Bu galwadau ers tro i'r Senedd wneud yn well o ran adlewyrchu amrywiaeth y bobl y mae'n eu cynrychioli. Clywodd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd fod amrywiaeth ymhlith y rhai sy’n cael eu hethol 'yn gwella’r ffordd y mae deddfwrfeydd yn gweithredu ac yn cynrychioli eu cymunedau'. Mae perygl y bydd diffyg cynrychiolaeth yn allgáu rhai lleisiau o wleidyddiaeth.
Bydd yr erthygl hon yn archwilio rhai o'r mesurau diweddaraf a gyflwynwyd i annog grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i sefyll i'w hethol i'r Senedd ac i gael gwared ar rwystrau y gallent eu hwynebu.
Pam mae cynrychiolaeth yn bwysig?
Yn eu gwaith ymchwil, canfu Sobolewska, McKee a Campbell fod deddfwrfeydd mwy amrywiol yn tueddu i gynhyrchu dadleuon polisi ehangach, mwy o ymatebolrwydd i etholwyr a lefelau uwch o hyder gan y cyhoedd mewn sefydliadau democrataidd.
Er y gall unrhyw Aelod etholedig o'r Senedd gynrychioli barn ei etholwyr, dywedodd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd ei fod wedi clywed dadleuon cryf am fanteision amrywiaeth ymhlith cynrychiolwyr etholedig. Clywodd y Pwyllgor bryderon hefyd bod diffyg cynrychiolaeth, yn ogystal â golygu llai o leisiau yn y Senedd, yn gallu cyfyngu ar yr ystod o brofiadau sy'n llywio polisïau sy'n effeithio ar holl bobl Cymru.
Pwy sydd heb gynrychiolaeth ddigonol?
Grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yw’r grwpiau hynny â nodweddion gwarchodedig nad ydynt yn cael eu cynrychioli'n debyg o'u cymharu â'r boblogaeth y mae’r corff yn ei gwasanaethu. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod “thema gyffredin o dangynrychiolaeth hanesyddol mewn gwleidyddiaeth yng Nghymru a’r DU o ran grwpiau penodol o bobl sy’n rhannu nodweddion neu amgylchiadau gwarchodedig penodol”.
Yn gyffredinol, mae gan y Senedd hanes cymharol gadarnhaol o ran cynrychiolaeth menywod a dyma oedd y senedd gyntaf yn y byd i gyflawni cydraddoldeb rhywedd yn 2003. Roedd 43% o'r Aelodau a etholwyd i'r Chweched Senedd yn fenywod. Nid yw hyn yn adlewyrchu poblogaeth Cymru, sydd wedi rhannu 50:50 yn fras. Argymhellodd y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad fesurau i 'ddiogelu'r cynnydd a wnaed gan y pleidiau yng Nghymru hyd yn hyn'.
Cafodd cynlluniau ar gyfer cwotâu yn etholiadau'r Senedd eu tynnu'n ôl yn 2024. Gwnaed hyn yn dilyn pryderon nad oedd gorfodi cydbwysedd rhywedd o fewn cymhwysedd y Senedd. Ceisiodd Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) gyflwyno dau fath o gwota. Roedd un yn canolbwyntio ar nifer a safle ymgeiswyr benywaidd ar restrau pleidiau gwleidyddol mewn etholaeth, a byddai'r llall wedi gofyn maii menyw oedd yr ymgeisydd cyntaf neu'r unig ymgeisydd ar o leiaf hanner rhestrau etholaeth plaid ledled Cymru. Nod y Bil oedd gwella cydbwysedd y Senedd rhwng y rhywiau.
Mae gan grwpiau eraill ddiffyg cynrychiolaeth yn y Senedd hefyd o’i gymharu â’u cyfran o’r boblogaeth. Ymhlith yr enghreifftiau mae:
Mae'r dimensiynau hyn yn aml yn dibynnu ar ddata sy’n cael eu hunan-adrodd. 'Mae gwybodaeth gyfyngedig ar gael am amrywiaeth Aelodau o'r Senedd', felly mae'n anodd gwybod yn llawn i ba raddau y mae'r grwpiau hyn wedi'u tangynrychioli, ond mae peth data ar gael, sy'n dangos bod cynrychiolaeth ar gyfer rhai grwpiau yn dal i fod ar ei hôl hi.
Rhwystrau presennol i ddod yn Aelod o'r Senedd
Yn ei adroddiad ym mis Mai 2025, tynnodd Pwyllgor Dyfodol y Senedd sylw at sawl maes sy'n peri ' rhwystrau cymdeithasol sylweddol i ddod yn ymgeisydd ar gyfer etholiad i’r Senedd'. Mae rhai o’r rhain yn cynnwys:
- Rhwystrau ariannol: gweithgaredd ymgyrchu di-dâl a chostau personol,
- Rhwystrau strwythuroldiffyg: rhwydweithiau neu adnoddau cyfredol,
- Rhwystrau cymdeithasol a diwylliannol: gwahaniaethu neu aflonyddu, lleoliadau cyfarfod anhygyrch, diffyg gwybodaeth am brosesau,
- Rhwystrau ymarferol: ymgyrchu yn anhygyrch i bobl anabl neu'r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu.
Tynnwyd sylw at y rhwystrau hyn hefyd gan y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd, ac mewn adroddiad a gomisiynwyd gan Fwrdd Taliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ..
Pa newidiadau sydd wedi'u gwneud ar gyfer 2026?
