadau a godir ar y rhai y mae’n eu rheoleiddio, mae’n ofynnol iddo adennill costau ei wasanaethau’n llawn.

Fodd bynnag, roedd Adolygiad Strategol o Godi Tâl yn dangos tangyflawniad ar draws y rhan fwyaf o drefniadau. Arweiniodd hyn at ddiffyg blynyddol o £3m o ran cyflawni gweithgareddau trwyddedu gan mai dim ond 24% o'r costau sy'n cael eu hadennill. Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru fod y diffyg hwn yn cael ei gyflawni “drwy leihau ein gwasanaeth mewn meysydd eraill o'n gwaith” ond “nid yw hyn yn ddigon i gydbwyso costau llawn y cyflawni”. Gan nad oedd y taliadau bellach yn adlewyrchu costau llawn darparu'r gwasanaethau, cafodd arian trethdalwyr ei ddefnyddio i sybsideiddio'r gweithgarwch.

Mewn ymateb, ym mis Gorffennaf eleni cyflwynodd Cyfoeth Naturiol Cymru daliadau am geisiadau ar gyfer trwyddedau newydd a diwygiedig, ar gyfer nifer o gynlluniau codi tâl:

  • trwyddedau rhywogaethau;
  • rheoleiddio diwydiant;
  • gwastraff ar safleoedd;
  • ansawdd dŵr;
  • adnoddau dŵr;
  • cydymffurfiaeth cronfeydd dŵr.

Mynegodd NFU Cymru bryder ynghylch y taliadau newydd. Er y cydnabyddir bod pwysau costau byw yn golygu ei bod yn gyfnod heriol i godi costau, roedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i adennill costau llawn. Roedd yn amlygu bod y taliadau'n berthnasol i geisiadau am drwyddedau newydd yn unig a'u bod yn rhai untro, ac nid yn dâl trwydded blynyddol.

Er bod y Pwyllgor yn cytuno ag adennill costau llawn mewn egwyddor, dywedodd fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystyried effaith y gost ar ymgeiswyr unigol.

Diweddariad ar ansawdd dŵr a gollyngiadau carthffosiaeth

Yn dilyn ei waith ar ansawdd dŵr a gollyngiadau carthion yn 2022, aeth y Pwyllgor ati i wneud gwaith dilynol ar yr argymhellion a wnaeth i Cyfoeth Naturiol Cymru, gan gynnwys bod yn rhaid iddo ddangos “cynnydd amlwg” ar waith i ddod â gorlifoedd stormydd ‘nas caniateir’ o fewn y drefn reoleiddio. Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru wrth y Pwyllgor ei fod yn diweddaru ei Ganllawiau Dosbarthu gorlifoedd stormydd (heb eu cyhoeddi eto), a’i fod yn parhau i gyhoeddi adroddiadau amgylcheddol blynyddol cwmnïau dŵr.

Yn ei adroddiad amgylcheddol diweddaraf, gwnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru israddio Dŵr Cymru “i sgôr o ddwy seren (angen gwelliant) ar ôl dirywiad pellach mewn perfformiad amgylcheddol”. Yn ogystal, nododd Adroddiad Perfformiad Cwmni Dŵr diweddar Ofwat fod Dŵr Cymru ‘ar ei hôl hi’, sy'n golygu y bydd yn rhaid i Dŵr Cymru ddychwelyd arian i gwsmeriaid drwy dorri eu biliau.

Gofynnodd y Pwyllgor hefyd am y wybodaeth ddiweddaraf am waith Tasglu Ansawdd Afonydd Gwell Cymru (cydweithrediad rhwng Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru, Hafren Dyfrdwy ac Ofwat, gyda chyngor annibynnol gan Afonydd Cymru a’r Cyngor Defnyddwyr Dŵr). Y llynedd datblygodd y tasglu gynlluniau gweithredu i gasglu tystiolaeth ar effaith gorlifoedd storm.

Mae angen i Cyfoeth Naturiol Cymru fynd i'r afael â nifer o gamau gweithredu yn y cynllun, gan gynnwys darparu adroddiad blynyddol ar berfformiad a rheoleiddio gorlifoedd storm. Cyhoeddwyd yr adroddiad data gollyngiadau gorlifoedd stormydd ar gyfer 2022 ym mis Awst 2023.

Fodd bynnag, mae’r prif gamau gweithredu ar gyfer y tasglu cyfan yn dal heb eu cyflawni. Roedd disgwyl i adroddiad Llywodraeth Cymru ar orlifoedd stormydd gael ei gyflwyno erbyn mis Mawrth 2023. Bydd yn defnyddio canlyniadau astudiaeth annibynnol (yr oedd disgwyl iddi gael ei chyhoeddi yn haf 2022) i osod targedau ar gyfer atal niwed ecolegol i afonydd, ond nid yw wedi cael ei chyhoeddi eto.

Beth nesaf?

Cynhelir dadl ar adroddiad y Pwyllgor yn y Senedd ddydd Mercher 4 Hydref. Gallwch wylio'r ddadl yn fyw ar Senedd TV.


Erthygl gan Lorna Scurlock, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru