Pwy sy'n gyfrifol am reoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yng Nghymru?

Cyhoeddwyd 20/06/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

20 Mehefin 2016 Erthygl gan Rebekah James, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Person yn gwisgo cot wen a stethosgop ac yn dal clipfwrdd a beiro Mae'r rheoleiddwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn y DU yn goruchwylio'r proffesiynau iechyd a gofal cymdeithasol drwy reoleiddio gweithwyr proffesiynol unigol. Rhaid i unigolion o un o'r proffesiynau a restrir isod gofrestru gyda'r rheoleiddiwr perthnasol. Os ydynt yn ymarfer heb gael eu cofrestru, maent yn torri'r gyfraith ac yn gallu cael eu herlyn. Hefyd, mae'n rhaid i weithwyr proffesiynol fodloni safonau penodol er mwyn cael eu cynnwys ar gofrestr. Mae'r rheoleiddwyr iechyd a gofal cymdeithasol sy'n berthnasol i Gymru, ynghyd â'r proffesiynau y maent yn eu rheoleiddio, wedi'u rhestru isod: Mae'r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn sefydliad annibynnol sy'n goruchwylio gwaith naw corff statudol sy'n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU. Mae'n asesu eu perfformiad, yn cynnal archwiliadau, yn craffu ar eu penderfyniadau ac yn adrodd i'r Senedd. Mae rhagor o wybodaeth ar wefan yr Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol am y gwaith y mae'n ei wneud. Arolygu a rheoleiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru Caiff gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru eu harolygu a'u rheoleiddio gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC). Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) yw'r rheoleiddiwr ar gyfer gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, o ofalwyr plant a meithrinfeydd i gartrefi ar gyfer pobl hŷn. Datblygiadau yn y dyfodol Pasiwyd Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ar 18 Ionawr 2016 ac mae'n cefnogi amcanion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Bwriad y Ddeddf yw rhoi ansawdd a gwella gwasanaethau wrth wraidd y gyfundrefn reoleiddio a chryfhau diogelwch ar gyfer y rhai sydd ei angen. Mae rhagor o wybodaeth am y Ddeddf ar gael ar wefan Arolygiaeth Gwasanaethau Gofal a Chymdeithasol Cymru (AGGCC). Tua diwedd y Pedwerydd Cynulliad, ymgynghorodd Papur Gwyrdd Llywodraeth Cymru ar yr angen i ailystyried y trefniadau ar gyfer rheoleiddio ac arolygu lleoliadau gofal iechyd, yng ngoleuni'r argymhellion a wnaed gan adolygiad Marks o Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, a'r newidiadau a gynigir yn Neddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. Roedd hyn yn cynnwys ystyried a ddylai Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru gael ei huno gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.