Canllawiau ar gyfer pleidiau gwleidyddol
Yn 2025, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau gwirfoddol i bleidiau gwleidyddol ar amrywiaeth a chynhwysiant. Mae'n annog pleidiau i 'ailystyried eu prosesau ar gyfer dethol a recriwtio ymgeiswyr er mwyn gwella cynrychiolaeth amrywiol'. Mae'n cynnig amrywiaeth o awgrymiadau ar gyfer pleidiau gwleidyddol, gan gynnwys y canlynol:
- dylent ddatblygu strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant sy'n creu newid diwylliannol hirdymor ac yn mynd i'r afael â materion systemig;
- dylent ystyried ffyrdd o gefnogi ymgeiswyr (yn ymarferol ac yn ariannol) i sicrhau bod dull y blaid o ddethol ymgeiswyr yn hygyrch ac yn gynhwysol ar bob cam; a
Cynlluniau ariannu
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adolygiad o rwystrau economaidd-gymdeithasol i gyfranogiad democrataidd yn 2025, a ganfu fod rhwystrau economaidd-gymdeithasol sylweddol i gyfranogiad, gan gynnig argymhellion ynghylch buddsoddi mewn ymgeiswyr yn ariannol a chynnig adnoddau.
Cronfa Mynediad i Swyddi Etholedig
Daeth y Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig Cymru yn ofyniad statudol yn Neddf Etholiadau a Chyrff Etholedig 2024 yn dilyn cynllun peilot. Mae'r gronfa'n cynnig cymorth ariannol i bobl anabl sydd eisiau sefyll mewn etholiad i ymdopi â’r costau ychwanegol sy'n rhwystr i'w cyfranogiad mewn gwleidyddiaeth. Gall y math o gymorth a gynigir gynnwys hyfforddiant, mentora, offer neu gymorth gyda thasgau.
Dywedodd adolygiad o'r cynllun peilot fod yr adborth yn hynod gadarnhaol ond pwysleisiodd fod y gronfa yn 'gam tuag at fynediad mwy cyfartal' a dylid ei gyfuno â phecyn o gymorth. Un o’r heriau mwyaf ar gyfer y cynllun yn ystod y cyfnod peilot oedd cyfleu i ymgeiswyr bod y gronfa ar gael.
Cynllun Grant Amrywiaeth Ymgeiswyr Etholiadol
Bydd y Cynllun Grant Amrywiaeth Ymgeiswyr Etholiadol, a lansiwyd fel cynllun peilot yn 2025, yn caniatáu i grwpiau dielw a'r rhai sydd wedi cofrestru gyda'r Comisiwn Elusennau wneud cais am gyllid i gefnogi ymgeiswyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Nod y gronfa yw cael gwared ar y rhwystrau sy'n atal ymgeiswyr rhag sefyll am swydd etholiadol. Drwy gynnig cyllid i sefydliadau trydydd sector, ei nod yw sicrhau bod modd cyrraedd pob grŵp ar draws ardal ddaearyddol.
Bydd y peilot yn rhedeg tan 2027 o leiaf 2027 i gefnogi etholiad y Senedd ac etholiadau llywodraeth leol.
Adolygiad o Senedd sy’n Gynhwysol ac yn Ystyriol o Deuluoedd
Ym mis Gorffennaf 2025, cyhoeddodd Comisiwn y Senedd Adolygiad o Senedd sy'n Gynhywsol ac yn Ystyriol o Deuluoedd a fydd yn cwmpasu ystod eang o faterion, gan gynnwys cynrychiolaeth a chyfranogiad i fesur cynnydd y Senedd fel senedd sy'n sensitif i rywedd yn erbyn safonau rhyngwladol.
Mae'r adolygiad yn ymateb i argymhelliad a wnaed gan y Pwyllgor Biliau Diwygio yn ei adroddiad ar Fil Senedd Cymru (Rhestr Ymgeiswyr Etholiadol) i edrych ar ddiwylliant, ffyrdd o weithio a chyfleusterau'r Senedd.
Mae adolygiadau tebyg wedi cael eu cynnal yn Senedd y DU a Senedd yr Alban.
Mae'r adolygiad yn cael ei gynnal gan academydd annibynnol ac yn cael ei oruchwylio gan fwrdd trawsbleidiol o Aelodau o'r Senedd. Bwriad y Bwrdd yw cyhoeddi ei adroddiad a’i argymhellion erbyn diwedd 2025.
Mwy o waith i'w wneud?
Er bod y newidiadau hyn yn dechrau mynd i'r afael â’r rhwystrau i sefyll mewn etholiad ar gyfer grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, mae argymhellion eraill nad ydynt wedi'u mabwysiadu. Mae creche ar y safle ac opsiynau estynedig ar gyfer cyfranogiad o bell ytn ddau argymhelliad gan Bwyllgor Senedd y Dyfodol sydd heb eu gweithredu eto.
Argymhellwyd rhannu swyddi yn adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol a chan y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd fel ffordd o wella amrywiaeth. Mae Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 yn gofyn bod cynnig yn cael ei gyflwyno i sefydlu pwyllgor i archwilio rhannu swyddi i'r rhai sydd mewn unrhyw swydd berthnasol o fewn chwe mis i ddechrau'r Seithfed Senedd.
Y wybodaeth ddiweddaraf
Mae'r erthygl hon yn rhoi trosolwg o'r mesurau cyfredol i wella amrywiaeth y Senedd. I gael rhagor o wybodaeth am yr etholiad sydd ar ddod, ewch i’n tudalen adnoddau Etholiad.
Erthygl gan Emma Brewis, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru
Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Emma Brewis gan ESRC a alluogodd yr erthygl hon i gael ei chwblhau.