Yn ystod y Pumed Cynulliad, bydd Cymru’n cael cyfrifoldeb am ei threthi ei hun am y tro cyntaf ers dros 800 mlynedd. Beth mae hyn yn ei olygu i drethdalwyr Cymru?
Yn 2018, bydd y trethi datganoledig cyntaf yn cael eu trosglwyddo i Gymru. At hynny, bydd Llywodraeth Cymru’n cael pwerau benthyca sylweddol yn y cyfnod hanesyddol hwn. Bydd y pwerau hyn yn rhoi mwy o atebolrwydd ariannol i Lywodraeth Cymru, a bydd angen craffu'n agos ar hyn yn y Pumed Cynulliad. Pa drethi a gaiff eu datganoli i Gymru? Mae Deddf Cymru 2014 yn golygu bod amryw o drethi am gael eu datganoli i Lywodraeth Cymru. Ym mis Ebrill 2018, bydd Cymru’n cael cyfrifoldeb am y Dreth Trafodiadau Tir a'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi.
1. Treth Trafodiadau Tir
Bydd y Dreth Trafodiadau Tir yn disodli Treth Dir y Dreth Stamp yng Nghymru a bydd yn berthnasol i drafodion eiddo preswyl a dibreswyl. Daw cyfran sylweddol o'r Dreth Trafodiadau Tir o drafodion eiddo preswyl.
2. Treth Gwarediadau Tirlenwi
Bydd y Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn disodli Treth Tirlenwi Llywodraeth y DU, sef treth ar gyfer cael gwared ar wastraff mewn safleoedd tirlenwi. Bwriedir i'r dreth newydd gefnogi polisïau Llywodraeth Cymru ar newid yn yr hinsawdd, gwastraff, yr amgylchedd a datblygu cynaliadwy. Bydd Llywodraeth Cymru yn cadarnhau cyfraddau'r dreth yn nes at gyflwyno'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi. A fydd unrhyw beth arall yn digwydd ar ôl i'r trethi gael eu datganoli? Bydd Llywodraeth newydd Cymru yn cael pwerau ychwanegol i reoli ei chyllid drwy gronfa arian wrth gefn a phwerau benthyca helaeth.3. Cronfa arian wrth gefn
Bydd Llywodraeth Cymru yn gallu cael gafael ar gronfa newydd o arian wrth gefn i helpu i reoli ansefydlogrwydd mewn refeniw treth neu gefnogi gwariant ychwanegol drwy ddarparu modd o gadw refeniw dros ben.4. Pwerau benthyca
Mae Deddf Cymru 2014 hefyd yn cynnwys pwerau benthyca newydd i Lywodraeth Cymru drwy'r Gronfa Benthyciadau Cenedlaethol neu fenthyciwr arall. Bydd Llywodraeth newydd Cymru yn gallu benthyca o fis Ebrill 2018.
5. Ardoll Agregau
Treth yw'r ardoll hon ar ymelwa masnachol ar graig, tywod a graean yn y DU. Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bwriad i ddatganoli'r ardoll yn amodol ar benderfyniad ynghylch heriau cyfreithiol cyfredol. Byddai'r ardoll agregau yn codi £32 miliwn pe caiff ei datganoli yn 2018-19 yn ôl rhagolygon y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol.6. Treth Incwm
Yn Adolygiad o Wariant 2015, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bwriad i gael gwared ar y gofyniad i gynnal refferendwm yng Nghymru cyn datganoli treth incwm yn rhannol. Ar gyfer pob cyfradd treth incwm, disgwylir i Lywodraeth Cymru gasglu 10 ceiniog am bob punt a enillir dros y lwfans personol (hyd at £11,000 ar gyfer 2016-17). Rhagolygon y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yw y byddai Llywodraeth Cymru yn casglu dros £2 biliwn y flwyddyn gan drethdalwyr Cymru i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus unwaith y bydd treth incwm wedi'i datganoli'n rhannol. Ffynonellau allweddol- Llywodraeth Cymru, Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) (2015)
- Llywodraeth y DU, Bil Cymru: Atebolrwydd a Grymuso Ariannol (2014)
- Llywodraeth y DU, Deddf Cymru 2014 (Saesneg yn Unig) (2014)
- Llywodraeth Cymru, Dogfen Ymgynghori: Datganoli Trethi i Gymru – Treth Trafodiadau Tir (2015)
- Llywodraeth Cymru, Dogfen Ymgynghori: Treth Trafodiadau Tir (2015)
- Y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, Devolved Taxes Forecast – March 2016 (Saesneg yn Unig) (2016)